Module XCC-1213:
Astudiaethau Pwnc 1.1
Astudiaethau Pwnc 1.1 Datblygiadau sylfaenol yn y Celfyddydau Mynegiannol a Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu 2023-24
XCC-1213
2023-24
School Of Educational Sciences
Module - Semester 1 & 2
20 credits
Module Organiser:
Manon Evans
Overview
Cynnwys y modiwl: O fewn y modiwl hwn bydd Athrawon Cyswllt yn datblygu eu dealltwriaeth o feysydd Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, agweddau o'r Celfyddydau Mynegiannol, ac yn datblygu eu sgiliau Cymraeg personol eu hunain. Bydd y modiwl yma yn gwyntyllu cysyniadau sylfaenol yn y ddau faes dysgu yma a fydd yn cael eu datblygu ymhellach gan Athrawon Cysylltiol mewn modiwlau pellach.
Cynnwys y modiwl:
Cyflwyniad i'r Maes Dysgu a Phrofiad , Ieithoedd, Llythrennedd a chyfathrebu:
- Archwilio effaith ffactorau cymdeithasol ar ddatblygiad cyfathrebu.
- Cyflwyniad i ddamcaniaethau caffael iaith.
- Nodi cysyniadau allweddol ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu yn y blynyddoedd cynnar, gan astudio addysgeg pwnc-benodol ar sail ymchwil a chanolbwyntio ar:
- Siarad;
- Ddarllen;
- Ysgrifennu.
Cyflwyniad i hyrwyddo'r Gymraeg a'r Cwricwlwm Cymreig o fewn y meysydd trawsgwricwlaidd a dulliau thematig;
Cyflwyniad i'r Maes Dysgu a Phrofiad Celfyddydau Mynegiannol:
-
Archwilio agweddau at y Celfyddydau Mynegiannol a datblygiad personol o fewn y maes;
-
Nodi cysyniadau allweddol yn y Celfyddydau Mynegiannol gan astudio addysgeg pwnc-benodol ar sail ymchwil yn y meysydd canlynol: Cerddoriaeth Drama Celf
Bydd pedwar diben y cwricwlwm yn cael eu hymgorffori drwy gydol y modiwl:
Datblygu plant fel:
- Dysgwyr uchelgeisiol, galluog, yn barod i ddysgu trwy gydol eu hoes
- Cyfranwyr mentrus, creadigol, yn barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
- Dinasyddion moesegol, gwybodus Cymru a'r byd
- Unigolion iach, hyderus, yn barod i fyw bywydau boddhaus fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas
Dulliau a Methodoleg Ymchwil
Mae dysgu sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac ymchwil yn sail i gynnwys a chyflwyniad y modiwl hwn sy'n cyfleu sut y caiff theori ac ymarfer eu plethu. Yn y modiwl hwn byddwn yn cyflwyno a disgrifio cryfderau a gwendidau damcaniaethau ac ymarfer cyfredol sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn yr ystafell ddosbarth. Bydd y modiwl yn pwysleisio yr angen i fyfyrwyr ddatblygu eu gallu i fod yn ddefnyddwyr a chynhyrchwyr ymchwil gan gyflwyno’r ymchwil sy'n llywio addysgu.
Mae hyn yn cynnwys:
- Modelau adfyfyrio;
- Ymholiad ymarferwyr ar raddfa fach.
Cyfeiriwch hefyd at y canllawiau estynedig yn y dogfennau dilysu ategol
Cymraeg Pob Dydd a’r Cwricwlwm Cymreig
Nodi a chyflwyno ystod o sefyllfaoedd anffurfiol i hyrwyddo'r defnydd o Gymraeg Pob Dydd, sef patrymau iaith gyfathrebol ar draws y cwricwlwm. Egluro yn glir a chyflwyno dulliau dysgu ar gyfer prif bum agwedd y Cwricwlwm Cymreig sy'n berthnasol i wahanol bynciau a Meysydd Dysgu a Phrofiad.
Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant a Gwahaniaethu
Addasu addysgu i ddiwallu anghenion cyfnodau datblygu dysgwyr
Iechyd a Lles
Datblygu iechyd a lles trwy ddefnyddio amgylcheddau awyr agored priodol ar gyfer dysgu: mynd i'r afael â phryderon pynciol.
Noder y bydd cysylltiad penodol rhwng yr holl gynnwys ac asesiadau a'r Safonau Proffesiynol newydd ar gyfer Addysgu c Arweinyddiaeth. Gellir eu gweld yma:
http://learning.gov.wales/docs/learningwales/publications/170901-professional-standards-for-teaching-and-leadership-en.pdf Bydd y modd mae'r modiwl yma yn cyfrannu tuag at gynnydd yr athrawon cysylltiol yn erbyn y safonau proffesiynol yn cael ei wyntyllu mewn dogfen ychwanegol.
Cynnwys y modiwl:
O fewn y modiwl hwn bydd Athrawon Cyswllt yn datblygu eu dealltwriaeth o feysydd Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu, a Celfyddydau Mynegiannol, ac yn datblygu eu sgiliau Cymraeg personol eu hunain. Bydd y modiwl yn gwyntyllu cysyniadau sylfaenol yn y ddau faes dysgu y gall athrawon cysylltiol eu hymestyn mewn modiwlau pellach.
Cynnwys y modiwl:
Cyflwyniad i'r Maes Dysgu a Phrofiad , Ieithoedd, Llythrennedd a chyfathrebu:
- Archwilio effaith ffactorau cymdeithasol ar ddatblygiad cyfathrebu.
- Cyflwyniad i ddamcaniaethau caffael iaith.
- Nodi cysyniadau allweddol ieithoedd, llythrennedd a chyfathrebu yn y blynyddoedd cynnar, gan astudio addysgeg pwnc-benodol ar sail ymchwil a chanolbwyntio ar:
- Siarad;
- Ddarllen;
-
Ysgrifennu.
-
Cyflwyniad i hyrwyddo'r Gymraeg a'r Cwricwlwm Cymreig o fewn y meysydd trawsgwricwlaidd a dulliau thematig;
-
Nodi gwaelodlin pob Athro Cyswllt Cyfrwng Saesneg yn y Gymraeg a datblygu eu sgiliau llafar, darllen ac ysgrifennu personol. Bydd hyn yn seiliedig ar y camau gwahaniaethol o ruglder fel yr amlinellir ym meini prawf asesu Tystysgrif Cynllun Cenedlaethol Colegau Cymru neu feini prawf Llythrennedd Personol Cymru ar gyfer Athrawon Cyswllt Cyfrwng Cymraeg
Cyflwyniad i'r Maes Dysgu a Phrofiad ar gyfer y Celfyddydau Mynegiannol:
-
Archwilio agweddau at y celfyddydau mynegiannol a datblygiad personol o fewn y meysydd;
-
Nodi cysyniadau allweddol yn y celfyddydau mynegiannol gan astudio addysgeg pwnc-benodol ar sail ymchwil yn y meysydd canlynol: Cerddoriaeth Drama Celf
Bydd pedwar diben y cwricwlwm yn cael eu hymgorffori drwy gydol y modiwl:
Datblygu plant fel:
- Dysgwyr uchelgeisiol, galluog, yn barod i ddysgu trwy gydol eu hoes
- Cyfranwyr mentrus, creadigol, yn barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
- Dinasyddion moesegol, gwybodus Cymru a'r byd
- Unigolion iach, hyderus, yn barod i fyw bywydau boddhaus fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas
Dulliau a Methodoleg Ymchwil
Mae dysgu sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac ymchwil yn sail i gynnwys a chyflwyniad y modiwl hwn sy'n cyfleu sut y caiff theori ac ymarfer eu plethu. Yn y modiwl hwn byddwn yn cyflwyno a disgrifio cryfderau a gwendidau damcaniaethau ac ymarfer cyfredol sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn yr ystafell ddosbarth. Bydd y modiwl yn pwysleisio yr angen i fyfyrwyr ddatblygu eu gallu i fod yn ddefnyddwyr a chynhyrchwyr ymchwil gan gyflwyno’r ymchwil sy'n llywio addysgu.
Mae hyn yn cynnwys:
- Modelau adfyfyrio;
- Ymholiad ymarferwyr ar raddfa fach.
Cyfeiriwch hefyd at y canllawiau estynedig yn y dogfennau dilysu ategol
Cymraeg Pob Dydd a’r Cwricwlwm Cymreig
Nodi a chyflwyno ystod o sefyllfaoedd anffurfiol i hyrwyddo'r defnydd o Gymraeg Pob Dydd, sef patrymau iaith gyfathrebol ar draws y cwricwlwm. Egluro yn glir a chyflwyno dulliau dysgu ar gyfer prif bum agwedd y Cwricwlwm Cymreig sy'n berthnasol i wahanol bynciau a Meysydd Dysgu a Phrofiad.
Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant a Gwahaniaethu
Addasu addysgu i ddiwallu anghenion cyfnodau datblygu dysgwyr
Iechyd a Lles
Datblygu iechyd a lles trwy ddefnyddio amgylcheddau awyr agored priodol ar gyfer dysgu: mynd i'r afael â phryderon pynciol.
Noder y bydd cysylltiad penodol rhwng yr holl gynnwys ac asesiadau a'r Safonau Proffesiynol newydd ar gyfer Addysgu c Arweinyddiaeth. Gellir eu gweld yma:
http://learning.gov.wales/docs/learningwales/publications/170901-professional-standards-for-teaching-and-leadership-en.pdf Bydd y modd mae'r modiwl yn cyfrannu tuag at gynnydd yr athrawon cysylltiol yn erbyn y safonau proffesiynol yn cael gwyntyllu mewn dogfen ychwanegol.
Assessment Strategy
-trothwy -(D) Bydd pob deilliant dysgu wedi'u cyflawni ar lefel foddhaol. Bydd gwybodaeth a dealltwriaeth ardderchog o gynnwys y modiwl yn cael ei gefnogi gan ystod foddhaol o lenyddiaeth theori, ymarfer ac ymchwil. Bydd ymgeiswyr yn darparu dadansoddiad beirniadol foddhaol wrth fyfyrio ar ystod gyfyngedig o arddulliau addysgu a dysgu. Bydd myfyrwyr wedi datblygu sgiliau astudio foddhaol a byddant yn gallu cyfathrebu i safon foddhaol mewn cyd-destunau proffesiynol ac academaidd.
-da -(B) Bydd y rhan fwyaf o ganlyniadau dysgu wedi'u cynhyrchu ar lefel dda. Gall rhagoriaeth mewn rhai deilliannau dysgu wneud iawn am gyrhaeddiad boddhaol mewn eraill. Bydd gwybodaeth a dealltwriaeth dda o gynnwys y modiwl yn cael eu cefnogi gan amrywiaeth dda o lenyddiaeth theori, ymarfer ac ymchwil. Bydd ymgeiswyr yn darparu dadansoddiad beirniadol da wrth fyfyrio ar ystod sylweddol o arddulliau addysgu a dysgu. Bydd myfyrwyr wedi datblygu sgiliau astudio da a byddant yn gallu cyfathrebu i safon dda mewn cyd-destunau proffesiynol ac academaidd.
-rhagorol -(A) Bydd y rhan fwyaf o'r deilliannau dysgu wedi'u cyflawni ar lefel ragorol. Bydd gwybodaeth a dealltwriaeth ardderchog o gynnwys y modiwl yn cael ei gefnogi gan ystod ardderchog o lenyddiaeth theori, ymarfer ac ymchwil. Bydd ymgeiswyr yn darparu dadansoddiad beirniadol rhagorol wrth fyfyrio ar ystod sylweddol o arddulliau addysgu a dysgu. Bydd myfyrwyr wedi datblygu sgiliau astudio rhagorol a byddant yn gallu cyfathrebu i safon ragorol mewn cyd-destunau proffesiynol ac academaidd.
Learning Outcomes
- Dangos gwybodaeth a dealltwriaeth o addysgeg pwnc-benodol ar sail ymchwil, cynnwys y cwricwlwm cysylltiedig ac arferion proffesiynol cysylltiedig. Deall addysgu celfyddydau mynegiannol ac iaith, llythrennedd a chyfathrebu yn effeithiol:
- Datblygu gwybodaeth bynciol cadarn er mwyn galluogi addysgu a dysgu effeithiol.
- Nodi ffyrdd y gellir ymgorffori cyfrifoldebau trawsgwricwlaidd llythrennedd o fewn y cwricwlwm.
Assessment method
Group Presentation
Assessment type
Summative
Description
Ymarfer adrodd stori ( Pie Corbett)
Weighting
40%
Due date
06/12/2023
Assessment method
Essay
Assessment type
Summative
Description
Cynllunio gweithgaredd dysgu sy'n arddangos ymwybyddiaeth o elfen drawsgwricwlaidd. * Dadansoddwch yn feirinadol y berthynas rhwng cerddoriaeth, rhythm a datblygiad iaith i blant yn y dysgu sylfaen * Cynlluniwch gynllun gwers sy'n cynnwys gweithgaredd addas gogyfer grwp bach o blant ( 6-8) yn y dysgu sylfaen * Bydd angen coladu a chreu adnoddau i gynnal y weithgaredd yma
Weighting
60%
Due date
24/04/2024