Module XCC-3061:
Cymraeg Mewn Blwyddyn: Cymraeg i Ymarferwyr Addysg yn y sector cynradd cyfrwng Saesneg (Rhan 2)
Module Facts
Run by School of Educational Sciences
40.000 Credits or 20.000 ECTS Credits
Semester 2
Organiser: Ms Eleri Hughes
Overall aims and purpose
Mae'r modiwl hwn yn un o gyfres o dri modiwl y rhaglen Cymraeg Mewn Blwyddyn: Cymraeg i Ymarferwyr Addysg. Bydd y rhaglen yn arwain at Ddiploma Graddedig. Mae’r modiwlau yn rhan o ddarpariaeth y Cynllun Sabothol Iaith Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor. Dyma’r ail fodiwl yn y rhaglen.
Nod y modiwl, yn unol ag amcanion y Cynllun Sabothol Cenedlaethol y mae’n rhan ohono, yw datblygu gallu ymarferwyr i ddefnyddio’r Gymraeg yn hyderus ac yn effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig mewn sefyllfaoedd amrywiol wrth gyflwyno’r Gymraeg yn y sector cynradd cyfrwng Saesneg.
Course content
Bydd y modiwl hwn yn adeiladu ar yr hyn a gyflwynwyd ym modiwl cyntaf y rhaglen: Cymraeg mewn Blwyddyn I XCC-3060.
Bydd yn canolbwyntio ar ymestyn gafael yr ymarferwyr ar batrymau ac elfennau gramadegol ynghyd â datblygu eu geirfa a’u defnydd o dermau addysgol.
Bydd yn parhau i ddatblygu sgiliau iaith Gymraeg yr ymarferwyr i’w galluogi i ddefnyddio’r Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig yn hyderus mewn amrywiaeth o gyd-destunau proffesiynol perthnasol.
Bydd yr ymarferwyr yn gallu defnyddio ystod ehangach o batrymau ac elfennau gramadegol wrth lunio a chyflwyno gwersi trawsgwricwlaidd, llunio adnoddau pwrpasol a’u gwahaniaethu ynghyd ag ystyried addasrwydd y deunydd er mwyn datblygu iaith disgyblion ar draws yr ysgol. Gwneir hyn drwy ddatblygu sgiliau gwrando, siarad, darllen ac ysgrifennu’r ymarferwyr.
Bydd y modiwl yn parhau i ddatblygu dulliau a methodolegau addysgu’r iaith Gymraeg ac yn gofyn i’r ymarferwyr werthuso eu defnydd o’r methodolegau hyn yn eu sesiynau addysgu.
Defnyddir amrywiaeth o ddysgu ffurfiol, gweithdai ymarferol, ymwelwyr a’r dosbarth, ymweliadau allanol ynghyd ag astudiaeth annibynnol dan arweiniad er mwyn cyflwyno’r modiwl hwn.
Bydd ymarferwyr yn cael cyfleoedd i ymarfer eu sgiliau ysgrifennu, gwrando a chyflwyno ar lafar. Defnyddir ystod o adnoddau iaith ac addysgol i hybu dealltwriaeth a chymhwyso sgiliau yr ymarferwyr.
Yn y modiwl hwn, bydd yr ymarferwyr yn treulio cyfnod yn ôl yn eu hysgolion eu hunain yn gweithio ar gynllun gwaith a phrosiectau sy’n cyfrannu’n strategol at ddatblygu’r Gymraeg. Yn sgil hynny, bydd cyfle i’r ymarferwyr adnabod cyfleoedd i ddatblygu’r Gymraeg yn strategol yn eu hysgolion a datblygu cynllun gwaith er mwyn ymateb i’r cyfleoedd hyn. Byddant yn derbyn yr arweiniad yma yn y cyfnod paratoi cyn mynd yn ôl i’w hysgolion ac yn ystod y cyfnod y byddant yno hefyd.
Assessment Criteria
excellent
Ardderchog (A- i A* / 70% +)
3 Sesiwn Micro Ddysgu
- Gwaith yn dangos ymwybyddiaeth gadarn o gywirdeb iaith ar lafar yn ogystal ag ynganu clir a Chymreig yn gyson.
- Defnyddio iaith y dosbarth e.e. gorchmynion a chyfarwyddiadau’n glir ac yn gywir.
- Cyflwyno’n glir ac effeithiol a rhyngweithio gyda’r dysgwyr yn bur rhugl gan ofyn ac ateb cwestiynau’n gywir a chynnig adborth ymestynnol yn gyson.
- Ymateb yn effeithiol iawn i gamgymeriadau’r dysgwyr a chynnig adborth pwrpasol.
- Dangos ymwybyddiaeth gadarn o eirfa bwrpasol ar lafar ac yn ysgrifenedig a’i defnyddio’n gywir yn gyson.
- Cyflwyno gwers sy’n dangos dealltwriaeth gadarn ac effeithiol o fethodolegau dysgu iaith a’r gallu i’w defnyddio’n llwyddiannus, ac yn eu haddasu a’u datblygu’n gyson a thrwyadl.
- Gwaith ysgrifennu wedi’i baratoi’n annibynnol heb fawr ddim cymorth nac arweiniad gan y tiwtor ac yn adlewyrchu ymwybyddiaeth gadarn o gywirdeb a defnydd o adnoddau cywiro cyfrifiadurol.
- Hunanwerthuso llafar hyderus ac annibynnol gan ymateb i’r rhan fwyaf o’r sbardunau gan y tiwtor yn ymestynnol.
- Ymdrechu'n effeithiol iawn i wahaniaethau tasgau’n bwrpasol.
Portffolio - Adnoddau Dysgu a Phrosiect Ysgol
Elfen 1 - Adnoddau dysgu
- Adnoddau pwrpasol yn dangos gwreiddioldeb cyson gan gymhwyso, addasu ac ychwanegu at y patrymau iaith a gyflwynir ar y cwrs.
- Gwaith yn dangos dealltwriaeth gref o fethodolegau dysgu iaith a’r gallu i’w defnyddio, eu haddasu a’u datblygu’n gyson a thrwyadl wrth baratoi adnoddau.
- Ymwybyddiaeth gadarn o bwysigrwydd cyfarwyddiadau cywir, clir a syml ar yr adnoddau.
- Ymwybyddiaeth gref o dermau a geirfa bwrpasol gan eu defnyddio’n gywir yn gyson a thrwyadl.
- Gwaith yn dangos dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth gref o’r patrymau iaith sydd eu hagen ar y gynulleidfa darged gan eu defnyddio’n gywir a chyson yn y gwaith.
- Ymwybyddiaeth gadarn o gywirdeb a defnydd o adnoddau cywiro cyfrifiadurol.
Elfen 2 - Prosiect Ysgol
- Cynllun pwrpasol ac addas yn dangos tystiolaeth o drafod a chydweithio agos ac effeithiol iawn gyda’r ysgol, cydweithwyr a’r athro / athrawes fro leol.
- Y gwaith ysgrifenedig yn dangos ymwybyddiaeth gref o dermau a geirfa bwrpasol gan eu defnyddio’n gywir yn gyson a thrwyadl.
- Y gwaith ysgrifenedig yn dangos ymwybyddiaeth gref o batrymau iaith a chywair addas wedi’u defnyddio’n briodol ac yn gywir yn gyson drwy’r gwaith.
- Ymwybyddiaeth gadarn o gywirdeb a defnydd o adnoddau cywiro cyfrifiadurol.
C- to C+
(C - i C+ / 50 – 59%)
3 Sesiwn Micro Ddysgu
- Gwaith yn dangos ymwybyddiaeth sylfaenol o gywirdeb iaith ar lafar yn ogystal ag ynganu clir a Chymreig yn bur gyson.
- Defnyddio iaith y dosbarth e.e. gorchmynion a chyfarwyddiadau yn bwrpasol ac ar lefel sylfaenol gywir.
- Cyflwyno’n glir ac effeithiol ar y cyfan a rhyngweithio gyda’r dysgwyr gan ofyn ac ateb cwestiynau a chynnig adborth yn bwrpasol a chywir gan amlaf.
- Yn gallu ymateb i gamgymeriadau’r dysgwyr a chynnig adborth pwrpasol yn aml.
- Cyflwyno gwers sy’n dangos dealltwriaeth sylfaenol o fethodolegau dysgu iaith ac yn eu defnyddio ar brydiau ond nid yn gyson a thrwyadl.
- Ymgais i wahaniaethu’r gwaith yn bwrpasol.
- Dangos ymwybyddiaeth sylfaenol o dermau a geirfa addas ar lafar ac yn ysgrifenedig a’u defnyddio’n gywir yn eithaf cyson.
- Gwaith ysgrifennu wedi’i baratoi’n weddol annibynnol ond gydag ychydig o arweiniad gan y tiwtor ac yn adlewyrchu ymwybyddiaeth sylfaenol o gywirdeb a defnydd o adnoddau cywiro cyfrifiadurol.
- Hunanwerthuso llafar ar ffurf atebion sylfaenol i gwestiynau’r tiwtor.
Portffolio - Adnoddau Dysgu a Phrosiect Ysgol
Elfen 1 - Adnoddau dysgu
- Adnoddau pwrpasol yn dangos defnydd sylfaenol o batrymau cyfarwydd y cwrs ynghyd â rhai patrymau gwreiddiol wedi'u cyfuno at ddibenion y dasg.
- Gwaith yn dangos dealltwriaeth sylfaenol o fethodolegau dysgu iaith a’r gallu i’w defnyddio, eu haddasu a’u datblygu yn weddol gyson wrth baratoi adnoddau.
- Ymwybyddiaeth sylfaenol o bwysigrwydd cyfarwyddiadau cywir, clir a syml ar yr adnoddau gan amlaf.
- Ymwybyddiaeth sylfaenol o dermau a geirfa bwrpasol gan eu defnyddio’n gywir yn y rhan fwyaf o achosion.
- Gwaith yn dangos dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth sylfaenol o’r patrymau iaith sydd eu hangen ar y gynulleidfa darged yn weddol gyson.
- Ymwybyddiaeth sylfaenol o gywirdeb a defnydd o adnoddau cywiro cyfrifiadurol.
- Hunanwerthuso’r sesiynau Micro Ddysgu mewn ffordd sy’n dangos gafael sylfaenol ar batrymau a chywair addas.
Elfen 2 - Prosiect Ysgol
- Cynllun pwrpasol ac addas gan fwyaf yn dangos tystiolaeth pur gyson o drafod a chydweithio agos ac effeithiol gyda’r ysgol, cydweithwyr a’r athro / athrawes fro leol.
- Y gwaith ysgrifenedig yn dangos ymwybyddiaeth sylfaenol o dermau a geirfa bwrpasol gan eu defnyddio’n gywir yn y rhan fwyaf o’r gwaith.
- Y gwaith ysgrifenedig yn dangos ymwybyddiaeth sylfaenol o batrymau iaith a chywair addas wedi’u defnyddio’n briodol ac yn gywir yn eithaf cyson.
- Ymwybyddiaeth sylfaenol o gywirdeb a defnydd o adnoddau cywiro cyfrifiadurol.
threshold
Trothwy (D- i D+ / 40 – 49%)
3 Sesiwn Micro Ddysgu
- Gwaith yn dangos ymwybyddiaeth elfennol o gywirdeb iaith ar lafar yn ogystal ag ynganu clir a Chymreig ar brydiau ond heb wneud hynny’n gyson a thrwyadl.
- Defnyddio iaith y dosbarth e.e. gorchmynion a chyfarwyddiadau ar lefel syml.
- Cyflwyno’n weddol glir ac effeithiol a rhyngweithio gyda’r dysgwyr gan ofyn ac ateb cwestiynau elfennol a chynnig adborth syml.
- Cyflwyno gwers sy’n dangos dealltwriaeth elfennol o fethodolegau dysgu iaith ac yn eu defnyddio ar adegau ond nid yn gyson.
- Ymgais i wahaniaethu’r gwaith yn bwrpasol ond heb wneud hynny’n gwbl effeithiol.
- Dangos ymwybyddiaeth o dermau a geirfa bwrpasol ar lafar ond heb eu defnyddio’n gywir yn gyson yn y gwaith.
- Wedi paratoi’r adnoddau gyda llawer o gymorth ac arweiniad gan y tiwtor.
- Hunanwerthuso llafar ar ffurf atebion elfennol i gwestiynau’r tiwtor.
Portffolio - Adnoddau Dysgu a Phrosiect Ysgol
Elfen 1 - Adnoddau dysgu
- Adnoddau eithaf pwrpasol yn dangos gallu i atgynhyrchu patrymau cyfarwydd y cwrs ond gan or-ddibynnu arnynt fel arfer.
- Gwaith yn dangos dealltwriaeth elfennol o fethodolegau dysgu iaith a’r gallu i’w defnyddio, eu haddasu a’u datblygu wrth baratoi adnoddau ond heb wneud hynny’n gyson a thrwyadl.
- Ymwybyddiaeth elfennol o bwysigrwydd cyfarwyddiadau cywir, clir a syml ar yr adnoddau ond heb wneud hynny’n gyson drwy’r gwaith.
- Ymwybyddiaeth elfennol o dermau a geirfa bwrpasol ond heb eu defnyddio’n gywir yn gyson yn y gwaith.
- Gwaith yn dangos dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth elfennol o’r patrymau iaith sydd eu hagen ar y gynulleidfa darged ond heb eu defnyddio’n gywir yn gyson yn y gwaith.
- Ymwybyddiaeth elfennol o gywirdeb a defnydd o adnoddau cywiro cyfrifiadurol.
- Hunanwerthuso’r sesiynau Micro Ddysgu mewn ffordd sy’n dangos gafael sylfaenol ar batrymau a chywair addas ond heb fod yn ymestynnol mewn unrhyw ffordd.
Elfen 2 - Prosiect Ysgol
- Cynllun eithaf pwrpasol ac addas yn dangos tystiolaeth o drafod a chydweithio gyda’r ysgol, cydweithwyr a’r athro / athrawes fro leol ar adegau.
- Y gwaith ysgrifenedig yn dangos ymwybyddiaeth elfennol o dermau a geirfa bwrpasol ond heb eu defnyddio’n gywir yn gyson yn y gwaith.
- Y gwaith ysgrifenedig yn dangos ymwybyddiaeth elfennol o batrymau iaith a chywair addas wedi’u defnyddio’n briodol ac yn gywir ar brydiau.
- Ymwybyddiaeth elfennol o gywirdeb a defnydd o adnoddau cywiro cyfrifiadurol.
good
Da (B - i B+ / 60 – 69)
3 Sesiwn Micro Ddysgu
- Gwaith yn dangos ymwybyddiaeth dda o gywirdeb iaith ar lafar yn ogystal ag ynganu clir a Chymreig gan fwyaf.
- Defnyddio iaith y dosbarth e.e. gorchmynion a chyfarwyddiadau’n glir ac yn gywir yn y rhan fwyaf o achosion.
- Cyflwyno’n glir ac effeithiol a rhyngweithio gyda’r dysgwyr yn eithaf rhugl gan ofyn ac ateb cwestiynau’n gywir a chynnig adborth ymestynnol ar brydiau.
- Yn gallu ymateb yn effeithiol i gamgymeriadau’r dysgwyr a chynnig adborth pwrpasol gan amlaf.
- Dangos ymwybyddiaeth dda o eirfa bwrpasol ar lafar ac yn ysgrifenedig a’i defnyddio’n gywir yn y rhan fwyaf o achosion.
- Cyflwyno gwers sy’n dangos dealltwriaeth dda o fethodolegau dysgu iaith a’r gallu i’w defnyddio’n llwyddiannus, ac yn eu haddasu a’u datblygu’n gyson ar y cyfan.
- Ymdrechu'n dda i wahaniaethu gwaith yn bwrpasol.
- Gwaith ysgrifennu wedi’i baratoi’n annibynnol heb lawer o gymorth nac arweiniad gan y tiwtor ac yn adlewyrchu ymwybyddiaeth dda o gywirdeb a defnydd o adnoddau cywiro cyfrifiadurol.
- Hunanwerthuso llafar hyderus ac annibynnol gan ymateb yn ymestynnol i'r rhan fwyaf o sbardunau'r tiwtor.
Portffolio – Adnoddau Dysgu a Phrosiect Ysgol
Elfen 1 - Adnoddau dysgu
- Adnoddau pwrpasol yn dangos gwreiddioldeb yn gyffredinol drwy'r gwaith gan gymhwyso, addasu ac ychwanegu at y patrymau iaith a gyflwynir ar y cwrs.
- Gwaith yn dangos dealltwriaeth dda o fethodolegau dysgu iaith a’r gallu i’w defnyddio, eu haddasu a’u datblygu’n bur gyson a thrwyadl wrth baratoi adnoddau.
- Ymwybyddiaeth dda o bwysigrwydd cyfarwyddiadau cywir, clir a syml ar yr adnoddau.
- Ymwybyddiaeth dda o dermau a geirfa bwrpasol gan eu defnyddio’n gywir gan amlaf.
- Gwaith yn dangos dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth gadarn o’r patrymau iaith sydd eu hagen ar y gynulleidfa darged gan eu defnyddio’n gywir ac yn gyson yn y rhan fwyaf o’r gwaith.
- Ymwybyddiaeth dda o gywirdeb a defnydd o adnoddau cywiro cyfrifiadurol.
Elfen 2 - Prosiect Ysgol
- Cynllun pwrpasol ac addas gan fwyaf yn dangos tystiolaeth o drafod a chydweithio agos ac effeithiol gyda’r ysgol, cydweithwyr a’r athro / athrawes fro leol.
- Y gwaith ysgrifenedig yn dangos ymwybyddiaeth dda o dermau a geirfa bwrpasol gan eu defnyddio’n gywir yn gyson a thrwyadl yn y rhan fwyaf o’r gwaith.
- Y gwaith ysgrifenedig yn dangos ymwybyddiaeth dda o batrymau iaith a chywair addas wedi’u defnyddio’n briodol ac yn gywir yn bur gyson drwy’r gwaith.
- Ymwybyddiaeth dda o gywirdeb a defnydd o adnoddau cywiro cyfrifiadurol.
Learning outcomes
-
Cynyddu ymwybyddiaeth o’r angen i wahaniaethu gweithgareddau ac adnoddau dysgu iaith yn effeithiol a phwrpasol a dechrau datblygu strategaethau i gyflawni hynny.
-
Mynegi eu hunain yn ysgrifenedig gan ddefnyddio ystod ehangach o batrymau a geirfa sy’n berthnasol i’w cyd-destun a’u sefyllfaoedd proffesiynol.
-
Defnyddio methodolegau addysgu’r iaith Gymraeg yn eu gwersi trawsgwricwlaidd er mwyn datblygu iaith disgyblion.
-
Gwerthuso eu sesiynau addysgu a’u hadnoddau addysgu.
-
Dangos hyder cynyddol i ymateb i gamgymeriadau’r dysgwyr a chynnig adborth pwrpasol.
-
Datblygu deunyddiau ac adnoddau addysgu gan ddefnyddio ystod ehangach o batrymau addas a geirfa berthnasol.
-
Drwy gydweithio gyda’r prifathro, eu cydweithwyr a’r athrawon bro, adnabod cyfleoedd ar gyfer hyrwyddo’r Gymraeg yn eu hysgolion ac ymateb i’r galw.
-
Dangos rhuglder a hyder cynyddol wrth fynegi eu hunain ar lafar gan ddefnyddio ystod ehangach o batrymau addas wrth gyflwyno gwersi trawsgwricwlaidd ar gyfer y sector cynradd cyfrwng Saesneg.
-
Deall rhai o brif reolau a phatrymau gramadegol y Gymraeg a’u cymhwyso ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Assessment Methods
Type | Name | Description | Weight |
---|---|---|---|
Meicro Ddysgu 1 | 25.00 | ||
Tasg Portffolio 1 Cynllun Ysgol | 20.00 | ||
Meicro Ddysgu 2 | 25.00 | ||
Tasg Portffolio 2 Pecyn Adnoddau | 30.00 |
Teaching and Learning Strategy
Hours | ||
---|---|---|
Private study | (gweithio ar ymarferion unigol; darllen penawdau newyddion, llyfrau darllen, cylchgronau; gwylio S4C; gwrando ar Radio Cymru; ymarfer siarad y Gymraeg mewn sefyllfaoedd anffurfiol e.e. amser paned ac amser cinio; mynychu Sadyrnau Siarad; cymdeithasau Cymraeg ac ati) |
50 |
Tutorial | Tiwtorialau Personol |
5 |
Lecture | Sesiynau dysgu amrywiol rhagor na darlithoedd ffurfiol |
190 |
Workshop | 90 | |
External visit | 20 | |
Fieldwork | Cyfnod yn eu hysgolion |
35 |
Ymwelwyr â'r dosbarth |
10 |
Transferable skills
- Literacy - Proficiency in reading and writing through a variety of media
- Computer Literacy - Proficiency in using a varied range of computer software
- Self-Management - Able to work unsupervised in an efficient, punctual and structured manner. To examine the outcomes of tasks and events, and judge levels of quality and importance
- Exploring - Able to investigate, research and consider alternatives
- Information retrieval - Able to access different and multiple sources of information
- Inter-personal - Able to question, actively listen, examine given answers and interact sensitevely with others
- Critical analysis & Problem Solving - Able to deconstruct and analyse problems or complex situations. To find solutions to problems through analyses and exploration of all possibilities using appropriate methods, rescources and creativity.
- Presentation - Able to clearly present information and explanations to an audience. Through the written or oral mode of communication accurately and concisely.
- Teamwork - Able to constructively cooperate with others on a common task, and/or be part of a day-to-day working team
- Caring - Showing concern for others; caring for children, people with disabilities and/or the elderly
- Self-awareness & Reflectivity - Having an awareness of your own strengths, weaknesses, aims and objectives. Able to regularly review, evaluate and reflect upon the performance of yourself and others
Subject specific skills
- That they have effective oral and written communication skills in their college work and with pupils and professional colleagues in schools;
- That they can present and explain effectively to peer groups including school pupils;
- That they can use ITC effectively to support teaching and learning and their wider professional role.
- That they have information and a sound understanding of the Primary Curriculum;
- That they know and understand the aims and guidelines of the National Curriculum (Key Stage 2) and The Foundation Phase Framework;
- That they can support those learning Welsh or English if that is the language in which they are being educated and is different to the language, or to the language form of their home, with the support of an experienced teacher when appropriate.
Resources
Resource implications for students
Mae Adran Addysg y Llywodraeth yn talu tâl cyflenwi i'r ysgolion sy'n rhyddhau eu hathrawon i ddod ar y cwrs ac yn talu costau teithio yr ymarferwyr eu hunain yn llawn. Mae'r ymarferwyr hefyd yn cael defnydd gliniadur ar gyfer y cwrs. (Mae cost y gliniaduron cael ei hysgwyddo gan Adran Addysg y Llywodraeth).