Module XSC-4050:
Arwain Add.Gorff (Cynradd)
Module Facts
Run by School of Educational Sciences
30.000 Credits or 15.000 ECTS Credits
Semester 1 & 2
Overall aims and purpose
Bydd y cwrs yn galluogi athrawon i
1. ddod yn fwy cyfarwydd â rhaglenni astudiaeth y Cwricwlwm Cenedlaethol, ac i rannu eu profiadau gydag athrawon eraill naill ai yn eu hysgol hwy eu hunain neu mewn clwstwr o ysgolion, a chefnogi'r athrawon hynny;
2. cynllunio'n raddol o ddechrau i ddiwedd Cyfnod Allweddol, gan sicrhau fod ehangder a chydbwysedd y rhaglen yn briodol;
3. datblygu eu dealltwriaeth o ran natur addysg gorfforol a phwysigrwydd sgiliau rheoli'r corff fel sail ar gyfer gwaith ychwanegol yn y maes;
4. meithrin y sgiliau, y wybodaeth, a'r ddealltwriaeth ar gyfer addysgu ystod o weithgareddau ymarfer corff, a sicrhau eu bod yn defnyddio dulliau cytbwys yn gyffredinol;
5. defnyddio ystod o dechnegau addysgu priodol;
6. ystyried sut i asesu, casglu gwybodaeth ynglþn â chyraeddiadau'r disgyblion, a chadw cofnodion;
7. gofalu fod pob gwers addysg gorfforol wedi'i rheoli a'i threfnu'n dda, gan roi sylw priodol i ddiogelwch;
8. ymgyfarwyddo ag ystod eang o gyfarpar ac offer ar gyfer gwersi ymarfer corff, a'r dulliau cywir a diogel o'u defnyddio;
9. gwneud y defnydd gorau a mwyaf effeithlon o'r lle sydd ar gael ar gyfer addysg gorfforol, yn cynnwys: y gampfa, y neuadd, caeau chwarae, pyllau nofio, parciau a llefydd awyr agored eraill, a chyfleusterau hamdden y gymuned leol;
10. sicrhau fod pob disgybl, waeth beth fo'i ryw, gallu, cefndir ethnig/diwylliannol, neu anghenion addysgol arbennig, yn cael yr un ddarpariaeth a'r un cyfleoedd o ran addysg gorfforol;
11. deall y broses ynghlwm wrth sefydlu cysylltiadau gyda'r ysgolion uwchradd y mae eu disgyblion yn symud iddynt, y gymuned leol, a sefydliadau chwaraeon, a darparu'r wybodaeth angenrheidiol ar gyfer ymgeisio am gymwysterau hyfforddi sefydliadau chwaraeon cenedlaethol.
Course content
Assessment Criteria
threshold
Gweler y deilliannau dysgu.good
Dealltwriaeth dda o'r holl ddeilliannau dysgu a'r berthynas rhyngddynt.excellent
Dealltwriaeth dda iawn o'r holl ddeilliannau dysgu a'r gallu i adfyfyrio ar y berthynas rhyngddynt mewn dull dadansoddol.Learning outcomes
- Bydd myfyrwyr llwyddiannus yn gallu 1. dangos sgiliau dadansoddi, synthesis, ac adfyfyrio ar sail ystod o ddarllen cefndirol; 2. ymresymu'n glir ar sail yr hyn a ddarllenwyd ac/neu ar sail yr hyn a addysgwyd ganddynt yn broffesiynol, a rhoi barn bersonol ar sail yr ymresymiad hwnnw; 3. defnyddio ffrwyth eu gwaith darllen i drin a thrafod materion proffesiynol; 4. cynllunio, gweithredu, ac arfarnu astudiaeth/ymchwiliad a wneir yn annibynnol neu ag eraill.
Assessment Methods
Type | Name | Description | Weight |
---|---|---|---|
Total module | 100.00 |
Teaching and Learning Strategy
Hours | ||
---|---|---|
60 awr o amser cyswllt dros gyfnod o 10 diwrnod. Cyfuniad o ddarlithoedd, gweithdai, a sesiynau arsylwi gwersi dosbarth. |