Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Am fwy o wybodaeth am y cwrs hwn, gweler y prosbectws os gwelwch yn dda.
Mae’r cwrs hwn yn ymateb i’r galw cynyddol gan gyflogwyr am fyfyrwyr sydd â safon uchel o sgiliau yn y Gymraeg y gellir eu cymhwyso’n rhwydd i’r gweithle. Byddwch yn astudio amryw o feysydd sy’n ymwneud ag iaith a llenyddiaeth Gymraeg gyda phwyslais mawr ar agweddau ymarferol a galwedigaethol. Bydd y cwrs yn rhoi cyfle i chi fynd ar brofiad gwaith gyda chyflogwyr a chwmnïau proffesiynol.
Mae’r cwrs hwn yn cydweithio’n agos â Chanolfan Bedwyr, canolfan sydd wedi’i henwi ar ôl cyn-bennaeth Adran Gymraeg Bangor, y diweddar Bedwyr Lewis Jones. Byddwch yn elwa o’r arbenigedd cenedlaethol a rhyngwladol y mae Canolfan Bedwyr wedi ei ddatblygu dros y blynyddoedd. Mae’r cwrs hwn yn gyfle i chi ddilyn gradd gyda’r holl elfennau sy’n ddisgwyliedig o fewn gradd draddodiadol yn y Gymraeg, ond gyda llwybr ymarferol clir a fydd yn arwain i gyfeiriadau gyrfaol amrywiol.
Ni ddylech gael eich rhwystro, chwaith, os nad oes gennych Lefel A – rydym bob tro’n fodlon ystyried cymwysterau eraill, a phrofiadau amgen: mae Cymraeg yn bwnc i fyfyrwyr o bob cefndir. Ac nid yw’r drysau ar gau hyd yn oed yn achos y rheiny nad ydynt eto wedi siarad gair o Gymraeg: mae’r cwrs pedair blynedd hwn yn caniatáu i ddechreuwyr pur astudio gyda ni.
Mae blwyddyn sylfaen unigryw, sy’n rhoi’r ffocws ar sgiliau ymarferol, wedi cael ei chynllunio ar gyfer siaradwyr ansicr a dechreuwyr: dyma gyfle ichi gael y wybodaeth a’r hyder i ymuno, yn y flwyddyn ddilynol, â blwyddyn gyntaf y BA Cymraeg Proffesiynol.
Ar y llwybr hwn, mae’r addysgu cyfrwng Cymraeg yn cynyddu fesul tipyn, ac mae modiwlau arbennig wedi eu cynllunio i hwyluso ‘croesi’r bont’ o fod yn ddysgwr i fod yn siaradwr mentrus (â gradd mewn Cymraeg).
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?
- Mae hon yn radd newydd sbon sy’n gyfuniad amrywiol o fodiwlau newydd a modiwlau traddodiadol a fydd yn cael eu haddysgu gan arbenigwyr yn eu meysydd.
- Cewch eich dysgu mewn dosbarthiadau bychain, a fydd yn eich galluogi i ddod i adnabod y staff a’ch cyd-fyfyrwyr yn dda.
- Mae gan yr Ysgol draddodiad llwyddiannus o safbwynt safon ei dysgu a boddhad myfyrwyr.
- Cewch gyfle i fynd ar brofiad gwaith fel rhan o’ch cwrs.
- Byddwch yn cael eich dysgu gan staff sy’n ymchwilio yn gyson, ac yn cyhoeddi llyfrau ac erthyglau.
- Mae proffil uchel yr Ysgol a’r parch sydd gan gyflogwyr tuag at ein safonau yn golygu bod llawer o alw gan gyflogwyr am ein myfyrwyr ni.
- Mae Bangor yn eich galluogi i fyw bywyd myfyriwr i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg mewn awyrgylch cyfeillgar a naturiol.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Mae'r rhaglen bedair-blynedd yn cynnwys Blwyddyn Sylfaen sy’n arwain at dair blynedd arferol y radd BA.
Blwyddyn Sylfaen
Mae’r flwyddyn sylfaen yn canolbwyntio’n bennaf ar feithrin sgiliau llafar, ond bydd myfyrwyr hefyd yn meithrin sgiliau ysgrifenedig ac yn dysgu am hanes, llenyddiaeth a diwylliant y Gymraeg.
Byddwch yn dysgu dan ofal arbenigwyr Canolfan Dysgu Cymraeg y Gogledd-Orllewin ym Mhrifysgol Bangor, a hefyd yn Ysgol y Gymraeg ei hun.
Modiwlau Gorfodol:
- CXC 1034 Cymraeg Llafar Dwys 1
- CXC 1035 Cymraeg Llafar Dwys 2
- CXC 1036 Cyflwyno Llenyddiaeth Gymraeg
Blynyddoedd 1-3
Byddwch yn cael ei asesu drwy amrywiaeth o ddulliau yn ôl yr hyn sy’n briodol i ofynion modiwlau unigol. Byddwch yn dysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a chewch gyfle i fynd ar leoliad gwaith. Y nod yw rhoi’r cyfle i fyfyrwyr astudio’r iaith Gymraeg mewn modd ymarferol a fydd yn cryfhau eu sgiliau ysgrifenedig a llafar yn ogystal â rhoi’r cyfle iddynt astudio agweddau ar lenyddiaeth Gymraeg hyd at y presennol. Bydd pwyslais arbennig ar ddatblygu ymwybyddiaeth a hybu dealltwriaeth o’r Gymraeg yn y gweithle.
Blwyddyn 1
Wedi cwblhau’r flwyddyn sylfaen, byddwch yn ymuno â myfyrwyr Blwyddyn 1 BA Cymraeg Proffesiynol (trywydd ail iaith). Byddwch yn astudio rhai modiwlau gorfodol sydd wedi eu cynllunio i roi trosolwg ichi o ehangder y pwnc, a chewch ddewis eraill o blith nifer o opsiynau.
Modiwlau Craidd:
- Defnyddio’r Gymraeg
- O’r Senedd i’r Swyddfa
- Llên Gyfoes
- Llên y Cyfnod Modern Cynnar
Modiwl Gorfodol:
- Cyflwyniad i Bolisi a Chynllunio Ieithyddol a ddysgir gan Dr Rhian Hodges o’r Ysgol Gwyddorau Cymdeithas
Modiwlau Opsiynol:
- Hyd at 40 credyd arall o blith modiwlau Ysgol y Gymraeg neu ysgolion eraill
Blwyddyn 2 a 3
Modiwlau Craidd:
- Iaith Gwaith
- Ymarfer Ysgrifennu
- Portffolio Proffesiynol
- Medrau Cyfieithu
Modiwlau Gorfodol:
- Datblygiad yr Iaith*
Opsiynol:
- Unrhyw 40-60 credyd arall o blith modiwlau Ysgol y Gymraeg neu ysgolion eraill
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modwilau Cymraeg Proffesiynol (i Ddechreuwyr) .
Mae cynnwys y cwrs wedi'i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,000 y flwyddyn (mynediad yn 2021/22).
- Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Ar gyfer graddau cyd-anrhydedd dylech fwrw golwg ar ofynion mynediad eich pwnc dewisol arall.
Mynediad 2020:
Cynnig nodweddiadol o isafswm o 112 pwynt tariff o gymhwyster lefel 3* e.e.:
- Lefel A (yn cynnwys gradd B mewn Cymraeg)
- BTEC Cenedlaethol/Diploma Estynedig: DMM**
- Diploma Mynediad i Addysg Uwch gyda Cymraeg fel elfen: Pasio
- Derbynnir Cymhwyster Bagloriaeth Cymru
- Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn, unigolion â Ewropeaidd ac eiswyr rhyngwladol.
*Mae cymwysterau lefel 3 yn cynnwys Lefel A, BTEC, Mynediad, Cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac eraill – am restr lawn, cyfeiriwch at www.ucas.com. **Gall gael ei ystyried gyda chymhwyst Cymraeg e.g. Lefel A.
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
Yma ym Mangor rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd. Rydym yn ystyried pob cais yn unigol a hyd yn oed os nad ydych yn cael canlyniadau sy’n cyfateb i delerau eich cynnig gwreiddiol, gwnawn ein gorau i fod yn hyblyg i’ch cais.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.Am fanylion pellach
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
I astudio cwrs gradd, diploma a thystysgrif mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn.
Mae gofynion mynediad mwy penodol i’w cael ar y tudalennau cwrs unigol.
Am fanylion pellach
E-bostiwch Derbyniadau Cyffredinol: admissions@bangor.ac.uk
Ffôn: 01248 383717
Gyrfaoedd
Mae gradd mewn Cymraeg Proffesiynol yn gallu arwain at nifer eang o yrfaoedd. Y mae galw aruthrol am raddedigion yr Ysgol hon ac mae’r sgiliau a ddysgwch wrth ddilyn modiwlau mwy ymarferol yn baratoad gwych ar gyfer gyrfa a swydd. Mae nifer o raddedigion yn mynd ymlaen i weithio mewn amryw o feysydd megis, addysgu (cynradd, uwchradd, addysg bellach, addysg uwch), cyfieithu, newyddiadura, y cyfryngau, golygu a’r byd cyhoeddi, marchnata a chysylltiadau cyhoeddus, swyddogion y wasg, cynllunio ieithyddol, gweinyddiaeth a’r gwasanaethau sifil.
Cyfleoedd ym Mangor
Profiad Gwaith a Gwirfoddoli
Mae Canolfan Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio. Mae’n dod yn gynyddol bwysig yn y farchnad swyddi heddiw i ddatblygu eich sgiliau personol a gwella eich cyflogadwyedd tra byddwch yn y brifysgol.
Ymysg y profiadau a gynigir gan y Ganolfan Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd i helpu eich datblygiad personol a’ch gyrfa, mae rhaglenni lleoliadau gwaith, cynlluniau blasu gwaith, swyddi rhan-amser a chynlluniau gwirfoddoli a mentora.
Gwobr Cyflogadwyedd Bangor
Mae Gwobr Cyflogadwyedd Bangor wedi ei gynllunio i wella rhagolygon gwaith ein myfyrwyr. Mae’n cynnig cyfleoedd rhad ac am ddim i ennill y sgiliau a’r profiadau eu hangen ar gyflogwyr, yn seiliedig ar yr ymchwil diweddaraf.Mae graddedigion y Wobr yn cael tystysgrif a thrawsgrifiad o’u gweithgareddau allgyrsiol o Brifysgol Bangor. Mae’r Wobr hefyd yn cynnig cyrsiau hyfforddi am ddim, yn helpu i’ch paratoi ar gyfer cyfweliadau, yn rhoi mynediad at feddalwedd gyrfaoedd ar-lein ac yn helpu i ddatblygu eich portffolio sgiliau o dystiolaeth ar gyfer cyflogwyr.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae'r Brifysgol yn cynnal cynllun interniaeth sy’n cynnig y cyfle i ennill profiad gwaith â thâl ar lefel raddedig mewn Ysgolion academaidd ac adrannau gwasanaeth y Brifysgol.
Mae’r cynllun yn agored i fyfyrwyr israddedig ac mae’r gwaith interniaeth ac unrhyw hyfforddiant a dderbynnir yn cael ei gofnodi yn awtomatig ar eich cofnod o weithgareddau Gwobr Cyflogadwyedd Bangor.
TARGETconnect - Gweithio tra'n astudio
Mae'r Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd yn cynnig cefnogaeth i fyfyrwyr sy'n chwilio am waith yn ystod ac yn dilyn eu cyfnod yma.
Mae TARGETconnect yn hysbysebu'r cyfleoedd canlynol:
- Swyddi i Raddedigon – yn lleol, yn genedlaethol a rhyngwladol
- Swyddi llawn-amser, rhan-amser, parhaol a thros dro
- Profiad gwaith ac interniaethau
- Cyfleon Gwirfoddol