Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r rhaglen radd amlddisgyblaethol hon yn cyfuno'ch diddordebau mewn cyfrifeg a rheolaeth i roi i chi gyfuniad unigryw o sgiliau yn y ddwy ddisgyblaeth ar gyfer gyrfa lwyddiannus. Bydd y modiwlau cyfrifyddu yn rhoi gwybodaeth ddamcaniaethol ac ymarferol gadarn i chi ym maes cyfrifeg sy'n ddefnyddiol i archwilio a dehongli perfformiad ariannol. Bydd y modiwlau rheoli wedyn yn cwmpasu'r ystod eang o bynciau busnes gan gynnwys rheolaeth strategol, marchnata, rheoli adnoddau dynol, llywodraethu corfforaethol a chynaliadwyedd.
Byddwch yn ennill y sgiliau meintiol a rheoli sydd eu hangen i wneud penderfyniadau strategol yn ogystal â sut i reoli sefydliadau mewn amgylcheddau deinamig. Gallai'r radd fynd â chi i fyd byd-eang cwmnïau rhyngwladol a marchnadoedd ariannol rhyngwladol. Neu, efallai y byddwch chi'n dewis defnyddio'r sgiliau a'r profiad i weithio yn y sector cyhoeddus neu sefydlu'ch busnes eich hun. Gan gydnabod yr amrywiaeth o lwybrau gyrfa sydd ar gael i raddedigion sydd ag arbenigedd cyfrifyddu a sgiliau arwain, mae'r cwrs yn cynnig hyblygrwydd i astudio ystod o bynciau cyflenwol a dewisol mewn disgyblaethau eraill gan gynnwys bancio, y gyfraith a chynaliadwyedd.
Yn Ysgol Busnes Bangor, mae gennym ni dîm cymwys iawn o academyddion blaenllaw gyda phrofiad a diddordebau proffesiynol mewn ystod eang o bynciau cyfrifyddu a rheoli busnes gan gynnwys: cyfrifeg ryngwladol ac adrodd ariannol, trethiant, cyfathrebu corfforaethol, rheolaeth ariannol, marchnata, cynaliadwyedd a rheoli adnoddau dynol. Mae ein tîm academaidd yn ymwneud ag ymchwil o'r radd flaenaf ym maes cyfrifeg a chyllid, gyda’r aelodau unigol yn gweithio'n rheolaidd gyda llunwyr polisi yn y llywodraeth, rheoleiddwyr a melinau trafod. Maent yn ymroddedig i gyfrannu o’u dirnadaeth o fyd polisi, ymchwil ac ymarfer proffesiynol i'ch helpu chi i ddatblygu eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth ac i wireddu'ch potensial fel ymgynghorydd cyfrifyddu a rheoli.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?
- Eithriadau o arholiadau craidd a gynigir gan gyrff cyfrifeg proffesiynol.
- Pwyslais ar faterion a datblygiadau cyfredol mewn marchnadoedd ariannol, cyfrifyddu a chyllid corfforaethol.
- Cyfunir cynnwys academaidd trylwyr â phwyslais ymarferol go iawn.
- Fe'ch addysgir mewn sawl ffordd wahanol gan ymchwilwyr ac academyddion blaenllaw sydd wedi gweithio'n broffesiynol yn y diwydiant cyfrifyddu.
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaethau Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Cynnwys y Cwrs
Bydd modd ichi ddefnyddio cyfleusterau rhagorol, cronfeydd data ariannol a chyfarpar technoleg gwybodaeth helaeth i gefnogi'ch taith ddysgu. Fe'ch addysgir gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau gan ymchwilwyr ac academyddion blaenllaw sydd wedi gweithio'n broffesiynol yn y diwydiant cyfrifyddu a chyllid. Ar ben hynny, gwahoddir gweithwyr proffesiynol allanol o fyd cyfrifyddu a rheoli busnes i gyflwyno sesiynau i ddatblygu eich gwybodaeth a'ch cysylltiadau ehangach yn y byd go iawn. O ddiwrnod cyntaf eich cwrs gradd, fe'ch anogir i feddwl yn feirniadol, gan ganiatáu ichi ddadansoddi materion busnes y byd go iawn er mwyn darparu'r atebion gorau posibl. Fe’ch cefnogir yn drwyadl hefyd i sicrhau lleoliad gwaith dewisol 12 mis i ddatblygu eich proffil cyflogadwyedd trwy roi’r hyn rydych chi wedi'i ddysgu ar waith mewn lleoliad busnes yn y byd go iawn.
Cyflwynir y cwrs yn bennaf trwy gyfuniad o ddarlithoedd, gweithdai a seminarau. Gallwch ddisgwyl cael o leiaf 12 awr o amser cyswllt gyda staff academaidd yn ystod pob wythnos addysgu. Disgwylir i chi hefyd ymgymryd ag astudio annibynnol a gwaith grŵp, a chymryd rhan mewn gweithgareddau a thrafodaethau ar-lein gan ddefnyddio ein hamgylchedd dysgu rhithwir.
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Yn eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn dysgu egwyddorion craidd cyllid, cyfrifyddu, economeg a rheolaeth, a fydd yn rhoi sylfaen ddamcaniaethol gadarn i chi ynghyd â sgiliau perthnasol i gymhwyso'r wybodaeth hon i ymarfer busnes. Byddwn hefyd yn eich cefnogi i ddatblygu sgiliau meintiol a dadansoddi busnes a fydd yn darparu sylfaen gadarn i'ch dysgu ym mlynyddoedd dau a thri.
Yn ystod eich ail flwyddyn, byddwch yn mireinio’r sgiliau a'r wybodaeth a ddatblygwyd ac yn eu cyfuno i archwilio ystod eang o faterion cyfrifyddu a chyllid gan gynnwys cyfrifeg rheolaeth strategol,
cynllunio a rheoli prosesau rheoli, a strategaethau gweithredu. Bydd modiwlau dewisol yn canolbwyntio ar faterion amserol sy'n cynnwys Arweinyddiaeth a Rheoli Adnoddau Dynol, Systemau Gwybodaeth Rheoli a Chyfrifyddu, Cyfraith Busnes ac Ymchwil Marchnata.
Yn eich trydedd flwyddyn, byddwch yn datblygu eich sgiliau dadansoddi a'ch arbenigedd gyda modiwlau mwy arbenigol a fydd yn cynnwys ymarfer cyfrifyddu a rheoleiddio uwch, mentergarwch a rheolaeth strategol, creadigrwydd ac arloesedd. Fel yn yr ail flwyddyn, bydd modd i chi ddewis rhai modiwlau sy'n canolbwyntio ar ystod o faterion busnes cyfoes sy'n cynnwys llywodraethu corfforaethol, technoleg ariannol a marchnata rhyngwladol.
Mae cynnwys y cwrs wedi'i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,000 y flwyddyn (mynediad yn 2021/22 ac yn 2022/23).
- Y ffi ar gyfer yr blwyddyn ar leoliad a blwyddyn profiad rhyngwladol yw £1,350 (2021/22 a 2022/23).
- Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
TGAU: Mathemateg gradd C/4 yn ofynnol, os na chaiff ei ddangos gan y cymhwyster/cymwysterau Lefel 3.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 96 - 128 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A: Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: MMM-DDM
- Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: MMM-DDM
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol
- Mynediad: Llwyddo
- Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080): ystyrir fesul achos
- Derbynnir Bagloriaeth Cymru
- Lefelau-T: ystyrir fesul achos
- EPQ: Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn. Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: Derbynnir cymwysterau gadael ysgol sy'n gyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu coleg o wledydd ar draws y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg isafswm). Cewch ragor o wybodaeth yma.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn. Caiff ymgeiswyr hŷn a/neu rai sydd â chymwysterau eraill eu hystyried yn ôl eu teilyngdod unigol.
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com.
TGAU: Mathemateg gradd C/4 yn ofynnol.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 80 - 120 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A
- BTEC Cenedlaethol/Diploma Estynedig a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: MMP-DDM
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol
- Mynediad: Llwyddo
- Diploma Technegol/Estynedig Uwch City & Guilds: ystyrir fesul achos
- Derbynnir Bagloriaeth Cymru
Lefelau-T: ystyrir fesul achos.
Ymgeiswyr rhyngwladol: derbynnir cymwysterau gadael ysgol a diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg sylfaenol). Cewch ragor o wybodaeth yma
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com.
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com.
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i adran Astudio ym Mangor.
Gyrfaoedd
Mae'r radd Cyfrifeg a Rheolaeth yn ddewis cyffrous i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gyrfa ym myd busnes, ac sydd eisiau sicrhau sylfaen dda mewn sgiliau cyfrifeg. Mae hi’n dal yn bosib mynd i faes cyfrifeg broffesiynol gyda’r radd hon, ond mae’r radd hefyd yn caniatáu i fyfyrwyr gynyddu eu dealltwriaeth o reoli a datblygu sgiliau eang ar gyfer y gweithle. Mae'n cynnig cyfleoedd ym mhob pob sector. Fe allech ddewis gyrfa fel ymgynghorydd rheoli yn gweithio i gwmni rhyngwladol. Fel arall, efallai yr hoffech sefydlu eich menter eich hun, yn ddiogel gan wybod fod gennych ddealltwriaeth gref am gyllid cwmnïau a sgiliau rheoli. Mae rheolaeth a chyfrifeg yn y sector cyhoeddus yn cynnig cyfleoedd ledled y Deyrnas Unedig ac yn fyd-eang. Mae adrannau'r llywodraeth ac awdurdodau lleol i gyd yn chwilio am raddedigion sy'n gallu dangos bod ganddynt wybodaeth a sgiliau dadansoddol, sgiliau arwain a dealltwriaeth sefydliadol.
Mae'r radd yn cynnig sgiliau a galluoedd unigryw i chi y mae galw mawr amdanynt gan gyflogwyr. Cefndir mewn cyfrifeg oedd man cychwyn llawer o Brif Weithredwyr cwmnïau a restrir yn gyhoeddus.
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Canolfan Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Gwobr Cyflogadwyedd Bangor (GCB)
Mae Gwobr Cyflogadwyedd Bangor yn gwrs ar-lein cynhwysfawr y gallwch ei wneud yn ôl eich cyflymder eich hun, gan fynd â chi trwy'r holl gamau y mae'n rhaid i chi eu cymryd i archwilio, paratoi a gwneud cais am eich gyrfa ddelfrydol.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan Undeb y Myfyrwyr.
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.