Marchnata a Sbaeneg BA (Cydanrhydedd)
Rhagarweiniad i’r Cwrs
You can study Marketing as a joint honours degree with Spanish (50% Marketing and 50% Spanish). Please read the course description for both subjects.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddech yn ei astudio ar y cwrs yma?
On this Joint Honours course, you will study 50% of modules in Marketing and 50% of modules in Spanish. Click on the link below to see what current students on this course are studying.
Modiwlau y flwyddyn yma
Rhoddir rhestr modiwlau ar gyfer arweiniad yn unig a gall newid. Gweld y modiwlau mae ein myfyrwyr yn astudio ar dudalen Modiwlau Marchnata a Sbaeneg.
Rhoddir cynnwys y cwrs ar gyfer arweiniad yn unig a gall newid.
Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd
This is a Joint Honours course, so please read the Employability information for Marketing and Spanish
Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd
Fel Ysgol amlddisgyblaethol sy'n cynnwys popeth o Gyfrifeg a Chyllid i Fusnes a Rheolaeth, mae Ysgol Busnes Bangor yn cynnig amrywiaeth o raglenni addas ar gyfer ystod eang o yrfaoedd. Os nad ydych wedi penderfynu ar eich llwybr gyrfa, mae hyblygrwydd ein rhaglenni'n eich galluogi i roi cynnig ar fodiwlau a meysydd pwnc gwahanol er mwyn gweld beth sy'n apelio orau at eich chwaeth bersonol a'ch dyheadau.
Cysylltiadau helaeth â diwydiant
Mae gan ein staff gysylltiadau helaeth â diwydiant. Maent yn amlwg iawn fel ymchwilwyr yn eu meysydd, yn cyhoeddi llyfrau niferus ac erthyglau mewn cyfnodolion blaenllaw, a hyd yn oed yn gwneud gwaith ymgynghorol ar lefel uchel i sefydliadau amlwg, megis Banc y Byd a Thrysorlys y Deyrnas Unedig. Lle bynnag y byddwch yn mynd iddo ar ôl graddio, byddwch yn gadael Bangor gyda gradd sy'n gyfoes, yn berthnasol ac yn cyd-fynd â'r datblygiadau diweddaraf yn y diwydiannau busnes ac ariannol.
Cyflogwyr
Dyma enghreifftiau o swyddi a gafwyd gan rai o'n graddedigion diweddar:
Israddedigion | Ôl-raddedigion |
Cydlynydd Cefnogaeth Weithredol |
Banciwr |
Cyfrifydd dan hyfforddiant |
Ymgynghorydd Rheoli |
Cyfrifydd dan hyfforddiant |
Uwch Reolwr Marchnata |
Archwilydd Cynorthwyol |
Rheolwr Cangen |
Swyddog Marchnata |
Is-lywydd |
Is Reolwr Cyfrifon |
Cynorthwywr Marchnata |
Cynorthwywr Gweinyddu AD |
Rheolwr Project |
Paragynlluniwr dan Hyfforddiant |
Cynghorwr Bancio Adwerthu Sector Fasnachol |
Swyddog Pryniant |
Uwch Reolwr (Rheoli Portffolio) |
Arolygydd Trethi EM |
Swyddog Cysylltiadau Alumni a Chodi Arian |
Rheolwr Ariannol dan Hyfforddiant |
Pennaeth Corfforaethau Byd-eang |
Cymdeithas Busnes Bangor
Gan weithio'n agos â staff academaidd, nod Cymdeithas Busnes Bangor yw hwyluso profiadau dysgu i fyfyrwyr o bob blwyddyn er mwyn adeiladu ar hyn a ddysgir yn y dosbarth a chryfhau eu CVs. Mae hefyd yn trefnu ymweliadau â ffeiriau i raddedigion, sy'n gyfle hynod werthfawr i gyfarfod a chysylltu â darpar gyflogwyr.
Cewch fwy o wybodaeth am Gymdeithas Busnes Bangor yn y Ffair Serendipedd yn ystod yr Wythnos Groeso.
Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd Prifysgol Bangor yn darparu ystod eang o adnoddau i'ch helpu i gyflawni eich dyheadau fel graddedigion. Mae datblygu eich sgiliau personol a gwella eich siawns o gael swydd dda tra ydych yn y brifysgol yn dod yn gynyddol bwysig yn y farchnad swyddi heddiw.
Ymysg y profiadau y mae'r Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd yn eu cynnig i roi hwb i'ch datblygiad personol ac i'ch gyrfa mae lleoliadau gwaith, cynlluniau blasu gwaith, gwaith rhan-amser a chyfleoedd i wirfoddoli a mentora.
Cynllun Interniaeth i Israddedigion
Mae'r cynllun interniaeth ym Mhrifysgol Bangor yn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr israddedig gael profiad gwaith cyflogedig ar lefel graddedigion yn ysgolion academaidd ac adrannau gwasanaeth y brifysgol. Gall natur y swyddi amrywio o farchnata, cynllunio gwefan a phrojectau ennyn diddordeb myfyrwyr, i roi cefnogaeth gyda phrojectau ymchwil, gwaith maes neu reoli data.
Profiad Gwaith a Gwirfoddoli
Mae Canolfan Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio. Mae’n dod yn gynyddol bwysig yn y farchnad swyddi heddiw i ddatblygu eich sgiliau personol a gwella eich cyflogadwyedd tra byddwch yn y brifysgol.
Ymysg y profiadau a gynigir gan y Ganolfan Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd i helpu eich datblygiad personol a’ch gyrfa, mae rhaglenni lleoliadau gwaith, cynlluniau blasu gwaith, swyddi rhan-amser a chynlluniau gwirfoddoli a mentora.
Gwobr Cyflogadwyedd Bangor
Mae Gwobr Cyflogadwyedd Bangor wedi ei gynllunio i wella rhagolygon gwaith ein myfyrwyr. Mae’n cynnig cyfleoedd rhad ac am ddim i ennill y sgiliau a’r profiadau eu hangen ar gyflogwyr, yn seiliedig ar yr ymchwil diweddaraf.
Mae graddedigion y Wobr yn cael tystysgrif a thrawsgrifiad o’u gweithgareddau allgyrsiol o Brifysgol Bangor. Mae’r Wobr hefyd yn cynnig cyrsiau hyfforddi am ddim, yn helpu i’ch paratoi ar gyfer cyfweliadau, yn rhoi mynediad at feddalwedd gyrfaoedd ar-lein ac yn helpu i ddatblygu eich portffolio sgiliau o dystiolaeth ar gyfer cyflogwyr.
Mwy o wybodaeth am sut y gall y Wobr eich helpu...
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae'r Brifysgol yn cynnal cynllun interniaeth sy’n cynnig y cyfle i ennill profiad gwaith â thâl ar lefel raddedig mewn Ysgolion academaidd ac adrannau gwasanaeth y Brifysgol.
Mae’r cynllun yn agored i fyfyrwyr israddedig ac mae’r gwaith interniaeth ac unrhyw hyfforddiant a dderbynnir yn cael ei gofnodi yn awtomatig ar eich cofnod o weithgareddau Gwobr Cyflogadwyedd Bangor.
TARGETconnect - Gweithio tra'n astudio
Mae'r Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd yn cynnig cefnogaeth i fyfyrwyr sy'n chwilio am waith yn ystod ac yn dilyn eu cyfnod yma.- Swyddi i Raddedigon – yn lleol, yn genedlaethol a rhyngwladol
- Swyddi llawn-amser, rhan-amser, parhaol a thros dro
- Profiad gwaith ac interniaethau
- Cyfleon Gwirfoddol
Mae TARGETconnect yn hysbysebu'r cyfleoedd canlynol:
Gofynion Mynediad
This is a Joint Honours course, so please read the Entry Requirements for Marketing and Spanish
Gofynion Mynediad Cyffredinol
Yma ym Mangor rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd. Rydym yn ystyried pob cais yn unigol a hyd yn oed os nad ydych yn cael canlyniadau sy’n cyfateb i delerau eich cynnig gwreiddiol, gwnawn ein gorau i fod yn hyblyg i’ch cais.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.Am fanylion pellach
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
I astudio cwrs gradd, diploma a thystysgrif mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn.
Mae gofynion mynediad mwy penodol i’w cael ar y tudalennau cwrs unigol.
Am fanylion pellach
E-bostiwch Derbyniadau Cyffredinol: admissions@bangor.ac.uk
Neu ysgrifennwch at:
Y Swyddfa Dderbyn
Prifysgol Bangor
Bangor,
Gwynedd
LL57 2TF
Ffôn: 01248 383717
Costau’r Cwrs
- Llawn amser: £9,000 y flwyddyn
- Rhan amser: £750 wrth 10 credyd
Necessarily Incurred Costs:
For each module, students may be required to purchase compulsory text(s), which typically will cost between £20-50.
Please note: These costs are estimates based on the previous year’s figure and are subject to change.
Sut i Ymgeisio
Sut i wneud cais drwy UCAS
UCAS yw’r Gwasanaeth Derbyniadau i Brifysgolion a Cholegau
Mae pob cais i’r brifysgol yn cael ei brosesu drwy UCAS ac yna’n cael ei drosglwyddo i’r prifysgolion a restrwyd.
Gall myfyrwyr wneud cais am hyd at bum cwrs.
Ar gyfer Meddygaeth, Deintyddiaeth a chyrsiau Milfeddygol dim ond pedwar cwrs caiff myfyrwyr restru.
Mae’r ffurflen gais i’w chael ar wefan UCAS, o dan ‘Apply’. Y dyddiad cau ar gyfer Prifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt a chyrsiau Meddygaeth, Deintyddiaeth a Milfeddygaeth ydy 15 Hydref.
Ar gyfer pob cwrs arall y dyddiad cau ydy 15 Ionawr.
Datganiad Personol
Y Datganiad Personol yw’r rhan o’r ffurflen gais sy’n gofyn am fwyaf o waith.
Cewch ddefnyddio dim ond 47 o linellau neu 500–550 o eiriau i egluro pam yr ydych am astudio’r cwrs, a’r sgiliau sydd gennych sy’n hanfodol ar gyfer astudio yn y brifysgol.
I ysgrifennu datganiad personol llwyddiannus mae’n rhaid i chi fod â dealltwriaeth dda am y cwrs a’i gynnwys. Cofiwch mai dim ond un datganiad personol rydych yn ei hysgrifennu ar gyfer eich pum dewis.
Gwnewch yn siwr bod y cyrsiau yn debyg, os nad yw yr un fath, a gwnewch yn siŵr nad ydych yn sôn am gwrs neu brifysgol penodol.
Darllenwch ein cyngor ar ysgrifennu datganiad personol llwyddianus neu gwyliwch ein fideos.
Ar ôl gwneud cais
Gallwch gadw llygaid ar eich cais drwy system UCAS ‘Track’. Bydd cynigion gan brifysgolion yn ymddangos ar Track a gallwch dderbyn neu wrthod cynnig.
Rhaid i chi fod wedi derbyn atebion gan bob prifysgol cyn y gallwch ymateb. Mae dau fath o ymateb – derbyn pendant (firm acceptance) a derbyn wrth gefn (insurance acceptance). Fel arfer mae myfyrwyr yn ymateb ar ddechrau mis Mai.
Ansicr am eich camau nesaf?
Ewch i'n gwefan Paratoi ar gyfer y Brifysgol am wybodaeth pellach ynglŷn a sut i wneud cais.
Mwy o Wybodaeth
Pam dewis astudio yn Ysgol Busnes Bangor?
- Rydym yn cael ein enwi fel un o’r 50 gorau yn y byd
am ymchwil ym maes Bancio (RePEc, Medi 2019). - Rydym hefyd ymhlith y 25% uchaf o ysgolion busnes ym Mhrydain am arddwysedd ymchwil (REF 2014)
- Mae ein hymchwilwyr pennaf yn dysgu ar raglenni isradd ac ôl-radd. Felly, caiff myfyrwyr eu dysgu gan staff academaidd sydd yn ymgymryd ag ymchwil arloesol y bydd yn cael ei rhannu mewn darlithoedd.
- Mae gennym enw da yn rhyngwladol am ymchwil mewn Cyfrifeg, Bancio, Cyllid, Economeg Gyllidol ac Econometreg.
- Mae staff academaidd wedi ysgrifennu prif werslyfrau ac erthyglau sydd wedi eu cyhoeddi mewn cyfnodolion academaidd o’r radd flaenaf. Ceir mwy o fanylion am y rhain ar y tudalennau staff.
- Cynhelir gwaith project ac ymgynghori o lefel uchel gan ein staff ar gyfer amrywiaeth o sefydliadau, megis y World Bank, Y Comisiwn Ewropeaidd, a Thrysorlys y DU.
- Gyda chymorth ariannol yr Undeb Ewropeaidd, Llywodraeth leol a Llywodraeth Cynulliad Cymru, rydym wedi sefydlu Canolfan Rheolaeth o safon fyd-eang sydd werth £14 miliwn. Mae’r Ganolfan, gyda’i chyfleusterau o’r radd flaenaf, yn cynnal hyfforddiant rheoli a phroffesiynol o safon uchel i Ogledd Cymru a thu hwnt.
- Mae ein cyn-fyfyrwyr wedi dal swyddi uchel mewn sefydliadau cyhoeddus a phreifat yn fyd-eang, megis Deutsche Bank a Rhif 10 Stryd Downing.
- Ni oedd y brifysgol gyntaf ym Mhrydain i gynnig MBA mewn Bancio a Chyllid.
Astudio ym Mangor
Gwobr Aur i Brifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor wedi ennill Gwobr Aur, y raddfa uchaf posibl, yn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu cenedlaethol (FfRhA). Prifysgol Bangor yw'r unig brifysgol yng Nghymru i ennill y safon hon. Cynhaliwyd yr asesiad FfRhA i ystyriaeth Ansawdd Addysgu, Amgylchedd Dysgu a Chanlyniadau Myfyrwyr a Budd Addysgol. Barnodd y Panel TEF bod Prifysgol Bangor yn darparu addysgu, dysgu a chanlyniadau rhagorol yn gyson i’w myfyrwyr. Maent o’r ansawdd orau a geir yn y DU.
Ymysg yr 10 uchaf
Yn ôl yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr (ACM) mae Bangor ymsyg y 10 prifysgol uchaf yn y DU o ran boddhad myfyrwyr. Mae hyn yn adlewyrchu ffocws y Brifysgol ar brofiad myfyrwyr.
Ystod eang o gyrsiau
Rydym yn cynnig cannoedd o gyrsiau ar draws y celfyddydau a’r gwyddorau. Rydym yn ymfalchïo yn ansawdd ein haddysgu a’n cyrsiau a darlithwyr wedi cael eu graddio yn y 10 uchaf yn y wlad (Gwobrau WhatUni? 2018).
Mwynhau profiad prifysgol sydd ymhlith y gorau yn y DU
Mae’r llety wedi’i warantu, cymorth i fyfyrwyr, costau byw isel a lleoliad syfrdanol i gyd yn cyfrannu tuag at hyn.
Gwnewch y mwyaf o’ch amser yma gydag aelodaeth am ddim o’n clybiau a chymdeithasau myfyrwyr. Manteiswch ar ein rhaglen profiad rhyngwladol a chymerwch ran yng Ngwobr Cyflogadwyedd Bangor sy’n cynnig profiadau i gyfaethogi eich cyfnod yn y Brifysgol.
Mae ein clybiau a chymdeithasau wedi eu henwi'r gorau ym Mhrydain yng ngwobrau WhatUni 2019!
Lleoliad heb ei ail
Astudiwch yn un o’r llefydd gorau yn y DU i fod yn fyfyriwr. Mae lleoliad Bangor – yn agos at y mynyddoedd a’r môr - wedi cael ei ddisgrifio fel ‘y lleoliad prifysgol gorau yn y DU’. Bangor yw'r lle mwyaf fforddiadwy yn y DU i fod yn fyfyriwr (TotalMoney 2019).
Buddsoddiad mewn cyfleusterau
Mae buddsoddiad parhaus mewn cyfleusterau a gwasanaethau. Mae ein datblygiadau diweddar yn cynnwys canolfan Pontio, llety i fyfyrwyr ym Mhentref y Santes Fair ac ail-ddatblygiad prif ganolfan chwaraeon y Brifysgol, Canolfan Brailsford.
Sicrwydd o lety
Rydym yn gwarantu llety i fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf sy'n gwneud cais cyn y dyddiad cau ac yn nodi Bangor fel eu Dewis Cadarn. Cafodd ein llety ei enwi'r gorau ym Mhrydain yng ngwobrau WhatUni 2018.
Profiad Myfyrwyr Bangor
Cyrsiau Cysylltiedig
- Politics and Economics (3 blwyddyn)
- Almaeneg/Bancio BA (Cydanrhydedd) (4 blwyddyn)
- Almaeneg/Cyfrifeg BA (Cydanrhydedd) (4 blwyddyn)
- Almaeneg/Economeg BA (Anrhydedd) (4 blwyddyn)
- Astudiaethau Busnes BA (Anrhydedd) (3 blwyddyn)
- Bancio a Chyllid BSc (Anrhydedd) (3 blwyddyn)
- Bancio a Sbaeneg BA (Cydanrhydedd) (4 blwyddyn)
- Bancio ac Eidaleg BA (Anrhydedd) (4 blwyddyn)
- Cyfrifeg a Bancio BSc (Anrhydedd) (3 blwyddyn)
- Cyfrifeg a Chyllid BSc (Anrhydedd) (3 blwyddyn)
- Cyfrifeg a Sbaeneg BA (Cydanrhydedd) (4 blwyddyn)
- Cyfrifeg ac Economeg BSc (Anrhydedd) (3 blwyddyn)
- Cyfrifeg ac Eidaleg BA (Anrhydedd) (4 blwyddyn)
- Cymdeithaseg ac Economeg BA (Anrhydedd) (3 blwyddyn)
- Cymraeg a Rheolaeth Busnes BA (Cydanrhydedd) (3 blwyddyn)
- Economeg a Tsieinëeg BA (Cydanrhydedd) (4 blwyddyn)
- Economeg ac Eidaleg BA (Anrhydedd) (4 blwyddyn)
- Economeg ac Sbaeneg BA (Anrhydedd) (4 blwyddyn)
- Economeg Busnes BSc (Anrhydedd) (3 blwyddyn)
- Economeg Cyllidol BSc (Anrhydedd) (3 blwyddyn)
- Ffrangeg gyda Marchnata BA (Anrhydedd) (4 blwyddyn)
- Ffrangeg/Bancio BA (Cydanrhydedd) (4 blwyddyn)
- Ffrangeg/Cyfrifeg BA (Cydanrhydedd) (4 blwyddyn)
- Ffrangeg/Economeg BA (Anrhydedd) (4 blwyddyn)
- Gwyddorau Chwaraeon a Marchnata BSc (Cydanrhydedd) (3 blwyddyn)
- Gwyddorau Chwaraeon a Rheolaeth Busnes BSc (Cydanrhydedd) (3 blwyddyn)
- Hanes ac Economeg BA (Anrhydedd) (3 blwyddyn)
- Marchnata BSc (Anrhydedd) (3 blwyddyn)
- Marchnata a Ffrangeg BA (Cydanrhydedd) (4 blwyddyn)
- Marchnata ac Almaeneg BA (Cydanrhydedd) (4 blwyddyn)
- Marchnata ac Eidaleg BA (Anrhydedd) (4 blwyddyn)
- Marchnata gyda Almaeneg BA (Anrhydedd) (3 blwyddyn)
- Marchnata gyda Eidaleg BA (Anrhydedd) (3 blwyddyn)
- Marchnata gyda Ffrangeg BA (Anrhydedd) (3 blwyddyn)
- Marchnata gyda Sbaeneg BA (Anrhydedd) (3 blwyddyn)
- Marchnata gyda Seicoleg BSc (Anrhydedd) (3 blwyddyn)
- Polisi Cymdeithasol ac Economeg BA (Anrhydedd) (3 blwyddyn)
- Rheoli Busnes BSc (Anrhydedd) (3 blwyddyn)
- Rheoli Busnes a Chyllid BSc (Anrhydedd) (3 blwyddyn)
- Rheoli Busnes a Marchnata BSc (Anrhydedd) (3 blwyddyn)
- Rheoli Busnes a Sbaeneg BA (Cydanrhydedd) (4 blwyddyn)
- Rheoli Busnes a Tsieinëeg BA (Cydanrhydedd) (4 blwyddyn)
- Rheoli Busnes ac Almaeneg BA (Cydanrhydedd) (4 blwyddyn)
- Rheoli Busnes ac Eidaleg BA (Anrhydedd) (4 blwyddyn)
- Rheoli Busnes ac Y Gyfraith BA (Anrhydedd) (3 blwyddyn)
- Rheoli Busnes gyda Almaeneg BSc (Anrhydedd) (3 blwyddyn)
- Rheoli Busnes gyda Chyfrifeg BSc (Anrhydedd) (3 blwyddyn)
- Rheoli Busnes gyda Eidaleg BSc (Anrhydedd) (3 blwyddyn)
- Rheoli Busnes gyda Ffrangeg BSc (Anrhydedd) (3 blwyddyn)
- Rheoli Busnes gyda Ffrangeg BSc (Anrhydedd) (4 blwyddyn)
- Rheoli Busnes gyda Sbaeneg BSc (Anrhydedd) (3 blwyddyn)
- Seicoleg gyda Rheoli Busnes BSc (Anrhydedd) (3 blwyddyn)