Mae Academi Fusnes Gogledd Cymru (NWBA) yn darparu hyfforddiant penodol i gefnogi perchnogion, rheolwyr a staff gyda'r sgiliau, yr offer a'r wybodaeth sydd eu hangen i ddiogelu eu busnes at y dyfodol trwy fentora a chyrsiau achrededig.
Mae Rhaglen Arweinyddiaeth ION yn datblygu ac yn gwella sgiliau arwain perchnogion, rheolwyr, arweinwyr, pobl sy'n gwneud penderfyniadau allweddol ac arweinwyr busnesau newydd yng Ngogledd Orllewin Cymru. |
Mae Rhaglen 20Twenty Twf Busnes yn datblygu ac yn gwella sgiliau twf busnes ac arwain perchnogion, rheolwyr, arweinwyr, pobl sy'n gwneud penderfyniadau allweddol ac Arweinwyr Timau busnesau yn Ngogledd Ddwyrain Cymru.
Mae Canolfan Bedwyr yn cynnig nifer o gyrsiau Cymraeg i'r rhai sy'n dymuno gwella eu Cymraeg ysgrifenedig a llafar. Maent wedi'u hanelu at fusnesau, asiantaethau a sefydliadau sy'n awyddus i ddatblygu hyder eu gweithlu i ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y gweithle.
Mae Canolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar yn cynnig ac yn hybu arfer da wrth gyflwyno ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar sy'n seiliedig ar dystiolaeth i bawb sydd ei eisiau heb ddim ffiniau economaidd, cymdeithasol, crefyddol na gwleidyddol.
Mae Canolfan Ymyrraeth Gynnar ar Sail Tystiolaeth (CEBEI) yn cynnal hyfforddiant ac ymchwil ar raglenni a deunyddiau sy'n ceisio gwella profiadau plentyndod.
Mae Cymraeg i Oedolion Prifysgol Bangor yn cynnig rhaglen drefnus ac effeithiol i oedolion sy'n dysgu Cymraeg. Mae amrywiaeth o ddosbarthiadau sy'n cynnig llwybr dilyniant clir i'r dysgwr o'r naill lefel i'r llall. Mae cyrsiau ar gael yn ystod y dydd a gyda’r nos ledled Gwynedd, Conwy a Môn.
Mae fabLAB Prifysgol Bangor yn adeilad Pontio yn darparu hyfforddiant a chymorth i lunio prototeipiau i fusnesau. Cymerwch syniad a’i wireddu, llunio prototeip, datblygu cynnyrch, dechrau busnes, gwneud fideo cyllido torfol, cydweithio, ysbrydoli a dysgu – dyna ydi fabLAB!
Cyrsiau byrion a chyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus (CPD) drwy'r Ganolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia.
Mae Prentisiaethau Gradd yn darparu ffordd i gyflogwyr gyrchu a datblygu talent a sgiliau, sy'n hanfodol i'w datblygiad wrth ddatblygu perthynas hirdymor â'r Brifysgol.
Fe gynigir nifer o gyrsiau ôl-radd gan Academi Dysgu Cymhwysol ar gyfer Iechyd Ataliol (ALPHAcademi). Mae ALPHAcademi yn rhan o rwydwaith o Academïau Dysgu Dwys, canolfannau ar gyfer datblygu sgiliau ac arbenigedd, ar gyfer rhannu gwybodaeth a throsi ymchwil yn ganlyniadau.
Rydym yn darparu cefnogaeth ac yn asesu addysgu iaith a llythrennedd i blant ac oedolion.
Rydym hefyd yn gwneud ymchwil i sail niwrowybyddol ac ymddygiadol darllen ac ysgrifennu.