Myfyrwraig yn astudio a darllen yn y llyfrgell

Ieithyddiaeth BA (Anrh) Israddedig - Mynediad: Medi 2024/25*

Manylion y Cwrs

  • Mis Dechrau Medi
  • Cod UCAS Q100
  • Cymhwyster BA (Anrh)
  • Hyd 3 blynedd
  • Blwyddyn Lleoliad Oes
  • Blwyddyn Profiad Rhyngwladol Oes
  • Modd Astudio

    Llawn amser

  • Lleoliad

    Bangor

Myfyrwyr a darlithydd mewn seminar

Darllen mwy: Ieithyddiaeth

Bydd astudio ieithyddiaeth yn eich galluogi i ddysgu am nifer o agweddau ar iaith ddynol, ei deall a'i dehongli. Byddwch yn astudio 'gwyddoniaeth' iaith, gan gynnwys y synau posibl a ddefnyddir mewn lleferydd a'u cyfuniadau (ffoneteg, ffonoleg), sut mae geiriau'n cael eu cronni trwy forffoleg), beth sy'n gwahaniaethu brawddegau oddi wrth resi o eiriau (cystrawen), ystyr (semanteg a phragmateg), effaith cymdeithas, diwylliant a normau ar ddefnydd iaith (sosioieithyddiaeth) a sut mae ieithoedd yn newid dros amser.

Myfyrwyr yn cymdeithasu y tu allan i Pontio

Darllen mwy: Saesneg

Mae Saesneg ym Mhrifysgol Bangor yn cwmpasu Iaith Saesneg, Llenyddiaeth Saesneg ac Ieithyddiaeth. Bydd astudio Iaith Saesneg yn eich cyflwyno i'r offer a'r dulliau a ddefnyddir i archwilio a disgrifio'r holl agweddau hynny ar y Saesneg a mwy, a hynny’n systematig a thrylwyr. Mae astudio Llenyddiaeth Saesneg yn rhoi cyfle i ddatblygu gwybodaeth drylwyr o destunau llenyddol, theori, hanes a beirniadaeth. Mae Ieithyddiaeth, fel y gwyddorau oll, yn cynnwys astudiaeth systematig o'r patrymau a'r rheoleidd-dra a geir mewn data lleferydd ac iaith. 

Ffeithiau Allweddol gan Darganfod Prifysgol

[0:04] Croeso i Ddiwrnod Agored Prifysgol Bangor!

[0:07] Welcome to Bangor University Open Day!

[0:29] Fedrwn i ddim meddwl am le gwell i roi hwb i'm gyrfa na Bangor.

[0:35] Dwi'n meddwl ei fod o'r penderfyniad gorau i mi ei wneud erioed.

[0:51] Dewch i Fangor - rydych yn mynd i garu'r lle!

 

 

 

 

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Ieithyddiaeth.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Ieithyddiaeth llwyddiannus ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio Ieithyddiaeth ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai Ieithyddiaeth ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

 

 

*Mae'r flwyddyn mynediad yn cyfeirio at y flwyddyn academaidd mae'r cwrs yn cychwyn ynddi yn hytrach na'r flwyddyn galendr. E.e. bydd gan gwrs sy'n cychwyn ym Mawrth 2024 ddyddiad 'Mynediad Mawrth 2023/24' gan fod y flwyddyn academaidd yn cychwyn ym Medi 2023/24. Yn yr un modd, bydd gan gwrs sy'n cychwyn yn Ionawr 2023 y dyddiad 'Mynediad Ionawr 2022/23' gan mai 2022/23 yw'r flwyddyn academaidd.

 

 

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?