Safonau Polisi a Chanllawiau Rheoli Cysylltiedig Diogelwch Rhag Tân
Hyfforddiant Tân / Trefniadau Argyfwng
Yn ogystal ag ymarferion tân rheolaidd, a gwybodaeth a chyfarwyddiadau mewn sesiynau ymgyfarwyddo a diweddaru iechyd a diogelwch, isod fe welwch ddolen i weithdrefnau brys ar beth i'w wneud pan glywch larwm tân, os byddwch yn darganfod tân, a nodyn atgoffa ar arwyddion tân cyffredin. Mae'r wybodaeth hefyd yn cynnwys y camau i'w cymryd os na allwch adael ar hyd y grisiau - ni ddylid defnyddio lifftiau os yw'r larwm tân yn canu.
Dogfennau
- Canllaw Rheoli Diogelwch Rhag Tân ar gyfer Colegau ac Adrannau
- Canllaw Rheoli Diogelwch Rhag Tân yr Gwasanaethau Campws - contact Iechyd a Diogelwch.
- Canllaw Rheoli Diogelwch Rhag Tân y Neuaddau Preswyl - contact Iechyd a Diogelwch
- Crynodeb o Swyddogaethau a Chyfrifoldebau Diogelwch Rhag Tân, Trefniadau Argyfwng (gellir ei defnyddio fel taflen neu gellir ei chynnwys mewn sesiwn gynefino iechyd a diogelwch lleol)
- Cyngor i Ymwelwyr Na Allant Ddefnyddio’r Grisiau Mewn Ymadawiad Brys (gellir ei lenwi a’i roi i unrhyw ymwelydd sydd angen cymorth mewn ymadawiad brys)
- Personal Emergency Evacuation Plans for Staff, Students and Visitors
Cyflwynia
Darganfu arolwg mewnol o systemau a rheolaeth diogelwch rhag tân y Brifysgol bod Colegau ac Adrannau’n credu bod HSG 28 Guidance on Fire Safety at the University (2008) yn anodd i’w ddefnyddio wrth benderfynu ar ddyletswyddau wrth reoli diogelwch rhag tân o ddydd i ddydd.
O’r herwydd, cynhyrchwyd Safonau Polisi Diogelwch Rhag Tân diwygiedig a Chanllawiau Rheoli Diogelwch Rhag Tân cysylltiedig newydd ac, yn dilyn llawer o ymgynghori gyda Cholegau / Adrannau, cawsant eu cymeradwyo gan Bwyllgor Iechyd a Diogelwch y Brifysgol ym Mai 2012.
Cefndir
Yn ychwanegol at y dyletswyddau cyffredinol hynny a geir yn y gyfraith, mae gan y Brifysgol, ei Cholegau a’i Hadrannau cyfansoddol ddyletswydd benodol dan y Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Rhag Tân) 2005 i asesu’r risg tân er mwyn rheoli diogelwch rhag tân yn y gweithle.
O’r herwydd, mae pob Coleg / Adran yn gyfrifol am reoli’r peryglon y maen nhw’n eu creu neu’n eu cyflwyno i’r ardaloedd a’r gweithgareddau sydd dan eu rheolaeth (sylwer: Mae’r Gwasanaethau Campws yn benodol gyfrifol am ddeunyddiau a gwasanaethau adeiladau, fel yn achos y Neuaddau Preswyl). Mae hyn hefyd yn cynnwys gweithredu mesurau diogelwch a sefydlwyd gan y Brifysgol a’r Gwasanaethau Campws er mwyn sicrhau iechyd, diogelwch a lles staff, myfyrwyr ac ymwelwyr â’u Coleg / Adran, a chydweithredu â hwy.
Safonau Polisi Diogelwch Rhag Tân a Chanllawiau Rheoli Cysylltiedig Newydd
Bydd y dogfennau hyn yn egluro’n well beth yw swyddogaethau a chyfrifoldebau Coleg / Adran a bydd yn sicrhau bod gofynion deddfwriaethol yn cael eu cyflawni gan sicrhau diogelwch staff, myfyrwyr ac eraill tra’n gweithio / astudio yn y Brifysgol.
Dylid nodi na fydd y Polisi a’r Canllawiau newydd yn gosod unrhyw gyfrifoldebau ychwanegol ar Golegau / Adrannau.
Mwy o Wybodaeth
Dylai Colegau / Adrannau gysylltu ag Gwasanaethau Campws os oes ganddynt unrhyw bryderon diogelwch tân neu unrhyw ymholiadau ynglŷn â rheoli neu gynnal a chadw deunydd a gwasanaethau adeiladau.
Dylai unrhyw ymholiadau ynglŷn â rheoli diogelwch rhag tân o ddydd i ddydd neu unrhyw gais am Hyfforddiant Gweithdrefnau Argyfwng a Diogelwch Rhag Tân gael eu cyfeirio at y Iechyd a Diogelwch.