Myfyrwyr yn ysgrifennu mewn cyfnodolyn

Ieithyddiaeth ac Ieithoedd Modern Israddedig - Mynediad yn 2022

Manylion y Cwrs

  • Dyddiad Dechrau Medi 2022
  • Cod UCAS Q3R8
  • Cymhwyster BA
  • Hyd 4 blynedd
  • Blwyddyn Lleoliad Oes
  • Blwyddyn Profiad Rhyngwladol Oes
  • Modd Astudio

    Llawn amser

  • Lleoliad

    Bangor

Myfyrwyr a darlithydd mewn seminar

Darllen mwy: Ieithyddiaeth

Bydd astudio ieithyddiaeth yn eich galluogi i ddysgu am nifer o agweddau ar iaith ddynol, ei deall a'i dehongli. Byddwch yn astudio 'gwyddoniaeth' iaith, gan gynnwys y synau posibl a ddefnyddir mewn lleferydd a'u cyfuniadau (ffoneteg, ffonoleg), sut mae geiriau'n cael eu cronni trwy forffoleg), beth sy'n gwahaniaethu brawddegau oddi wrth resi o eiriau (cystrawen), ystyr (semanteg a phragmateg), effaith cymdeithas, diwylliant a normau ar ddefnydd iaith (sosioieithyddiaeth) a sut mae ieithoedd yn newid dros amser.

Headphones and book with a Spanish flag on a desk.

Darllen mwy: Sbaeneg

 Datblygwyd ein cyrsiau Sbaeneg i roi sgiliau uwch i chi yn yr iaith Sbaeneg, ynghyd â dealltwriaeth arbenigol a manwl o'r diwylliant, y gymdeithas a'r hanes cysylltiedig.

Bwyrdd gyda chlustffonau, llyfr a baner Tsieineaidd

Darllen mwy: Tsieinëeg

Bydd ein cyrsiau yn rhoi sgiliau uwch i chi yn yr iaith Mandarin a byddwch yn datblygu dealltwriaeth arbenigol a manwl o ddiwylliant, cymdeithas a hanes Tsieina. Mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi gwybodaeth ryngddiwylliannol a sgiliau amlieithog yn fawr a bydd yr elfennau hyn yn rhoi mantais gystadleuol i chi yn y farchnad ryngwladol.

Clustffonau a llyfr ar y bwrdd gyda baner yr Almaen

Darllen mwy: Almaeneg

Datblygwyd ein cyrsiau Almaeneg i roi sgiliau uwch i chi yn yr iaith Almaeneg, ynghyd ag ymdriniaeth eang ac arbenigol ar ddiwylliant, cymdeithas a hanes y gwledydd lle siaredir Almaeneg. 

Clustffonau a llyfr ar ddesg gyda baner Ffrainc

Darllen mwy: Ffrangeg

Bydd ein cyrsiau Ffrangeg yn rhoi sgiliau uwch i chi yn yr iaith Ffrangeg ac amrediad eang o ddealltwriaeth arbenigol a manwl o'r diwylliant, y gymdeithas a'r hanes cysylltiedig.

Headphone and book on a desk with an Italian flag.

Darllen mwy: Eidaleg

Datblygwyd ein cyrsiau Eidaleg i ddarparu sgiliau uwch i chi yn yr iaith Eidaleg, ynghyd â dealltwriaeth arbenigol a manwl o'r diwylliant, y gymdeithas a'r hanes cysylltiedig.

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?