Cemegion a Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)
- Safon Polisi Rheoli Sylweddau sy'n Beryglus i Iechyd
- Cwblhau Asesiad Risg COSHH
- Diogelwch Cemegol (Taflenni Gwybodaeth)
- Cyflwyniad Hyfforddiant Asesu COSHH (Cemegol)
- Hyfforddiant Asesu Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)
- Defnyddio offer labordy yn ddiogel (gan gynnwys Cypyrddau Gwyntyllu, Awtoclafau ac ati)
- Gwybodaeth am Labelu Peryglon (Newydd)
- Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (fel y'u diwygiwyd)
- EH 40 (Terfynau Amlygiad yn y Gweithle)
- Hysbysiadau Statudol - Prifysgol Bangor
- Cyngor Cyanid - safle'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
- Pa gemegion a restrir fel rhai "peryglus"?
- Gwaredu Gwastraff Clinigol
Mae yna amrywiaeth o gemegion a deunyddiau yn y brifysgol, mae rhai yn berffaith ddiogel, gall eraill achosi niwed i chi, plentyn yn y groth neu niweidio'r amgylchedd. Dyna pam cyn cynnal unrhyw arbrawf yn y brifysgol, rhaid i chi gynnal Asesiad COSHH bob amser.
Cwblhau Asesiad COSHH
Mae'r broses hon yn hanfodol i ddarganfod beth yw'r peryglon o ddefnyddio'r cemegyn a bydd hefyd yn eich helpu i ddarganfod pa gamau rheoli y mae angen i chi eu rhoi ar waith i reoli unrhyw risg. Fodd bynnag, peidiwch byth â chymryd yn ganiataol oherwydd eich bod wedi gweithio gyda'r cemegyn yn flaenorol eich bod yn deall y risgiau sy'n gysylltiedig ag ef oherwydd bydd sut y bydd yn ymateb hefyd yn dibynnu ar nifer o ffactorau eraill, er enghraifft:
- Crynodiad
- Maint sy'n cael ei ddefnyddio
- Sut y bydd yn ymateb gyda chemegion eraill sy'n cael eu defnyddio
- Sut y bydd yn ymateb yn ystod y prosesau sy'n cael eu defnyddio
Dyna pam cyn dechrau eich Asesiad COSHH mae'n rhaid i chi gyfeirio at ganllawiau fel eich bod yn deall y cemegyn rydych yn gweithio gydag ef yn llawn. Ffynonellau gwybodaeth defnyddiol i nodi peryglon cemegol yw'r Taflenni Data Diogelwch ac mae'r gronfa ddata Sigma-Aldrich a'r wefan PubChem yn ffynonellau da o wybodaeth o'r fath, ac os na allwch ddod o hyd i wybodaeth am y cemegyn peidiwch â'i ddefnyddio a gofynnwch i'ch goruchwyliwr am help. Mae Alfa Aesar hefyd yn darparu cronfa ddata MSDS chwiliadwy dda.
Cynhyrchwyd y canllawiau canlynol i'ch helpu i ddeall proses Asesu COSHH. Mae'r canllawiau'n cynnwys Ffurflen Asesu COSHH wag y gallwch deipio ynddi'n syth a phecyn hyfforddi PowerPoint ar sut i gynnal asesiad COSHH.
- Ffurflen Asesu Risg COSHH (Word)
- Cyflwyniad Hyfforddiant Asesu Risg COSHH (PPT)
- Hyfforddiant Asesu Rheoliadau Rheoli Sylweddau Peryglus i Iechyd (COSHH)
- Ffurflen Asesu Risg Peryglon Biolegol (Word)
Diogelwch gyda chemegion
Yn ogystal, paratowyd nifer o Daflenni Gwybodaeth ar bynciau diogelwch cemegol penodol. Gobeithir y bydd y rhain yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol ac yn ateb cwestiynau cyffredin ynglŷn â diogelwch cemegol, er enghraifft cydnawsedd cemegol, storio cemegion yn ddiogel ac ati.
- Taflen Wybodaeth 1 - Pethau pwysig yn gyntaf
- Taflen Wybodaeth 2 - Nodi Peryglon Cemegol
- Taflen Wybodaeth 3 - Storio Cemegion
- Taflen Wybodaeth 4 - Cydnawsedd Cemegol
- Taflen Wybodaeth 5 - Gweithdrefn argyfwng os collir cemegion
- Taflen Wybodaeth 6 - Trafod a Defnyddio Cemegion yn Ddiogel
- Taflen Wybodaeth 7 - Gwaredu Cemegion yn Ddiogel
- Taflen Wybodaeth 8 - System wedi'i chysoni'n fyd-eang (GHS)
- Gweithdrefn Gwaredu Gwastraff Cemegol
Os yw'ch ysgol/adran yn bwriadu cynhyrchu a chyflenwi cemegion unigryw yna bydd y Rheoliadau Dosbarthu, Labelu a Phecynnu (CLP) yn berthnasol ar unwaith (yn ogystal â Chofrestru, Gwerthuso, Awdurdodi a Chyfyngu ar Gemegau (REACH)). Ceir rhagor o wybodaeth gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch neu:
- E-bost: UKREACHCA@hse.gsi.gov.uk
- Gwefan REACH [9]
- Rheoliad CLP
Pa gemegion a restrir fel rhai "peryglus"?
Mae'r Tabl o gofnodion wedi'u cysoni yn Atodiad VI i CLP ECHA wedi paratoi tabl excel sy'n cynnwys yr holl ddiweddariadau i ddosbarthu a labelu sylweddau peryglus wedi'u cysoni, sydd ar gael yn Nhabl 3.1 o Atodiad VI i'r Rheoliad CLP.
Mae'r tabl excel sy'n cynnwys yr holl ddiweddariadau i ddosbarthu a labelu sylweddau peryglus wedi'u cysoni ar gael yma.
Gwybodaeth Newydd am Beryglon a'u Labelu - gweler y cyswllt
Ers 1 Mehefin 2015, newidiodd y math o labeli rhybuddio ar sylweddau peryglus a ddosberthir/a gyflenwir gan wneuthurwyr ac ati o'r 'sgwâr oren' traddodiadol i siâp 'diemwnt' safon y byd. Mae llawer o'r delweddau wedi aros yr un peth ond cyflwynwyd nifer o ddelweddau rhybuddio newydd hefyd.
Hefyd, cyflwynodd CLP ddatganiadau rhybuddio a rhagofalus wedi'u cysoni ar gyfer labeli, a oedd yn disodli hen arddull yr ymadroddion risg a diogelwch.
Datganiadau peryglon ar gyfer labeli, er enghraifft:
- H240 - Gall gwresogi achosi ffrwydrad
- H320 - Yn achosi llid yn y llygaid
- H401 - Gwenwynig i fywyd dyfrol
Datganiadau rhagofalus ar gyfer labeli, er enghraifft:
- P102 - Cadwch y tu hwnt i gyrraedd plant
- P271 - Defnyddiwch yn yr awyr agored yn unig neu mewn man sydd wedi'i awyru'n dda
- P410 - Cadwch rhag golau'r haul
Mae rhagor o wybodaeth am y Rheoliadau CLP ar safle yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ac yn Nhaflen Wybodaeth 8 fel y manylir uchod.