Penaethiaid Colegau ac Adrannau
- Cyflwyniad
- Pam Iechyd a Diogelwch?
- Onid Gwasanaethau Iechyd a Diogelwch sy’n gyfrifol am iechyd a
diogelwch?
- Beth yw fy nghyfrifoldeb i?
- A gaf ddirprwyo cyfrifoldeb?
- Mae diogelwch yn costio arian!
- Felly beth sydd angen imi ei wneud?
- Ydw i’n gyfrifol am adeiladau hefyd?
- Beth os aiff rhywbeth o’i le?
- Sut rwy’n gwybod bod y drefn yn gweithio?
- Pwy sy’n mynd i’m helpu?
- Yr hyn y dylech ei wybod a’i wneud
- Penaethiaid Colegau/ Adrannau – Map Is-adrannol
Deon Colegau a Cyfarwyddwyr Gwasanaethau
Cyngor y Brifysgol
Fel y cyflogwr cyfreithiol, Cyngor y Brifysgol sydd â’r cyfrifoldeb yn y pen draw dros iechyd a diogelwch staff, myfyrwyr a phobl eraill yr effeithir arnynt gan weithgarwch y Brifysgol. Pwyllgor Iechyd a Diogelwch y Brifysgol sy’n cynghori Cyngor y Brifysgol am y materion hyn.
Mae’r Cyngor yn dirprwyo dyletswyddau a chyfrifoldebau rheoli i uwch reolwyr y Brifysgol sydd, yn eu tro, â chyfrifoldeb i sicrhau y cyflawnir y rhain. Mae’r Is-Ganghellor, fel y prif swyddog gweithredol, yn gyfrifol am reolaeth weithredol iechyd a diogelwch.
Wrth roi cyfrifoldeb dros reoli adnoddau ac ati i uwch staff, mae Cyngor y Brifysgol drwy hynny hefyd yn dirprwyo dyletswydd i ystyried goblygiadau unrhyw benderfyniadau iechyd a diogelwch a gymerir gan reolwyr. Yn benodol, mae Cyngor y Brifysgol yn gofyn i’r uwch staff hynny oruchwylio meysydd a gweithgareddau’r Brifysgol sy’n gweithredu dan eu rheolaeth neu eu cyfarwyddyd hwy i fodloni eu hunain y rhoddir ystyriaeth ddyledus i ofynion Polisi Iechyd a Diogelwch y Brifysgol.
Cyfeirir at berfformiad iechyd a diogelwch yn Adroddiad Blynyddol y Brifysgol, a bydd Cyngor y Brifysgol yn derbyn adroddiad blynyddol manylach ar reolaeth a pherfformiad iechyd a diogelwch.
Cynghorir y Cyngor ar faterion iechyd a diogelwch gan Bwyllgor Iechyd a Diogelwch y Brifysgol, a fydd yn cyfarfod deirgwaith y flwyddyn.