Eich sgiliau ar gyfer cyflogaeth
Ym Mangor, ein prif nod yw darparu ein myfyrwyr â sgiliau trosglwyddadwy - sgiliau fydd yn ddefnyddiol i chi mewn ystod eang o yrfaoedd. Dyma rhai o’r sgiliau trosglwyddadwy y byddwch yn ei magu yn ystod eich cyfnod astudio yn yr Ysgol Gwyddorau Biolegol ym Mangor. Er eu bod wedi eu dysgu trwy radd Gwyddorau Biolegol maent yn ddefnyddiol iawn mewn nifer iawn o amgylcheddau.
Cyfathrebu
Rydym yn addysgu pedair agwedd o gyfathrebu: (a) cymryd rhan mewn trafodaethau (b) gwneud cyflwyniadau (c) dewis a syntheseiddio gwybodaeth a (d) ysgrifennu gwahanol fathau o ddogfennau. Mae pob un o’r agweddau hyn wedi eu mewnosod yn y cwricwlwm ac mae cymorth ar gael ar gyfer gwneud cyflwyniadau trwy’r Sesiynau Ymarfer Seminar Gwyddorau Biolegol.
Sgiliau Rhifedd
O gwrs adfywio eich sgiliau mathemategol i fodiwlau ar ddylunio arbrofol a dadansoddiad ystadegol, rydym yn hyfforddi myfyrwyr ar y defnydd a dehongliad o ddata rhifiadol ac yn eu darparu gydag offer mathemategol.
Technoleg Gwybodaeth
O’r defnydd sylfaenol o lygoden a bysellfwrdd, rydym yn addysgu ein myfyrwyr i ddysgu sut i wireddu eu potensial mewn technoleg gwybodaeth. Yn ogystal â chyfathrebu drwy e-bost a’r rhyngrwyd, mae myfyrwyr yn dysgu sut i ddefnyddio prosesydd geiriau, taenlenni a graffeg. Rydym yn annog ein myfyrwyr i gymryd rhan yn y Drwydded ECDL; mae hwn yn rhoi cydnabyddiaeth allanol am gyrraedd lefel sylfaenol mewn saith maes allweddol o fewn technoleg gwybodaeth.
Gweithio gydag eraill
Rydym yn pwysleisio pa mor bwysig yw’r sgil o weithio gydag eraill drwy: (a) sut i rannu tasg yn deg ac yn effeithiol rhwng aelodau’r tîm, (B) sut i asesu grŵp o gyfranwyr a (c) sut i berthnasu â phobl fel cydweithwyr. Mewn amryw o amgylcheddau gwahanol ( fel tasgau ymarferol, gweithdai, projectau) bydd ein myfyrwyr yn gweithio gydag un, dau neu fwy o fyfyrwyr eraill. Mae gan ein myfyrwyr hefyd y cyfle i weithio gydag aelod o staff yn ystod ei gwaith project.
Gwella dysgu a pherfformiad personol
Drwy gwblhau asesiadau ffurfiol mae myfyrwyr yn dysgu sut i asesu eu cryfderau a’u gwendidau eu hunain a sut i wella arnynt. Mae’r profiad hwn, yn gyfunol â hyfforddiant ffurfiol yn helpu myfyrwyr i ddatblygu amrywiaeth o sgiliau rheoli. Maent yn dysgu:
- Rheoli tasgau - mae hyn yn cynnwys sut i dorri tasgau mawr i lawr i dasgau llai
- Rheoli amser – mae hyn yn cynnwys dysgu sut i weithio dan bwysau a chyrraedd terfyn amser gan wneud y gorau o’ch amser.
- Rheoli straen - dysgu sut i ymdopi â neu ymwrthod â straen sydd yn gysylltiedig â phwysau gwaith.
- Rheoli Gwybodaeth - dysgu sut i ddod o hyd i ac ymateb i wybodaeth newydd a sut i gadw’r wybodaeth yn gyfoes.
Ymreolaeth
I ddechrau mae myfyriwr yn cael eu darparu gydag arweiniad cry fond mae hyn yn cael ei leihau yn raddol er mwyn i’r myfyrwyr ddatblygu ymreolaeth. Er enghraifft, mae taflenni gwaith yn fanwl ac yn rhoi syniadau clir i’r myfyrwyr; ond mae'r rhain yn newid ychydig yn raddol fel bod myfyrwyr erbyn eu blwyddyn olaf yn dylunio eu harbrofion eu hunain.
Cywirdeb Gwyddonol
Mae’r myfyrwyr yn dysgu rheolau ymegnio gwyddonol, gan gynnwys cywirdeb, adrodd yn onest ac ymdrechu i ddod o hyd i wybodaeth newydd.
Cyswllt Allanol
Mae nifer o’n myfyrwyr yn gwneud projectau sydd yn cael eu cynnal tu allan i’r Brifysgol (e.e. mewn Diwydiant neu Sefydliad Ymchwil). Felly, bydd ein myfyrwyr yn cysylltu gyda lleoliadau tebyg ac yn dysgu sut i ddelio yn briodol gyda phobl.