Rhaglen BSc (Anrh) Radiograffeg Ddiagnostig - Gwybodaeth ac adborth i ymgeiswyr a wrthodwyd lle iddynt ar ôl y cyfweliad
Diolch i'r holl ymgeiswyr a ddaeth i'n dyddiau dewis. Da iawn chi am gael cynnig cyfweliad!
Darllenwch eich cynnig yn ofalus, oherwydd er eich bod efallai wedi cael eich gwrthod ar gyfer y cwrs Radiograffeg Ddiagnostig, mae'n ddigon posib y bydd y brifysgol yn gwneud cynnig arall i chi ar gyfer cwrs gwahanol.
Rydym wedi cael nifer fawr iawn o ymgeiswyr ar gyfer nifer cyfyngedig o leoedd gwag ac mae ansawdd y ceisiadau wedi bod yn uchel.
Roedd dewis ymgeiswyr i gael lle ar y cwrs yn dibynnu ar nifer y lleoedd oedd ar gael. Roedd gennym leoedd cyfyngedig i'w cynnig felly roedd rhaid gwneud dewisiadau anodd.
Dewiswyd yr ymgeiswyr llwyddiannus trwy edrych ar sawl ffactor oedd yn cynnwys y canlynol:
- Gwaith ysgrifenedig;
- Cyfweliadau unigol;
- Ceisiadau gwreiddiol, yn cynnwys eich proffil addysg
- Datganiad personol
Yn dilyn y diwrnod dewis, o'i gymharu ag ymgeiswyr eraill, ni lwyddodd y rhai aflwyddiannus i argyhoeddi'r panel o'u haddasrwydd i fynd ar y cwrs Radiograffeg Ddiagnostig y tro hwn cystal â wnaeth yr ymgeiswyr arall.
Mae rhai o'r cynigion a wneir yn amodol. Pe bai cynigion yn cael eu gwrthod, neu os na fodlonir yr amodau, byddwn yn ailedrych ar bawb a ddaeth i gyfweliad ac efallai y cynigir lle yn ddiweddarach i rai ohonynt.
Ailystyrir yr holl ymgeiswyr a gyfwelwyd cyn gwneud unrhyw gynnig dilynol.