Beth i'w ddisgwyl os cymerwch amser i ffwrdd (gadael eich astudiaethau dros dro) o'ch rhaglen astudio
Bwrsariaeth (36 taliad misol)
- Bydd Bwrsariaeth fisol y GIG yn stopio ar ddechrau mis neu mor agos â phosib ar hynny.
- Bydd taliadau gofal plant a benthyciad hefyd yn dod i ben.
- Dim ond pan ddychwelwch i astudio'n llawn-amser y bydd y taliadau bwrsariaeth, gofal plant a benthyciad yn ailddechrau.
- Bydd angen ad-dalu unrhyw daliadau bwrsariaeth a dalwyd dros amser nad oes cyfrif amdano neu amser coll.
- Os na chaiff ei ad-dalu, efallai y bydd gennych ddiffyg pan ddychwelwch i'r rhaglen heb ddigon o fwrsariaeth i dalu am weddill y cwrs
- I gael gwybodaeth am yr effaith ar eich bwrsariaeth neu fenthyciad, cysylltwch â Chyllid Myfyrwyr Cymru
- Dylech drafod goblygiadau academaidd gyda'ch tiwtor personol ac/neu arweinydd cwrs.
Sylwer: Bydd unrhyw absenoldeb heb ei drefnu o leoliad a/neu theori hefyd yn cael ei ystyried a bydd rhaid gwneud iawn am yr amser a gollwyd yn ddiweddarach. Rhaid trafod hyn gyda'ch arweinydd cwrs.
Rhaid i bob myfyriwr sy'n bwriadu cymryd amser i ffwrdd fynd trwy'r Ganolfan Gais ar Fy Mangor.
Beth sy'n digwydd pan fydd dyddiad yn cael ei gadarnhau?
Lleoliadau
- Ar ôl i chi gadarnhau neu benderfynu eich bod am adael neu gymryd amser i ffwrdd, mae'n rhaid i chi hysbysu eich lleoliadau, naill ai drwy alw i mewn neu ar y ffôn. Bydd y lleoliad yn dod i ben wedyn.
- Rhaid i unrhyw oriau lleoliad a chanlyniadau sydd heb eu cyflawni gael eu gwneud cyn ailddechrau - bydd gweinyddwyr lleoliadau yn cadarnhau oriau a gyflawnwyd ac oriau y mae angen eu gwneud.
- Ni roddir taliadau bwrsariaeth am amser y mae angen ei wneud mewn lleoliadau yn lle amser a gollwyd, oni bai y gellir darparu nodiadau salwch gan feddyg teulu am 4 wythnos neu fwy. Os na ellir gwneud hynny, ystyrir yr amser yn absenoldeb ac ni ellir rhoi taliadau amdano.
- Dim ond trwy Gyllid Myfyrwyr Cymru y gellir gwneud cais am estyniad i fwrsariaeth ac mae'n rhaid cynnwys nodiadau salwch am 4 wythnos neu fwy. Dylid gwneud cais ysgrifenedig am hynny yma hcsstudentadmin@bangor.ac.uk
Dychwelyd i raglen
Dylech ddisgwyl:
- Amserlen carfan fis cyn i chi ailddechrau eich rhaglen astudio.
- Gellir trefnu apwyntiad Iechyd Galwedigaethol ar gyfer unrhyw fyfyriwr a fu i ffwrdd oherwydd salwch. Gellir cadarnhau a thrafod hyn yn y cyfweliad gydag arweinydd y cwrs i ymdrin â chymryd amser i ffwrdd.
- Rhoddir gwybod i'r brifysgol pryd y bydd y myfyriwr yn cymryd amser i ffwrdd a phryd y bydd yn dychwelyd.
Bydd y brifysgol yn darparu:
- Cyswllt cofrestru wedi'i e-bostio'n uniongyrchol atoch chi o adran gofrestru'r brifysgol, nid gan yr Ysgol
- Anfonir y cyswllt bythefnos cyn ailddechrau, nid cyn hynny
- Bydd gennych fynediad cyfyngedig at gyfleusterau Technoleg Gwybodaeth/Gwasanaethau Gwybodaeth
- Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau a yw mynediad at y cyfleusterau hyn yn ddigonol ar gyfer cyflwyno aseiniadau, a dylech wirio hynny gyda threfnwyr modiwlau. Gellir gofyn am fwy o amser mynediad drwy studentservices@bangor.ac.uk
- Os ydych yn ail-sefyll yr arholiad Safe medicate, rhaid i chi gysylltu â studentservices@bangor.ac.uk 2 wythnos cyn dyddiad yr arholiad
Absenoldeb Mamolaeth
- Mae gennych hawl i hyd at 12 mis o absenoldeb mamolaeth â thâl
- Ewch at eich tiwtor personol neu arweinydd cwrs i gael cyngor
Bydd yr ysgol yn darparu
- Ffurflen gais am fwrsariaeth a anfonir at Gyllid Myfyrwyr Cymru gan staff gweinyddu myfyrwyr HCS
- Bwrsariaeth/benthyciad a gofal plant i ailddechrau unwaith y bydd y myfyriwr yn dechrau'r rhaglen.
- Cadarnhau eich dychweliad er mwyn i daliadau benthyciad ailddechrau
- Pennu tiwtor newydd os yw'n briodol
- Newid modiwlau ar Baner bythefnos cyn i chi ailddechrau. Bydd hyn yn caniatáu i chi gofrestru
- Os ydych yn mynd yn syth i leoliad, rhaid i chi hysbysu eu tiwtor personol o'ch presenoldeb. Rhaid cwblhau cofrestru cyn mynd ar leoliad.
Yr hyn mae'r Ysgol yn ei ddisgwyl gan fyfyriwr sy'n dychwelyd
- Cadarnhau eich dyddiad dychwelyd trwy e-bost at interruptions@bangor.ac.uk - rhaid i hyn fod yn ysgrifenedig ac ni dderbynnir gwybodaeth drwy alwad ffôn.
- Rhaid rhoi gwybod i interruptions@bangor.ac.uk am unrhyw newidiadau mewn manylion cyswllt.
- Rhaid rhoi gwybod i'r Ysgol am unrhyw newid yn eich amgylchiadau gan ddefnyddio interruptions@bangor.ac.uk - rhaid i hyn fod yn ysgrifenedig ac ni dderbynnir gwybodaeth drwy alwad ffôn.
- Rhaid llenwi a chyflwyno cais DBS newydd cyn dechrau'r rhaglen. Gall methu â gwneud hyn olygu oedi cyn i chi ddychwelyd i'r rhaglen