IMPLEMENT@Bangor 
  Rhaglen Weithredu
        Sylfaenwyr: Yr Athro Jo Rycroft-Malone a'r Athro Christopher R. Burton
Pwy ydym ni?
Grŵp brwdfrydig o weithwyr gofal iechyd proffesiynol, ymchwilwyr, myfyrwyr, staff academaidd a chynrychiolwyr cyhoeddus ydym sy'n rhannu'r un diddordeb mewn pontio rhwng gwybodaeth ac arfer. Ein cenhadaeth yw datblygu cymuned a gydnabyddir yn rhyngwladol i greu gwybodaeth am yr hyn sy’n gweithio a pham. Mae Implement@Bangor wedi llwyddo i ddenu symiau sylweddol o incwm ymchwil rhyngwladol a chenedlaethol i gyllido rhaglen o ymchwil ar weithredu, yn cynnwys gweithio traws sefydliadol.
Ein Hamcanion
- Astudio'r defnydd o weithredu er mwyn cynyddu'r defnydd a wneir o dystiolaeth mewn arferion gwaith
 - Cryfhau’r defnydd o dystiolaeth yn y modd y mae gwasanaethau iechyd a chyhoeddus yn cael eu cynllunio a’u cyflwyno
 - Cyflymu'r sylfaen theori a thystiolaeth sy’n ymwneud â gweithredu
 - Gwella gallu ymchwilwyr a gweithwyr proffesiynol i astudio a mynd ati i weithredu
 - Datblygu partneriaethau ac isadeiledd sefydliadol i gyflawni a gwerthuso gweithgareddau gweithredu
 
Ein prif feysydd diddordeb yw:
- Partneriaeth, cydweithio a chyd-gynhyrchu
 - Datblygu a phrofi theorïau
 - Effaith a dylanwad
 - Cynnwys Budd-ddeiliaid
 - Gwerthuso ymyriadau gweithredu
 - Arloesi methodolegol
 - Gwella gwasanaeth a sicrhau ansawdd
 
Dulliau o weithio
Wrth greu cymuned sy'n bwrw ati i fod yn weithredol rydym yn gweithio gyda chydweithredwyr mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys astudiaethau ymchwil a gyllidir yn gystadleuol, ymchwil a gomisiynir, gwerthuso gwasanaethau, secondiadau, efrydiaethau ac interniaethau, ynghyd ag ystod gyffrous o gyfleoedd addysgol ôl-radd drwy ymchwil ac yn hyfforddedig.