Canolfan Werth Cymdeithasol
Mae aelodau'r Ganolfan Werth Cymdeithasol yn economegwyr iechyd sydd ag arbenigedd cenedlaethol a rhyngwladol mewn gwerthuso rhaglenni iechyd cyhoeddus a mentrau rhagnodi cymdeithasol. Maent yn defnyddio dulliau sy'n seiliedig ar dystiolaeth sy'n rhychwantu ystod eang o fethodolegau ac arferion i gynyddu gwybodaeth a darparu atebolrwydd am gyllid. Mae aelodau'r Ganolfan Werth Cymdeithasol hefyd yn ymarferwyr Achrededig Enillion Cymdeithasol Ar Fuddsoddiad ac yn aelodau o Social Value UK yn ogystal ag aelodau o Sefydliad Ymchwil Rhagnodi Cymdeithasol Cymru.
Mae'r aelodau'n defnyddio'r arbenigedd hwn i arwain a chefnogi projectau cysylltiedig â rhagnodi cymdeithasol sy'n anelu at ychwanegu data cadarn at y sylfaen wybodaeth ynglŷn â rhagnodi cymdeithasol o ran gwahanol fodelau a lleoliadau, a'i effeithiau posib.
Cydnabyddir bod angen tystiolaeth fethodolegol gadarn i gyfrannu at y sylfaen dystiolaeth esblygol ar ragnodi cymdeithasol i benderfynu a yw adnoddau cyhoeddus a ddyrannwyd yn cael eu defnyddio'n effeithiol ac yn effeithlon. (Cronfa'r Brenin, 2017). Yr heriau ar gyfer y dyfodol fydd cael dull cyson o fonitro a gwerthuso yn seiliedig ar asesu effeithiau cymdeithasol a gwerth rhaglenni rhagnodi cymdeithasol a rhannu arfer da.
Un o amcanion allweddol y Ganolfan Werth Cymdeithasol yw gwella ac adeiladu ar gysylltiadau gwaith a phartneriaid - yn y byd academaidd, byrddau iechyd, awdurdodau lleol a'r trydydd sector - yn y maes hwn i ganolbwyntio ar agendâu ymchwil a gwerthuso sy'n gysylltiedig â rhagnodi cymdeithasol ac yn enwedig ag anghydraddoldebau iechyd. Nod y Ganolfan Werth Cymdeithasol yw deall mwy am effaith gwerth cymdeithasol projectau rhagnodi cymdeithasol, cynlluniau peilot a mentrau eraill i wella'r sylfaen wybodaeth a thystiolaeth genedlaethol a rhyngwladol.