Rhoi sylw i ... Sali Burns

O ble rwyt ti’n dod yn wreiddiol?

Rwy’n dod o Benrhyn-coch ger Aberystwyth. Ers gadael y fferm deuluol pan oeddwn yn 17 oed rwyf wedi byw yng Nghaerfyrddin, Swydd Sussex, Swydd Surrey, Llundain a Chaerdydd cyn ymgartrefu yn ardal Caernarfon 20 mlynedd yn ôl.

Pam benderfynaist ti ar yrfa mewn nyrsio?

Wel, nyrsio yw fy ail yrfa. Roedd fy ngyrfa gyntaf yn theatr a’r cyfryngau. Yn y blynyddoedd cynnar, gweithiais ar brosiectau drama efo pobl gydag anawsterau iechyd meddwl neu anabledd dysgu. Mwynheais ddod i nabod y bobl yma yn fawr iawn ond roeddwn yn ymwybodol nad oedd ganddof ddealltwriaeth iawn o’u bywydau na’r heriau oedd ganddynt. Wrth I amser fynd yn ei flaen, symudais i weithio ar gynhyrchu rhaglenni teledu a ffilmiau. Felly am sawl blwyddyn nid oedd ganddof unrhyw gysylltiad efo cynlluniau celfyddyd gymunedol. Yna, pan syrthiodd fy ffrind pennaf yn wael ofnadwy, newidiodd rhywbeth ynof a phenderfynais nad oeddwn am weithio yn y cyfryngau rhagor. Roeddwn am archwilio'r posibiliad o hyfforddi fel nyrs iechyd meddwl. Cyfarfuais efo darlithwyr iechyd meddwl ym Mhrifysgol Bangor ac yna cychwynnais fy hyfforddiant nyrsio fis Mawrth 1999. Rwy’n falch iawn dweud gwellodd fy nghyfaill yn llwyr o’i salwch.

Beth oedd yn straen pan oeddet yn fyfyrwraig nyrsio?

Yn annisgwyl, ddaru fi ddod yn feichiog ym mlwyddyn 1 y cwrs ac wedyn oeddwn yn rhiant sengl dros flynyddoedd 2 a 3. Roedd yn dipyn o straen ceisio cyflawni bob dim ond roedd fy nheulu a’m nghyfeillion agos yn gefnogol iawn. Hefyd darganfyddais sgiliau rheoli amser a hunanddisgyblaeth nad oeddwn yn ymwybodol oedd yn bodoli ynof gynt! Pan orffennais y cwrs a chymhwyso fel nyrs, profais hwb mawr i’n hunanhyder oherwydd fy mod mor falch o’r hyn oeddwn wedi llwyddo ei wneud serch (neu efallai oherwydd) yr heriau.

Pa waith wyt ti wedi bod yn ei wneud ers cymhwyso fel nyrs?

O 2002-2013 roeddwn yn therapydd grŵp ac yn aelod o’r tîm iechyd meddwl cymunedol yng Nghonwy.  Yna o 2013-2017 fi oedd y therapydd seicolegol ar gyfer canser, gofal lliniarol ac anhwylderau gwaedu yng Ngwynedd a Môn.

Dyweda ychydig wrthym ni am ymwybyddiaeth ofalgar.

Er bod ymarferion ymwybyddiaeth ofalgar yn tarddu o draddodiadau Dwyreiniol, nid yw ymwybyddiaeth ofalgar mewn iechyd a gofal yn grefyddol o gwbl. Mae'r rhai sy’n ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar yn teimlo ei fod yn medru helpu llawer gyda straen. Y ffordd mae hyn yn gweithio yw - wrth ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar rydym yn dysgu sylwi nid yn unig ar ein meddyliau a’n teimladau ond hefyd ein brwydrau mewnol. Rydym ni yn dueddol o eisiau dal gafael mewn teimladau rydym yn eu mwynhau ac i wthio yn erbyn neu anwybyddu profiadau annymunol - fel straen. Mae ymwybyddiaeth ofalgar yn medru lleihau'r tueddiadau yma i ddal ymlaen neu wthio i ffwrdd. Yna medrwn ganolbwyntio yn llawn ar brofiadau pleserus neu medrwn adael fynd ar y gor-feddwl a’r brwydro efo profiadau annymunol er mwyn blaenoriaethu gofalu am ein hunain yn well yng nghanol y straen neu’r trallod.

Be sy’n achosi straen i ti?

Rhianta! (Er bod rhianta hefyd yn medru bod yn hyfryd). Pobl yn dweud celwydd. Pwysau amser.

Sut wyt ti’n ymdopi efo straen?

Y peth cyntaf rwy’n ei wneud yw camu i ffwrdd o’r sefyllfa mor gynted â phosib. Yna rwy’n defnyddio technegau ymwybyddiaeth ofalgar. Y peth cyntaf rwy’n ei wneud yw talu sylw i’r man yn y corff lle rwy’n profi’r teimlad o straen. Yna rwy’n sylwi ar y meddyliau sy’n troi yn fy ymennydd. Yna rwy’n ceisio adnabod pa feddyliau sy’n ddefnyddiol a pha rai sy’n gwaethygu’r sefyllfa - yna gadael mynd y gorau fedrai ar y meddyliau sydd ddim yn fuddiol. Rwy’n gweithio gyda’r teimlad o straen yn y corff drwy adael iddo fodoli ond hefyd ceisio ymlacio oddi amgylch y teimlad yn hytrach na thynhau neu ddymuno nad oedd yno yn y lle cyntaf. Yna, y cam olaf ar gyfer delio efo fy straen yn y presennol, rwy’n talu sylw i’m hamgylch - yn sylwi ar sut mae pethau’n edrych, yn swnio ac yn teimlo. Mae hyn yn fy nhynnu yn ôl i realaeth ac yn atal fy meddyliau rhag troelli allan o bob rheolaeth.

Be mae bywyd wedi dysgu ti hyd yn hyn?

Mae bywyd - ac ymwybyddiaeth ofalgar - wedi fy nysgu i fod yn garedicach gyda fi fy hun. Mae bod yn fwy caredig tuag at fy hun wedi golygu fy mod yn medru derbyn yn well nad wyf yn berffaith. Yn ddiddorol. Mae hyn wedyn wedi rhyddhau fy sylw i fedru bod yn fwy presennol (ac efallai mwy caredig) ar gyfer y bobl o’m cwmpas.

Beth fyddet ti’n ei ddweud wrth fyfyrwyr nyrsio sy’n teimlo dan straen?

  1. Bydda’n garedig tuag at dy hun (wele uchod)
  2. Bydda’n realistig ynglŷn yr hyn fedri di ei wneud/gyflawni
  3. Parhau i gyfathrebu efo’r bobl sydd â gofal tuag atat ti
  4. Mireinia dy sgiliau rholi amser
  5. Cael llawer o cwtchus addas