Cyrsiau i ôl-raddedigion
Astudiaethau Cyfieithu (MA)
Disgrifiad
Bydd y rhaglen MA hon yn rhoi hyfforddiant theori ac ymarferol i fyfyrwyr er mwyn eu galluogi i ddilyn y ddisgyblaeth mewn cyd-destun academaidd neu alwedigaethol. Bydd y semester cyntaf yn darparu'r sylfaen theori a methodolegol trwy fodiwlau mewn Astudiaethau Cyfieithu a Dulliau Ymchwilio. Bydd y modiwlau yn yr ail semester yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ymchwilio i faes o ddiddordeb personol. Bydd y modiwl cyntaf, sef Cyfieithu ar Waith, yn ymdrin ag agweddau megis cyfieithu peirianyddol, cyfieithu ar y pryd, a meddalwedd cyfieithu, tra bydd yr ail, sef y Portffolio o Waith Cyfieithu, yn galluogi'r myfyrwyr i ddewis eu corff o ddeunyddiau eu hunain i'w cyfieithu ac i roi sylwadau arnynt. Dyma ran gyntaf y rhaglen, yr ail ran yw Traethawd Hir 20,000 o eiriau ar faes perthnasol o ddewis y myfyrwyr, a hynny dan oruchwyliaeth arbenigol.
Darperir y cwrs hwn ar y cyd ag Ysgol y Gymraeg y Brifysgol a Chanolfan Bedwyr.
Strwythur y Cwrs
Semester 1:
- Dulliau Ymchwilio (30 credyd)
- Astudiaethau Cyfieithu: Creu Disgyblaeth (30 credyd)
Semester 2:
Dylai myfyrwyr ddewis un allan o:
- Cyfieithu ar Waith (30 credyd)
Modiwl ymarferol:
- Creu Portffolio Cyfieithu (30 credyd) (ieithoedd: Cymraeg, Saesneg, Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg, Eidaleg)
Yr Haf :
- Traethawd hir (60 credyd; pwnc sy'n berthnasol i'r iaith arbenigol a ddewisir NEU astudiaeth gymharol). Gall y traethawd hir ymdrin ag unrhyw agwedd ar Astudiaethau Cyfieithu, yn seiliedig ar theori neu ymchwil, neu gyfieithiad o destun a ddewisir gan y myfyrwyr, gyda sylwadau.
Cyswllt
Am ragor o fanylion am fframwaith a chynnwys y cwrs, gwneud cais, cyllido a rhestr o’r staff academaidd sy’n cyfrannu at y cwrs hwn, cysylltwch â: Dr Helena Miguélez-Carballeira.
Ffôn
Dr Helena Miguélez-Carballeira: 01248 382041
E-bost
Gwefan
www.bangor.ac.uk/ml/index.php.cy
Cymhwyster
MA
Hyd y cwrs
1 flwyddyn yn llawn-amser neu 2 flynedd yn rhan-amser
Mynediad
Gradd anrhydedd dda neu gymhwyster cyfwerth. Fodd bynnag, mae profiad gwaith a ffactorau eraill hefyd yn cael eu hystyried.