Mae'r Brifysgol yn ymwybodol y gallai gofalu fod â goblygiadau ariannol, gyda myfyrwyr yn cael costau teithio uwch, neu'n canfod na allent weithio'n rhan-amser mor rhwydd i ategu eu cyllid myfyrwyr. I helpu i ysgafnhau ychydig o'r pryderon ariannol hyn, mae Prifysgol Bangor yn cynnig bwrsariaeth flynyddol i fyfyrwyr sy'n ofalwyr di-dâl, o hyd at £1,000 o Gronfa Galedi'r Brifysgol.