Andrea Thomas - Bydwreigiaeth
Andrea, 33 oed, myfyrwraig yn ei thrydedd flwyddyn, yn wreiddiol o'r Swistir a bellach yn byw ym Mynytho.
Diwrnod ym mywyd myfyriwr ar leoliad cymunedol
Rwy'n cyrraedd y ganolfan gymunedol ac yn cwrdd â'm mentor a gweddill y tîm cymunedol. Rwy'n ffonio'r ysbyty i gael gwybod pa ferched a ryddhawyd y noson cynt er mwyn i mi eu hychwanegu at yr ymweliadau'r diwrnod hwnnw. Mae'r llwyth gwaith dyddiol yn y dyddiadur ar gyfer ymweliadau ôl-eni neu ferched sydd angen gwiriad cyn-geni yn cael ei ddyrannu i'r bydwragedd sy'n gweithio'r diwrnod hwnnw. Yna rydym yn mynd i'r feddygfa ar gyfer clinig cyn-geni'r bore.
Yn ystod y bore rydym yn gweld merched mewn amrywiol gyfnodau o'u beichiogrwydd sy'n dod i apwyntiadau cyn-geni. Rydym yn gwirio pwysedd gwaed, wrin, twf y ffwndws ac yn gwrando ar guriad calon y ffetws yn ogystal â chymryd unrhyw waed sydd eu hangen ar gyfer profion a threfnu sganiau. Rydym wedi cwrdd â thua 9-10 o ferched erbyn amser cinio eisoes, felly rydym yn cael paned o goffi gyda'n cinio cyflym cyn dechrau ar ddyletswyddau'r prynhawn.
Yn ystod y prynhawn mae rhai bydwragedd ar y tîm yn cael eu dyrannu i'r clinig risg uchel sy'n cefnogi cydweithwyr obstetreg gyda merched yr aseswyd eu bod angen obstetregydd wrth gynllunio eu gofal, e.e. efeilliaid, toriad Cesaraidd blaenorol neu waedu. Mae fy mydwraig a minnau'n cael ein dyrannu i ymweliadau ôl-eni.
Rydym yn mynd i gartrefi merched sydd wedi cael eu babi, ac yn eu cefnogi i ofalu amdanynt eu hunain a'u babanod. Rwy'n gwirio uchder ffwndws croth y ferch i sicrhau ei fod yn crebachu yn ôl i'w le, ac yn asesu eu lles cyffredinol. Yna rydym yn gwirio'r babi'n drwyadl er mwyn sicrhau ei fod yn bwydo'n dda, os yw rhwng 5 ac 8 diwrnod oed, caiff y babi ei bwyso a chawn drafodaeth am y profion sgrinio babanod newydd-anedig cyn gwneud y prawf. Rydym yn dychwelyd i'r ganolfan ac yn cael apwyntiad gyda merch am y tro cyntaf i gymryd hanes llawn a gwneud asesiad a chynllun gofal yn ystod ei beichiogrwydd sy'n cymryd tua awr. Ar ôl yr apwyntiad hwn mae'n amser gwisgo fy nghot a mynd adref am y diwrnod.