Harriet Glenn - Bydwreigiaeth
Diwrnod ym mywyd myfyriwr ar leoliad mewn ysbyty
Mae lleoliad yn yr ysbyty yn wych gan ei fod yn caniatáu inni ymarfer y sgiliau rydym wedi dysgu amdanynt mewn darlithoedd. Yn yr ysbyty, rydym yn cael ein dyrannu i brif fentor ac yn dilyn ei sifftiau, sydd fel arfer yn 12.5 awr o hyd a gallent fod yn sifftiau dydd neu nos.
Mae'r shifftiau dydd o 07:45-20:15 ac mae'r sifftiau nos o 19:45-08:15. Yr ysbyty yw un o'n hoff leoliadau, gan fod y sifftiau hir yn rhoi llawer o amser inni arsylwi, dysgu ac ymarfer.
Yn yr ysbyty, mae myfyrwyr bydwreigiaeth yn gweithio dan oruchwyliaeth ar y ward cyn-geni ac ôl-eni, yr uned triage, a'r ward esgor sy'n ein helpu i ddod yn brofiadol mewn sawl agwedd ar ofal mamolaeth. Mae lleoliad mewn ysbyty hefyd yn gyfle gwych i ymarfer sgiliau clinigol, fel monitro arwyddion bywyd, teimlo'r abdomen, ac wrth gwrs, geni babanod.
Wrth inni ddod yn fwy cymwys, mae ein mentoriaid yn caniatáu inni ymarfer yn fwy annibynnol a defnyddio sgiliau mwy datblygedig. Mae ein mentoriaid yn rhoi adborth inni, sy'n ein helpu i ddatblygu'n broffesiynol yn yr amser sy'n arwain at ddod yn fydwragedd.