Cyn bennaeth yr Ysgol
"Mi fedra i ddweud yn onest fy mod i wastad wedi gweithio mewn amgylcheddau cefnogol, lle dwi wedi teimlo fod croeso i mi, a lle dwi wedi cael cefnogaeth, a chael fy annog i ddatblygu'n bersonol ac yn broffesiynol. Mae gallu mwynhau fy ngwaith, cael fy ysgogi'n ddeallusol a medru rhannu rhwystredigaethau a chyfleoedd yn bethau sydd wedi bod yn allweddol i fy hapusrwydd mewn gwaith. Ond dwi'n ymwybodol iawn nad ydy hynny'n brofiad cyffredin i lawer. Am y rheswm hwnnw, dwi'n falch iawn ein bod ni fel ysgol yn datblygu rhaglen waith fydd yn sicrhau y bydd modd i bawb ganfod cyd-destun cefnogol i weithio ynddo.
Pan ofynnwyd i mi baratoi datganiad o gefnogaeth i'w gynnwys ar y wefan hon mi es ati i fyfyrio am bethau sydd ddim mor gyfarwydd i mi bellach a finnau'n ganol oed. Ond, mae'n deg dweud, a finnau wedi tyfu i fyny fel dyn hoyw yn yr 1980au, gyda dyfodiad HIV a pholisïau'n ymwneud ag oed cydsynio a chyfunrywioldeb mewn ysgolion, fy mod, mwy na thebyg, wedi profi mwy o wahaniaethu a rhagfarn yn ystod fy oes na'r rhan fwyaf o'r cydweithwyr dwi wedi gweithio efo nhw. Rydan ni i gyd yn ymateb i'r mathau yma o brofiadau mewn gwahanol ffyrdd. Mae rhai ohonon ni'n cilio, mae rhai ohonon ni'n ymgyrchu, ac mae rhai ohonon ni'n dod o hyd i loches mewn byd lle dan ni'n credu fod yr amgylchedd yn fwy ffafriol i ni. Er i mi gael fy nenu at nyrsio yn llawer cynharach yn fy mywyd, mae'n debyg pan o'n i tua un ar ddeg oed, dwi wedi bod yn ffodus bod byd gofal iechyd ac addysg, ar y cyfan, wedi bod yn rhyw fath o loches i fi. Dwi'n ffodus mai fy rhywioldeb i bellach yw'r elfen leiaf pwysig yn fy mywyd, ac mae'n rhywbeth dwi bron byth yn meddwl amdano.
Fel Pennaeth yr Ysgol, mae gen i obeithion mawr am y cyfraniad y gallwn ni ei wneud fel ysgol i iechyd a lles y cleifion a'r boblogaeth dan ni'n cael cyswllt â nhw mewn cymaint o wahanol ffyrdd. Dwi hefyd yn falch iawn o'r gynhysgaeth dan ni yn ei chreu o ran yr wybodaeth dan ni'n ei chynhyrchu i lywio polisi ac ymarfer yn y dyfodol, ac o ran y genhedlaeth nesaf o bobl a fydd yn cynnal ein gwasanaethau iechyd a gofal."
Yr Athro Chris Burton, Cyn Pennaeth yr Ysgol