Teithwyr Tramor

Gall gweithio yn y Brifysgol olygu bod gofyn i chi weithio dramor er mwyn gwneud gwaith ymchwil neu oruchwylio myfyrwyr sy’n gwneud gwaith maes. Cyn i chi deithio mae’n hanfodol bwysig eich bod yn dilyn arweiniad y Coleg neu’r Adran o ran teithiau tramor e.e. trefniadau a chysylltiadau brys, yswiriant y Brifysgol ac asesiadau risg y daith. Os ydych yn dal yn ansicr ynglŷn â beth i’w wneud, cysylltwch â Gwasanaethau Iechyd a Diogelwch am gyngor pellach.

Mesur diogelwch syml yw sganio eich pasbort a’i e-bostio atoch eich hun – gellwch gael mynediad ato o unrhyw le yn y byd wedyn.

Mae’n rhaid i Bennaeth y Coleg/Adran, neu hyd yn oed y Grwp Tasg Gweithredu Diogelwch mewn rhai achosion, awdurdodi unrhyw ymweliad â gwlad neu ranbarth a restrir yn ‘Gyfyngedig’ gan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad.

Hefyd, mae’n rhaid i chi gofio, hyd yn oed pan rydych yn teithio dramor, bod rhaid i chi ofalu am eich iechyd. Byddwch yn wyliadwrus o’r peryglon o’ch cwmpas, yn enwedig wrth weithio mewn gwledydd â pheryglon gwahanol iawn i’r rhai yr ydych yn agored iddynt bob dydd gartref. Nid ydym wedi arfer chwilio am nadroedd gwenwynig neu bryfed cop neu ddelio gyda thymheredd eithafol, a gall y diffyg arfer hwn wneud i rai anghofio’u bod mewn lle dieithr â pheryglon newydd, a pheidio, hyd yn oed, ag ystyried y peryglon hyn fel risgiau o gwbl nes ei bod hi’n rhy hwyr. Dyma rai pethau y bydd angen i chi eu hystyried wrth deithio:

Brechiadau ac Imiwneiddio

  • Sicrhewch eich bod yn cael y brechiadau cywir ar gyfer y wlad yr ydych yn ymweld â hi. Gall eich meddyg teulu roi cyngor i chi ynghylch hyn.

Y Daith

  • Peidiwch â gwisgo dillad tynn ar deithiau pellter hir.
  • Gwnewch ymarferion ymestyn a cheisiwch gerdded o gwmpas yr awyren yn rheolaidd.
  • Yfwch ddigon o ddŵr ac osgowch yfed gormod o alcohol.

Yr Haul a Thymheredd Uchel

  • Amddiffynnwch eich hun rhag pelydrau UV niweidiol drwy ddefnyddio eli haul gyda ffactor amddiffyn uchel. Rhowch yr eli arnoch chi eich hun eto bob awr neu ddwy a pheidiwch ag anghofio rhoi’r eli ar eich clustiau, gwefusau, rhaniad eich gwallt a blaen eich trwyn.
  • Arhoswch yn y cysgod rhwng 11yb a 3yp pan mae’r pelydrau niweidiol ar eu gwaethaf.
  • Gwisgwch het gantel lydan a dillad llac.
  • Dewiswch sbectol haul gyda ffilteri UV i amddiffyn eich llygaid.
  • Ceisiwch osgoi gweithgareddau egnïol yn ystod cyfnod poethaf y diwrnod.
  • Yfwch ddigon o hylifau (rhai heb alcohol) i gydbwyso’r golled hylif sy’n digwydd wrth chwysu.
  • Os datblygwch wres pigog (prickly heat), cymrwch gawod glaear a dabiwch y mannau llidus gydag eli ‘calamine’. Gwisgwch ddillad llac i leihau’r llid.

Eira, Rhew a Thymheredd Oer

  • Defnyddiwch eli haul SPF15 neu uwch bob amser a gwisgwch sbectol haul neu gogls, hyd yn oed mewn tywydd cymylog.

Mae hypothermia’n gyflwr sy’n gallu lladd ac sy’n digwydd pan mae tymheredd eich corff yn gostwng o dan 35°C (95°F). Gall newid ymddygiad ddangos bod rhywun yn dioddef, felly byddwch yn wyliadwrus o hyn.

  • Gwisgwch ddillad addas, wedi’u hinsiwleiddio’n dda, a haenau allanol i’ch amddiffyn rhag y gwynt a’r glaw. Mae het yn bwysig hefyd.

Mae ewinrhew yn digwydd pan mae eithafoedd eich corff (y bysedd, bochau, clustiau, trwyn a bysedd traed) yn oeri o dan y rhewbwynt. Os sylwir ar hyn yn gynnar, gellir ei drin yn hawdd. Os yw'n cael ei adael, gall arwain at golli meinwe.

  • Os ydych yn amau bod gan rywun hypothermia neu ewinrhew, stopiwch ar unwaith. Gwnewch yn siŵr eu bod yn cael lapio amdanynt yn gynnes a hynny mewn lle diogel. Os na allwch ddod o hyd i gysgod, dylai pawb gasglu ynghyd i gynhesu’r sawl sy’n dioddef, ond bydd hyn yn cymryd amser. Os bydd y dioddefwr yn parhau i sgïo, yfed alcohol neu ysmygu sigaréts fydd hynny'n gwneud dim i’w helpu a gall wneud pethau’n waeth.

Salwch uchder

Os byddwch yn mynd i rywle uchel iawn, mae’n debyg y byddwch yn sylwi ar effeithiau aer teneuach – mae’n bosibl y byddwch yn teimlo’n flinedig iawn yn gyflym iawn. Er mwyn lliniaru’r effeithiau hyn, dechreuwch eich ymarfer ffitrwydd cyn-sgïo o leiaf chwe wythnos cyn i chi fynd ar eich gwyliau. Dechreuwch ar y llethrau is a gweithio eich ffordd i fyny i dir uwch.


Mae salwch mynydd aciwt (AMS) yn achosi pendro, cyfog, cur pen ofnadwy a newid eithafol ym mhersonoliaeth neu ymddygiad rhywun. Mae’n gyflwr sy’n bygwth bywyd. Os sylwch fod rhywun yn eich grŵp yn dangos y symptomau hyn, rhowch wybod i’r patrol sgïo neu i’r Corfflu Meddygol Mynydd, ac ewch i lawr y mynydd ar unwaith.

Pryfed

Brathiadau pryfed yw’r brathiadau mwyaf cyffredin o bell ffordd, a gallant drosglwyddo clefydau. Gall rhai ohonynt achosi adweithiau annymunol. Ewch at feddyg os yw brathiad pryfed yn achosi poen cyson, chwyddo neu gleisio.

  • Holwch eich meddyg teulu os oes angen unrhyw feddyginiaeth cyn ymweld â’r wlad.
  • Defnyddiwch hylif cadw pryfed draw sy’n cynnwys DEET. Mae bandiau arddwrn a ffêr sydd wedi’u trwytho gyda’r cemegyn hwn hefyd ar gael.
  • Gwisgwch ddillad amddiffynnol a defnyddiwch rwydi mosgitos, yn enwedig mewn ardaloedd sydd â malaria.
  • Peidiwch â rhoi cynnyrch rhy gryf (30% DEET) ar y croen.
  • Peidiwch ag anadlu na llyncu hylif cadw pryfed draw, a gofalwch nad yw’n cyffwrdd â’ch llygaid.
  • Dylai merched beichiog a rhai sy’n bwydo o’r fron ddefnyddio’r hylif cyn lleied â phosib. Ceisiwch gyngor penodol gan eich meddyg teulu.
  • Gorchuddiwch eich coesau ar ôl machlud haul.
  • Peidiwch â defnyddio persawr eillio, persawrau neu ddiaroglyddion persawrus – maen nhw’n denu’r pryfed.

Anifeiliaid

Yn gyffredinol, mae anifeiliaid yn dueddol o osgoi pobl, ond gallant ymosod, yn enwedig os ydyn nhw gyda’u rhai ifanc, a gall brathiadau achosi haint a all fod yn ddifrifol, ac weithiau’n angheuol. Gallant hefyd drosglwyddo’r gynddaredd (Rabies), haint firol ddifrifol ar y system nerfol. Mae’r gynddaredd yn endemig yn Ewrop a Gogledd America, yn ogystal ag yn y byd sy’n datblygu.

  • Ni ddylid mwytho cŵn, cathod nac anifeiliaid domestig eraill mewn ardaloedd lle mae’r gynddaredd yn endemig. Dylid osgoi anifeiliaid gwyllt yn gyfan gwbl.
  • Os cewch eich brathu gan anifail, golchwch y clwyf ar unwaith gan ddefnyddio sebon, neu rhowch ef dan ddŵr glân am o leiaf bum munud. Rhowch antiseptig os yn bosibl, a rhowch orchudd sych ar y clwyf .
  • Ewch at feddyg ar unwaith. Os oes angen brechiad yn erbyn y gynddaredd arnoch, rhaid dechrau ar y cwrs ar unwaith.
  • Nodwch fanylion y digwyddiad a disgrifiad o’r anifail. Os yw’n ddof, ceisiwch ddod o hyd i’w berchennog. Mae’n bwysig gwybod a yw’r anifail wedi cael brechiad yn erbyn y gynddaredd yn ddiweddar ai peidio, ac a ywwedi bod yn sâl yn y pythefnos diwethaf.
  • Rhowch wybod am y digwyddiad i’r heddlu – bydd angen llenwi adroddiad ffurfiol at ddibenion yswiriant.
  • Ymgynghorwch â’ch meddyg teulu ar ôl dychwelyd i’r DU.

Nadroedd

Mae marwolaethau o ganlyniad i frathiadau neidr yn gymharol brin - amcangyfrifir bod pum miliwn o frathiadau neidr yn digwydd ledled y byd bob blwyddyn, gan achosi tua 125,000 o farwolaethau. Mae’r nadroedd peryclaf yn cynnwys neidr frown Awstralia, gwiberod carped y Dwyrain Canol, nadroedd Russell a chobraod De Asia, a choral a neidr ruglo Gogledd America.

Achos y rhan fwyaf o frathiadau neidr yw aflonyddu ar y neidr ei hun – mae brathu yn ymateb amddiffynnol gan yr anifail. Mae nadroedd yn brathu pobl oherwydd bod ganddynt ofn, nid er mwyn lladd am fwyd – ychydig o wenwyn sydd mewn nifer o frathiadau. Fodd bynnag, gall gwenwyn gan neidr fach, anaeddfed fod yn gryfach na gwenwyn oedolyn.

Bwyta ac Yfed yn Ddiogel

  • Golchwch eich dwylo cyn mynd i’r toiled, cyn trin bwyd a chyn bwyta.
  • Defnyddiwch ddŵr potel a gwnewch yn siŵr nad yw’r sêl wedi torri.
  • Berwch ddŵr neu hidlwch ef trwy ddefnyddio purydd dŵr.
  • Peidiwch â rhoi rhew yn eich diod os nad ydych yn siwr o ble mae’r dŵr wedi dod.
  • Peidiwch â bwyta bwyd sydd heb ei orchuddio a allai fod wedi bod yn agored i bryfed ac ati.
  • Peidiwch â bwyta yn rhywle os ydych yn ddrwgdybus o’u glanweithdra e.e. gwerthwr stryd, ciosgau.

Cyngor Teithio

Mae gwybodaeth y Llywodraeth ar bob agwedd o deithio, gan gynnwys ardaloedd perygl posibl, cyfreithiau ac arferion tramor, a phwy i gysylltu â nhw os bydd problemau’n codi ar wefan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad (FCO).


Mae gan Adran Iechyd, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a MASTA (Gwasanaethau Meddygol Ymgynghorol i Deithwyr Dramor) hefyd wybodaeth ddefnyddiol ar iechyd teithio.