Datblygu Sgiliau Iaith
Dyddiad: | i'w bennu |
Lleoliad: | Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor |
Hyfforddwr: | Eleri Hughes |
Tâl: | £125 ( yn cynnwys cinio, paned ac adnoddau) |
Amser: | 9:30 - 16:00 |
Cofrestrwch | yma |
Amcanion:
Datblygu eich gwybodaeth am yr iaith a’ch hyder i wneud y pethau hyn wrth ysgrifennu yn y Gymraeg yn y gwaith:
- defnyddio’r adnoddau sydd ar gael i’ch helpu (adnoddau cyfrifiadurol a phrint);
- dod i wybod am rai rheolau iaith pwysig;
- dechrau adnabod a chywiro gwallau personol.
Ar gyfer pwy?
Unrhyw un sy’n defnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith ac sydd eisiau datblygu eu sgiliau iaith, yn arbennig wrth ysgrifennu (siaradwyr rhugl - iaith gyntaf neu ddysgwyr).
Cynnwys:
- Camau doeth wrth ysgrifennu yn y Gymraeg
- Tasg ysgrifennu syml
- Cystrawen
- ysgrifennu Cymraeg naturiol a chlir;
- osgoi patrymau Saesneg wrth ddefnyddio’r Gymraeg;
- Golwg ar sillafu, gwallau cyffredin, cenedl enwau (hwn a hon) a threigladau;
- Adnabod ansicrwydd personol a chywiro eich gwaith eich hun.
Hyfforddwr
Eleri Hughes ydy Prif Diwtor Uned Sgiliau Iaith Canolfan Bedwyr, ac mae ganddi brofiad helaeth o ddatblygu a chyflwyno cyrsiau sgiliau iaith. Dros y 25 mlynedd diwethaf, bu’n dysgu yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin; ym Mhatagonia yn yr Ariannin; ym Mhrifysgol Caerdydd ac yng Nghanolfan Iaith Nant Gwrtheyrn. Yn 2015 derbyniodd Gymrodoriaeth Ddysgu Prifysgol Bangor am ragoriaeth mewn dysgu a gofal bugeiliol.
Tystebau
'Buaswn yn argymell y cwrs i unrhyw un sydd eisiau mwy o hyder wrth siarad ac ysgrifennu Cymraeg yn y gwaith'.'O’r diwedd dw i’n dechrau deall rhai o’r treigladau! Mae’r Llawlyfr Gloywi Iaith yn grêt!'
'Mae’r cwrs wedi rhoi hwb i mi drio defnyddio mwy o Gymraeg yn y gwaith! Diolch am beidio gwneud i mi deimlo’n dwp!'