Gwneud cais i astudio ym Mangor
Sut i wneud cais drwy UCAS
UCAS yw’r Gwasanaeth Derbyniadau i Brifysgolion a Cholegau
Mae pob cais i’r brifysgol yn cael ei brosesu drwy UCAS ac yna’n cael ei drosglwyddo i’r prifysgolion a restrwyd.
Gall myfyrwyr wneud cais am hyd at bum cwrs.
Ar gyfer Meddygaeth, Deintyddiaeth a chyrsiau Milfeddygol dim ond pedwar cwrs caiff myfyrwyr restru.
Mae’r ffurflen gais i’w chael ar wefan UCAS, o dan ‘Apply’. Y dyddiad cau ar gyfer Prifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt a chyrsiau Meddygaeth, Deintyddiaeth a Milfeddygaeth ydy 15 Hydref.
Ar gyfer pob cwrs arall y dyddiad cau ydy 15 Ionawr.
Datganiad Personol
Y Datganiad Personol yw’r rhan o’r ffurflen gais sy’n gofyn am fwyaf o waith.
Cewch ddefnyddio dim ond 47 o linellau neu 500–550 o eiriau i egluro pam yr ydych am astudio’r cwrs, a’r sgiliau sydd gennych sy’n hanfodol ar gyfer astudio yn y brifysgol.
I ysgrifennu datganiad personol llwyddiannus mae’n rhaid i chi fod â dealltwriaeth dda am y cwrs a’i gynnwys. Cofiwch mai dim ond un datganiad personol rydych yn ei hysgrifennu ar gyfer eich pum dewis.
Gwnewch yn siwr bod y cyrsiau yn debyg, os nad yw yr un fath, a gwnewch yn siŵr nad ydych yn sôn am gwrs neu brifysgol penodol.
Darllenwch ein cyngor ar ysgrifennu datganiad personol llwyddianus neu gwyliwch ein fideos.
Ar ôl gwneud cais
Gallwch gadw llygaid ar eich cais drwy system UCAS ‘Track’. Bydd cynigion gan brifysgolion yn ymddangos ar Track a gallwch dderbyn neu wrthod cynnig.
Rhaid i chi fod wedi derbyn atebion gan bob prifysgol cyn y gallwch ymateb. Mae dau fath o ymateb – derbyn pendant (firm acceptance) a derbyn wrth gefn (insurance acceptance). Fel arfer mae myfyrwyr yn ymateb ar ddechrau mis Mai.