Ffioedd, Cyllid ac Ysgoloriaethau
Ffioedd dysgu a Dulliau Talu
2020/21 Benthyciad Ôl-radd a Chefnogaeth Ychwanegol (Cymru)
- O 1 Awst 2020, gallai myfyrwyr sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru (a’r rheini o’r UE sy’n astudio mewn sefydliad yng Nghymru) gael yr hawl i gyfuniad o fenthyciad a grant fel cyfraniad at gostau tra’n astudio cwrs gradd meistr ôl-radd.
- Cyfanswm y cymorth sydd ar gael i fyfyriwr cymwys yw £17,489. Mae grant o hyd at £6,885 ar gael, yn dibynnu ar incwm yr cartref. Cynigir gweddill y cymorth ar ffurf benthyciad.
- Cyrsiau rhan-amser – dyrennir y cymorth dros nifer y blynyddoedd y dilynir y cwrs. Caiff lefel y cymorth ei gapio ar gyfer pob blwyddyn academaidd; er enghraifft, £17,489 ar gyfer cwrs blwyddyn, £8,744.50 y flwyddyn ar gyfer cwrs dwy flynedd, a £4,372.25 y flwyddyn ar gyfer cwrs pedair blynedd. Mae cyrsiau amser llawn sy’n para blwyddyn a dwy flynedd yn gymwys i gael cymorth. Mae cyrsiau rhanamser sy’n para hyd at bedair blynedd yn gymwys i gael cymorth.
- Dyma elfennau’r cymorth:
- Mae grant sylfaenol o £1,000 ar gael i bob myfyriwr cymwys nad yw’n seiliedig ar brawf modd i gyfrannu at eu costau.
- Mae grant ychwanegol o £5,885 ar gael i fyfyrwyr cymwys o aelwyd sydd ag incwm o hyd at £18,370 y flwyddyn, sy’n seiliedig ar brawf modd, i gyfrannu at eu costau.
- Mae grant rhannol ar gael i fyfyrwyr sydd ag incwm rhwng £18,371 a £59,199.
- Mae’r porth gais ar agor: https://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/myfyrwyr-ol-raddedig.aspx
Tabl hawl grant a benthyciad cyrsiau ôl-radd 2020/21
Incwm Trethadwy Eich Cartref | Grant |
Benthyciad |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
£18,370 or less | £6,884 | £10,605 | £17,489 |
£20,000 | £6,651 | £10,838 | £17,489 |
£25,000 | £5,930 | £11,559 | £17,489 |
£30,000 | £5,209 | £12,280 | £17,489 |
£40,000 | £3,767 | £13,722 | £17,489 |
£50,000 | £2,326 | £15,163 | £17,489 |
£55,000 | £1,605 | £15,884 | £17,489 |
£59,200 neu fwy | £1,000 | £16,489 | £17,489 |
Bwrsariaeth newydd ar gyfer Ôl-raddedigion yng Nghymru
Mae cynllun bwrsariaeth newydd ar gael ar gyfer blwyddyn academaidd 2020/21 i gynorthwyo myfyrwyr o Gymru i barhau â’u hastudiaethau ôl-raddedig yng Nghymru.
Nod y Cynllun Bwrsariaeth Cymhelliant Graddau Meistr Ôl-radd a addysgir yw cynyddu nifer y graddedigion o Gymru sy’n aros yng Nghymru, neu’n dychwelyd i Gymru, i astudio gradd meistr ôl-raddedig yn y pynciau STEMM canlynol:
- Gwyddoniaeth
- Technoleg
- Peirianneg
- Mathemateg
- Meddygaeth
Mae bwrsariaeth ôl-raddedig newydd hefyd ar gael i’r rheini sydd am astudio 40 credyd neu fwy o’u gradd Meistr trwy gyfrwng Cymraeg.
Mae’r bwrsariaeth ychwanegol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn golygu y gallai myfyrwyr o Gymru dderbyn hyd at £17,489 tuag at eu hastudiaethau a’u costau byw, os ydynt yn dewis astudio cwrs Meistr cymwys ym Mhrifysgol Bangor ym mis Medi.
Mae dyfarniad bwrsariaeth STEMM werth £2,000, gyda Bwrsariaeth Cyfrwng Cymraeg o £1,000 ar gael i’r rheini sy’n astudio 40 credyd neu fwy trwy gyfrwng Cymraeg.
Bydd y Brifysgol yn cysylltu’n uniongyrchol â phob myfyriwr o Gymru a’r UE sy’n gymwys ar gyfer y fwrsariaeth newydd ym mis Medi, gyda’r fwrsariaeth i’w defnyddio fel hepgoriad ffioedd i leihau cost eich ffioedd dysgu yn y rhan fwyaf o achosion.
Bwrsariaeth Newydd ar gyfer Ôl-raddedigion dros 60 oed
Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu bwrsariaeth newydd o £4,000 ar gyfer myfyrwyr ôl-raddedig 60+. Mae’r fwrsariaeth ar gael ar gyfer blwyddyn academaidd 2019/20 i fyfyrwyr Meistr Ôl-radd a Addysgir o Gymru a’r UE, sy’n astudio yn llawn amser.
Bydd y Brifysgol yn cysylltu’n uniongyrchol â phob myfyriwr sy’n gymwys ar gyfer y fwrsariaeth newydd ym mis Medi, gyda’r fwrsariaeth i’w defnyddio fel hepgoriad ffioedd i leihau cost eich ffioedd dysgu yn y rhan fwyaf o achosion.
2020/21 Cwrs Doethurol Ôl-raddedig (Cymru)
- O 1 Awst 2020, gallai myfyrwyr sy’n preswylio fel arfer yng Nghymru, a’r rheini o’r UE sy’n astudio mewn sefydliad yng Nghymru, gael yr hawl i gymorth. Bydd modd i fyfyrwyr cymwys gael benthyg hyd at £26,445, fel cyfraniad at eu costau, dros gyfnod y rhaglen ddoethuriaeth.
- Gall y cyrsiau fod yn rhai amser llawn neu’n rhanamser, rhwng tair ac wyth blynedd o hyd. Gwneir y taliadau dros nifer blynyddoedd y rhaglen ddoethuriaeth.
- Ni fydd y rheini sy’n cael cyllid myfyrwyr gan unrhyw un o saith Cyngor Ymchwil y DU (cyllid llawn neu ffioedd yn unig) yn gymwys i gael benthyciad.
- Ni fydd y rheini sy’n cael ffurfiau uniongyrchol eraill ar gymorth y Llywodraeth tuag at gostau cynhaliaeth a ffioedd, gan gynnwys unrhyw gyfraniadau cyflog neu ffioedd a ddarperir gan y GIG at ddibenion cyrsiau doethuriaeth, a chynllun KESS 2, yn gymwys chwaith.
- Mi fydd porth gais yn cael ei agor yn fuan: https://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/myfyrwyr-ol-raddedig/cwrs-doethurol-ôl-raddedig.aspx
Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau
I gael manylion am yr ysgoloriaethau a’r bwrsariaethau sydd ar gael, ewch i’r dudalen Ysgoloriaethau a Bwrsariaethau.
Ariannu eich Astudiaethau
I’ch helpu i nodi ffynonellau cyllid, ewch i’r dudalen Cyllid Ôl-raddedig ar ein gwefan Cyllid Myfyrwyr.