Asesu Risg
Polisi'r Brifysgol yn y Brifysgol yw:
'Cyn belled ag y bo’n ymarferol bosibl, yw rheoli peryglon a risgiau’n deillio o’i gweithgareddau a gweithgareddau eraill lle maent yn cael effaith ar staff, myfyrwyr, ymwelwyr a gwirfoddolwyr y Brifysgol'
Yn ychwanegol at y gofynion cyffredinol hynny o dan y Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc, mae gan y Brifysgol, a’r Colegau ac Adrannau sy’n perthyn iddi, ymrwymiadau penodol yn unol â’r Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith i weithredu dulliau rheoli cadarn sy’n ceisio osgoi a/neu rheoli risgiau fel y diogelir iechyd, diogelwch a lles staff ac eraill y mae gweithgareddau'r Brifysgol yn effeithio arnynt.
Mae Asesiadau Risg yn rhan sylfaenol o'r broses rheoli yma, a gobeithir y bydd y Safon Polisi canlynol a Thaflenni Gwybodaeth yn egluro cyfrifoldebau Colegau / Adrannau o ran asesiadau risg, ac yn rhoi arweiniad ymarferol ar sut i gynnal asesiad risg.
Nid yw Asesiadau Risg mor anodd neu mor llafurus ag y mae pobl yn ei feddwl. Archwiliad gofalus ydynt o'r hyn a allai achosi niwed yn y gweithle, a phwy y gallai niweidio e.e. staff, myfyrwyr, cymdogion, gwasanaethau argyfwng, yr amgylchedd er mwyn i ni wedyn benderfynu a oes digon yn cael ei wneud i reoli'r risg neu a fydd angen i ni wneud mwy.
Cysylltwch â’r Gwasanaethau Iechyd a Diogelwch os oes gennych ragor o gwestiynau neu bryderon ynghylch y broses asesu risg neu os hoffech dderbyn hyfforddiant Asesu Risg.
Gellwch weld enghreifftiau Asesiadau Risg drwy ddilyn y cysylltiadau canlynol:
- Enghraifft o Asesiad Risg Lleoliad Myfyrwyr i'r Almaen
- Enghraifft o Leoliad Myfyrwyr i Kenya, Asesiad Risg Parc Cenedlaethol Tsavo
- Asesiad Risg Gyrwyr a Cherbydau - Enghraifft Bangor
- Enghraifft o Asesiad Risg Trip Un Diwrnod
- Enghraifft o Asesiad Risg Taith Dinas Ewropeaidd Academaidd
- Enghraifft o Asesiad Risg Taith Maes Un Diwrnod
- Asesiad Risg Labordy Enghreifftiol
- Enghraifft o Asesiad Risg Ymchwil Gymdeithasol
- En solas o Asesiad Risgledd Gymaith
- Enghraifft Yn cynnal Cynhadledd gydag Asesiad Risg Gwesteion Allanol
Cysylltwch â Iechyd a Diogelwch ar gyfer Aesu Risg templed arall.