Mwy o Wybodaeth:
Am fwy o wybodaeth ynglŷn a ffioedd a'r bwrsariaeth, cysylltwch ag:
- Ffôn: Sue Hughes 01248 382256
- Ebost: dysgu.rhan.amser@bangor.ac.uk
Cyllid Israddedig Rhan-amser 2017–2018
Categori 1
Ffi Lawn y Brifysgol:
Modiwl 10 credyd £294*
Modiwl 20 credyd £588**
Modiwl 30 credyd £882
*Gan cynnwys modiwlau Ieithoedd i Bawb
**Mae £10 o ffi stiwdio ychwanegol yn daladwy ar gyfer pob modiwl 20 credyd Celf.
Categori 2
Bwrsariaeth Dewisol Myfyrwyr Rhan-Amser:
Efallai y byddwch yn gymwys i gael cyfraniad at ffioedd y cwrs. Nid ydynt ar gael fel rheol i’r rhai sy’n gwneud cyrsiau ôl-radd, ond gall ôl-raddedigion wneud cais. Ystyrir amgylchiadau personol ac a yw myfyrwyr yn derbyn ffynonellau cyllid eraill wrth ddyrannu’r bwrsariaethau. Os yn gymwys, fe gewch fwrsariaeth gwerth hyd at 75% o’r ffioedd cwrs.
Incwm Cartref * |
Bwrsariaeth posib ar gael |
Ffi taladwy (pob 10 credyd) |
£25,000 neu llai |
hyd at 75% |
£73.50 |
£25,001 - £35,000 |
hyd at 60% |
£117.60 |
£35,001 - £45,000 |
hyd at 40% |
£176.40 |
*Caiff y bwrsariaethau eu dyrannu yn ôl eich gallu i dalu yn unol ag incwm y cartref. Rhaid dychwelyd ceisiadau am fwrsariaethau i'r Coleleg y Celfyddyday a'r Dyniaethau (dysgu rhan-amser) mor fuan â phosib.
Mae’r bwrsariaethau yn ddewisol ac ni ellir gwarantu taliad o’r gronfa hon. Sylwch y bydd y Brifysgol yn gofyn am dystiolaeth o’ch incwm ac amgylchiadau personol perthnasol wrth asesu’ch cais am fwrsariaeth.
Mwy o wybodaeth
Am fwy o wybodaeth ac arweiniad ynglŷn â ffynonellau eraill o gefnogaeth ariannol, ewch i brif dudalennau Cyllid Myfyrwyr a Gwasanaethau Myfyrwyr y brifysgol.