Tir na n-Og – Cynllun Di-dreth i Staff
Mae Tir na nOg (gwlad hudol ieuenctid mewn chwedloniaeth Geltaidd) yn feithrinfa di-elw a sefydlwyd gan Brifysgol Bangor ac y mae wedi’i lleoli ar Lôn Pobty, Bangor. Mae’r Feithrinfa ar agor i bawb, gan gynnwys myfyrwyr a staff y Brifysgol ac aelodau’r cyhoedd.
Mae gan y brif feithrinfa 50 o leoedd gofal plant; 20 ar gyfer babanod o 3 mis oed a 30 ar gyfer plant bach cyn oed ysgol. Mae’r Feithrinfa ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, gyda lleoedd rhan-amser a llawn-amser ar gael. Gall plant ddechrau yn y Feithrinfa drwy gydol y flwyddyn, cyhyd â bod lle ar gael.
Ym Mhrifysgol Bangor, rydym yn ymfalchïo yn y ffaith y gallwn roi gofal plant mwy fforddiadwy i weithwyr y Brifysgol drwy ein trefniant cyfnewid cyflog. Mae’r ddogfen hon yn egluro’r manteision hyn yn fanylach, gan ateb cwestiynau sydd gennych o bosibl ac yn rhoi gwybodaeth y bydd arnoch angen ei hystyried wrth benderfynu cymryd rhan ai peidio.
Pwy sy’n gymwys i gymryd rhan?
Mae’r trefniant hwn ar gael i aelodau staff Prifysgol Bangor yn unig sydd â chyfrifoldeb rhieni dros unrhyw blentyn/blant a roddir yn y Feithrinfa. Mae hwn yn un o’r amodau sydd eu hangen i sicrhau bod lle yn y feithrinfa yn fantais ddi-dreth.
Beth yw effeithiau cyffredinol lleihau cyflog?
Nid yw’r cynllun di-dreth ddim gwahanol mewn egwyddor i fanteision cyfnewid cyflog eraill a gynigir gan Brifysgol Bangor (fel y cynllun Beicio i’r Gwaith). Os byddwch chi’n cymryd rhan yn y cynllun, byddwch yn talu llai o dreth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol, ac felly ar eich ennill bob mis.
Fel gyda manteision cyfnewid cyflog eraill gyda Phrifysgol Bangor, ni ellwch leihau’ch cyflog i lefel islaw’r Cyflog Isafswm Cenedlaethol. Felly mae’n bosibl y bydd raid i chi gyfyngu lefel y cyfnewid dan y cynllun hwn i sicrhau bod eich enillion yn aros uwchben y lefel hon o hyd.
Dylai aelodau staff gofio y gall gostyngiad mewn cyflog trethadwy effeithio ar fuddion eraill y Brifysgol a buddion gwladol eraill, megis Tâl Mamolaeth Statudol, taliadau salwch statudol. Gallai effeithio hefyd ar faterion cyllidol mwy cyffredinol megis ceisiadau am forgais.
Beth os ydw i’n hawlio Credydau Treth?
Mae hawl i gredyd treth wedi’i seilio ar lefel yr enillion yr ydych yn eu derbyn. Felly, os ydych chi’n lleihau’ch cyflog, mae’n bosibl y bydd gennych hawl i fwy o gredydau treth. Fodd bynnag, gallai o bosibl effeithio’n anfanteisiol ar elfen gofal plant y Credyd Treth Gweithio y mae gennych hawl iddo.
Os ydych chi’n hawlio elfen gofal plant y Credyd Treth Gweithio ar hyn o bryd, dylech ystyried yr effaith debygol ar eich incwm gwario net. Er mwyn gwneud penderfyniad, ffoniwch linell gymorth Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi ar 0845 300 3900 neu edrychwch ar y wefan: www.hmrc.gov.uk/taxcredits/
Beth os oes arna’i angen sesiynau gofal plant ychwanegol?
Os oes arnoch angen sesiynau gofal plant yn ychwanegol at y rhai yr ydych wedi cytuno iddynt eisoes dan drefniant aberthu cyflog, yna ar hyn o bryd, bydd angen talu cost y sesiynau ychwanegol hyn y tu allan i’r cynllun cyfnewid cyflog.
Beth os oes arna’i angen newid nifer y sesiynau gofal plant?
Os hoffech adael y cynllun, parhewch i wneud fel y gwnewch ar hyn o bryd a rhowch bedair wythnos o rybudd o’r newidiadau yr hoffech eu gwneud, a hynny i Adnoddau Dynol ac i Reolwr y Feithrinfa. Bydd hyn yn galluogi i chi fod yn rhan o gytundeb cyfnewid cyflog diwygiedig sy’n adlewyrchu’r trefniadau gofal plant newydd sydd eu hangen.
Beth sy’n digwydd os oes gennyf fwy nag un plentyn yn y Feithrinfa?
Gellwch gyfnewid costau llawn y ffioedd ar gyfer eich plant, cyhyd nad yw’r gostyngiad yn mynd â’ch cyflog o dan y Cyflog Isafswm Cenedlaethol.
Am faint fydd y trefniant yn para?
Bydd y trefniant aberthu cyflog gyda’r Feithrinfa’n rhedeg o 1 Medi tan 31 Awst bob blwyddyn. Gellwch roi’r gorau i gymryd rhan yn y trefniant arfaethedig dim ond os ydych chi’n gymwys am newid mewn ffordd o fyw yn y cyfnod hwn, neu amgylchiadau eithriadol eraill, a bydd hyn yn ôl doethineb y Brifysgol. Rydym yn eich cynghori i gysylltu â’r Adran Adnoddau Dynol mor fuan ag y gellwch i drafod trefniadau os dymunwch roi’r gorau i gymryd rhan.
Sut ydych chi’n cadarnhau’r newidiadau i’m telerau ac amodau cyflogaeth?
Gan eich bod yn ildio’ch hawl i elfen o’ch cyflog, bydd angen diwygio’ch telerau ac amodau cyflogaeth. Gwneir hyn drwy ddiwygiad i’ch contract, gan ein hawdurdodi i leihau’ch cyflog wedi’i seilio ar y gofal plant sydd arnoch ei angen.
Beth sydd angen i mi ei wneud yn awr?
Os dymunwch gymryd rhan yn y cynllun aberthu cyflog, gellwch ddewis gwneud hyn drwy lenwi’r Ffurflen Cynllun Darpariaeth Meithrinfa Di-Dreth ac yn anfon e-bost i benefits@bangor.ac.uk.
Bydd yn ofynnol i chi ddewis lefel y cyfnewid cyflog y bydd arnoch ei hangen tan fis Medi, pan gewch gyfle eto i newid eich trefniadau ar gyfer y flwyddyn i ddod.