Arolwg Staff
Croeso i dudalennau gwe Arolwg Staff Prifysgol Bangor.
Mae canlyniadau’r Arolwg Staff 2022 bellach wedi cyrraedd a byddent yn cael eu cyhoeddi ar y tudalennau hyn. Rydym wrth ein bodd bod cyfran uchel o staff (58%) wedi cymryd yr amser i rannu eu barn am weithio i’r Brifysgol.
Dyma grynodeb o’r adborth a dderbyniwyd:
-
Ymdeimlad cryf o weithio fel tîm, cael cydweithwyr sy'n cyd-dynnu, amgylchedd gwaith diogel a sicr a meddu ar yr ymddiriedaeth a'r annibyniaeth i gyflawni dyletswyddau yw rhai o'r agweddau gorau o weithio ym Mhrifysgol Bangor, yn ôl yr hyn a ddywedasoch wrthym.
-
Ar y cyfan, mae canlyniadau ein Harolwg Staff 2022 yn cymharu’n ffafriol â’r arolwg diwethaf, a gynhaliwyd ychydig cyn y pandemig yn 2020. Mae 40% o gwestiynau y gellir eu meincnodi o leiaf bum pwynt canran yn uwch na’r gymhariaeth a 50% yn gyfartal â 2020.
-
Dywed tri-chwarter staff eu bod yn teimlo’n falch o weithio i’r Brifysgol, cynnydd ers 2020. Yn yr un modd, byddai bron i saith o bob deg yn argymell y Brifysgol fel rhywle i weithio.
-
Roedd ymddiriedaeth yn thema gyffredin a berfformiodd yn dda: gydag 88% o staff yn teimlo eu bod yn cael ymddiriedaeth i wneud eu gwaith. Yn ogystal, ymddiriedaeth mewn arweinyddiaeth y Brifysgol oedd y maes a welodd y cynnydd mwyaf ers 2020.
-
Roedd y berthynas rhwng staff a rheolwyr hefyd yn gadarnhaol, gan fod 88% yn dweud bod eu harweinydd tîm neu oruchwyliwr yn hawdd siarad â nhw, ac 84% yn cytuno y gallant benderfynu ar eu pen eu hunain sut i fynd ati i wneud eu gwaith. Mae'r ystadegau hyn yn cyfrannu at wneud i staff deimlo'n ddiogel yn eu hamgylchedd gwaith (83% yn cytuno), un o'r agweddau cadarnhaol cryfaf ar weithio i'r sefydliad.
-
Arddangosiad clir o gefnogaeth staff tuag at Gynaliadwyedd, sy’n sail i’n Strategaeth 2030, yw bod 84% o gydweithwyr wedi dweud eu bod yn fodlon newid agweddau o’u bywyd proffesiynol er mwyn bod yn fwy cynaliadwy.
-
Roedd cefnogaeth tuag at yr iaith Gymraeg a Chydraddoldeb ac Amrywiaeth hefyd yn uchel iawn.
Er bod y canlyniadau cyffredinol yn galonogol, nodwyd nifer o feysydd lle gellid gwneud gwelliannau, gan gynnwys llwyth gwaith, diffyg adnoddau, gwerthfawrogi staff, poeni am waith y tu allan i oriau gwaith a blaenoriaethau'n newid yn rhy gyflym.
Mewn ymateb i’r adborth hwn ac yn unol ag ymrwymiad y Brifysgol tuag at iechyd a lles staff, bydd gwaith yn dechrau yn awr i fynd i’r afael â’r materion a nodwyd ac awn i’r afael ag ef drwy adolygu’r data ar lefel Coleg, Ysgol ac Adrannol a dylunio cynlluniau gweithredu fel ffordd ymlaen.
Ynglŷn â’r Arolwg Staff
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i wella ansawdd bywyd gwaith ei phobl a sicrhau bod ein holl staff yn gallu cyflawni eu llawn botensial ar gyfer y Brifysgol.
Cynhelir ein Harolwg Staff bob dwy flynedd. Ei nod yw casglu sut mae staff yn teimlo am weithio yn y Brifysgol, ac yn enwedig profiadau ar feysydd fel ein:
-
amgylchedd gwaith;
-
cyfathrebu;
-
arweinyddiaeth; a
-
chydbwysedd bywyd a gwaith
Bydd eich adborth yn ein helpu i ddeall yr hyn rydym yn ei wneud yn dda, a nodi'r meysydd y mae angen i ni eu gwella. Bydd y canlyniadau yn ein helpu i fesur ein cynnydd yn erbyn yr amcanion a gynhwysir yn y Strategaeth Pobl a Thalent.
Adroddiadau’r Arolwg Staff
Prif Adroddiad – dyma’r brif adroddiad ar gyfer y Brifysgol gyfan.
Os hoffech rhagor o wybodaeth, cysylltwch â ni:
Ffion Williams, tîm Adnoddau Dynol Prifysgol Bangor: f.williams@bangor.ac.uk