Ffioedd 2022–23 – Tir na n-Og
Isod fe welwch y fframwaith ffioedd newydd sy’n cael ei ddiweddaru bob blwyddyn ym mis Medi.
Sesiwn y bore (cynnwys cinio) |
Sesiwn y prynhawn |
y diwrnod
| yr wythnos
|
---|---|---|---|
£31 |
£29 |
£54 | £265 |
Gall cyfnewid cyflog arbed 29.4% o’u costau gofal plant i dalwr treth cyfradd sylfaenol, a gall arbed 41% o’u costau gofal plant i dalwr treth cyfradd uwch. Gwneir yr arbedion drwy dynnu llai o dreth ac yswiriant gwladol.
Mae costau gofal plant wedi’u seilio ar gyfnod o 45 wythnos – gyda 45 wythnos y nifer arferol o wythnosau gwaith mewn blwyddyn.
Sylwch, rhoddir blaenoriaeth i staff sydd angen lle llawn amser. Yna ystyrir staff sydd angen llai na 10 sesiwn yr wythnos. Heb ystyried faint o sesiynau gofal plant sydd eu hangen bob wythnos, tybir y bydd yr aelod staff yn defnyddio’r feithrinfa am y flwyddyn lawn o 45 wythnos waith, h.y. ni fydd yn bosibl dan y trefniant hwn i amcangyfrif costau cyfredol wedi eu seilio ar nifer llai o wythnosau, e.e. yn ystod tymor ysgol neu ddyddiau gwyliau yn unig.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch y cynllun hwn, cysylltwch â:
Bethan Williams, Cynorthwywr Adnoddau Dynol, ar: (01248) 388132 / benefits@bangor.ac.uk NEU
Gareth Owen, Swyddog Adnoddau Dynol, ar: (01248) 382058 / benefits@bangor.ac.uk
Dylid cyfeirio ymholiadau ynghylch y Feithrinfa at Reolwr y Feithrinfa ar (01248) 388383.
At ddibenion y trefniadau hyn, golyga cyfrifoldeb rhiant fod â phob hawl, dyletswydd, pŵer, cyfrifoldeb ac awdurdod sydd gan riant plentyn yn ôl y gyfraith mewn cysylltiad â’r plentyn ac eiddo’r plentyn.
Chi fydd yn gyfrifol am dalu unrhyw wahaniaethau rhwng ffioedd y feithrinfa a’r swm a gyfnewidir drwy’r cynllun.