Gwyliau Blynyddol ac Oriau Gwaith
Gwyliau Blynyddol
Mae gan staff hawl i 27 diwrnod gwaith gyda’r unigolyn i ddewis y dyddiadau, yn amodol ar gymeradwyaeth Pennaeth yr Adran, na fydd yn gwrthod caniatâd yn afresymol. Mae’r flwyddyn wyliau arferol yn mynd o 1 Awst i 31 Gorffennaf.
Gwyliau Cyhoeddus
Fel arfer, mae yna 8 gŵyl gyhoeddus:
-
Gŵyl Banc yr Haf
-
Dydd Nadolig
-
Gŵyl San Steffan
-
Dydd Calan
-
Dydd Gwener y Groglith
-
Dydd Llun y Pasg
- Gŵyl Banc dechrau mis Mai
-
Gwyl Banc y Gwanwyn
Nodwch: Yn 2020, bydd y Gŵyl y Banc ar ddechrau mis Mai yn cael ei symud i ddydd Gwener 8 Mai i gyd-fynd â Diwrnod Buddugoliaeth yn Ewrop, neu Ddiwrnod VE
Gwyliau Arferol 2020/21
Mae yna 7 o ddyddiau gwyliau arferol yn 2020/21, fel a ganlyn:
-
4 diwrnod adeg y Nadolig, - 24, 29, 30 a 31 Rhagfyr. Bydd y Brifysgol yn ailagor Ddydd Llun 4 Ionawr 2021.
-
y dydd Iau cyn Gwener y Groglith - 1 Ebrill 2021
-
y dydd Mawrth ar ôl Llun y Pasg - 6 Ebrill 2021
-
gallwch gynnwys y gwyliau arferol sy'n weddill fel rhan o'ch gwyliau blynyddol yn 2020/21.
Gwyliau Arferol 2021/22
Mae yna 7 o ddyddiau gwyliau arferol yn 2021/22, fel a ganlyn:
-
4 diwrnod adeg y Nadolig, - 24, 29, 30 a 31 Rhagfyr. Bydd y Brifysgol yn ailagor Ddydd Mawrth 4 Ionawr 2021.
-
y dydd Iau cyn Gwener y Groglith - 15 Ebrill 2021
-
y dydd Mawrth ar ôl Llun y Pasg - 18 Ebrill 2021
-
gallwch gynnwys y gwyliau arferol sy'n weddill fel rhan o'ch gwyliau blynyddol yn 2021/22.
Sut i Weithio Allan Hawl i Wyliau ar gyfer staff rhan-amser:
Yn achos staff rhan-amser mae hawl i wyliau yn cael ei weithio allan mewn oriau yn hytrach na dyddiau.
-
Lluoswch y cyfanswm gwyliau o 42 diwrnod (sy’n cynnwys Gwyliau’r Coleg a Gwyliau Banc) wrth 7.25 awr (yr oriau dyddiol llawn-amser); mae hyn yn rhoi’r hawl i wyliau llawn-amser yn ôl yr awr.
-
Rhannwch y canlyniad uchod gyda 36.25 awr (yr oriau wythnosol llawn-amser) ac yna’i luosi wrth nifer yr oriau rydych yn eu gweithio mewn wythnos.
Mae’r canlyniad yn rhoi eich hawl i wyliau blynyddol mewn oriau. Mae hyn yn cynnwys oriau i’w cymryd ar gyfer Gwyliau’r Coleg a Gwyliau Banc.
Oriau Gwaith
Gradd 7 ac isod:
Mae'r wythnos waith safonol ar gyfer staff llawn-amser yn 36.25 awr (heb gynnwys egwyl bwyd) fel rheol rhwng dydd Llun a dydd Gwener, ond yr amseroedd gweithio gwirioneddol i'w cytuno â Phennaeth y Coleg/Ysgol/Adran.
Gradd 7 ac uwch:
Oherwydd natur y gwaith, nid yw’r Brifysgol yn pennu unrhyw delerau ac amodau yn ymwneud ag oriau gwaith o fewn ystyr Deddf Hawliau Cyflogaeth 1996. Gweithir yr oriau angenrheidiol i gyflawni’n foddhaol y dyletswyddau sy’n gysylltiedig â’r swydd; ac ar gyfartaledd bydd ymrwymiad wythnosol arferol yn golygu rhwng 36.25 a 48 awr yr wythnos.
Gweithio rhan-amser o fewn Amodau a Thelerau staff Academaidd, Rheoli a Phroffesiynol:
Mae contractau cyflogaeth staff academaidd, rheoli a phroffesiynol yn nodi nad yw’r union oriau gwaith wedi eu pennu'n gyffredinol, ond byddant fel bo'r angen i gyflawni'n llwyddiannus y dyletswyddau sy’n gysylltiedig â’r swydd, ac yn unol â'r gyfarwyddeb amser gweithio. I aelodau staff llawn-amser, bydd y contract yn pennu oriau rhwng 36.25 a 48 yr wythnos.
Lle mae staff wedi eu penodi i swyddi rhan-amser, bydd hyn ar sail canran o amser e.e. fel contract 80%. Mae hyn yn golygu y byddant yn gweithio 80% o 36.25 - 48 awr yr wythnos yn hytrach na 29 awr sefydlog yr wythnos. Enghraifft arall fyddai contract 0.5 CaLl, byddai hyn yn golygu bod yr aelod staff yn gweithio 50% o 36.25 - 48 awr yr wythnos, h.y. rhwng 18 a 22 awr yr wythnos yn hytrach na 18 awr sefydlog. Nid oes hawl gan staff i gronni oriau ychwanegol os ydynt yn gweithio mwy o oriau yn achlysurol; dim ond i staff cefnogi, h.y. aelodau o staff ar raddfeydd 1-6, y mae'r Polisi Amser Hyblyg ac unrhyw amser i ffwrdd yn lle amser a weithiwyd yn ychwanegol yn berthnasol.