Mynediad at Wasanaethau
Os oes angen ichi greu mynediad parhaus i gyfleusterau TG a Llyfrgell ar gyfer ymwelydd NAD yw’n perthyn i un o’r categorïau isod:
- Yn cael tâl ar gontract neu System Gweithiwr Achlysurol trwy gyflogres y Brifysgol
- Yn fyfyriwr sydd wedi cofrestru ar hyn o bryd ar gyfer cymhwyster mewn
sefydliad AU arall
- Â chontract er anrhydedd
yna, llenwch y ffurflen hon a’i hanfon trwy e-bost i berson sydd wedi'i awdurdodi'n ddigonol i gymeradwyo:
Mae’n rhaid i’r ffurflen gael ei hawdurdodi gan unigolyn ag awdurdod digonol a’i hanfon o gyfeiriad e-bost yr unigolyn hwnnw. Peidiwch â chysylltu yn uniongyrchol â gwasanaethau TG i gael enw defnyddiwr. Bydd enw defnyddiwr yn cael ei greu a’i e-bostio i’r unigolyn a awdurdododd y ffurflen o fewn 24 awr.
Sylwch mai dim ond ffurflenni a ysgrifennwyd gan y canlynol yr ydym yn eu derbyn:
Coleg Gwyddorau Dynol - Huw Roberts, Nia Wright Morgan a Donna Marie-Pierce (DClinPsy (Seicoleg) yn unig)
Coleg Gwyddorau Amgylcheddol a Pheirianneg - Jane Lee
Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes - Sian Peris Owen, Rachel Parry a Karen Williams
Gwasanaethau Proffesiynol - Cyfarwyddwr y maes Gwasanaeth.
Os oes arnoch angen mynediad at Agresso at ddibenion cyllidol, anfonwch e-bost i agressohelpdesk@bangor.ac.uk unwaith y bydd y cyfrif wedi’i greu.
Am unrhyw ymholiad gwahanol i ymwneud a mynediad at wasanaethau anfonwch e-bost at hr-systems@bangor.ac.uk neu ffoniwch Anna Jones (est. 3865).