Ffioedd a Chyllid
Peidiwch â gadael i daliadau eich rhwystro rhag mynd ar gwrs!
Rydyn ni’n gwneud popeth a allwn i ddod o hyd i gefnogaeth i fyfyrwyr sy’n cael trafferth fforddio ffioedd. Efallai y byddwch yn gymwys i gael cyfraniad at ffioedd y cwrs, neu i gynllun hepgor ffioedd HEFCW. Mae gwybodaeth lawn am disgowntiau, bwrsariaethau a hepgor ffioedd ar gael yma.
Os hoffech gwybodaeth am ffioedd neu help gyda ffioedd, ffoniwch Sue Hughes ar 01248 382256 neu e-bostiwch sue.hughes@bangor.ac.uk. Bydd hi’n falch o ateb unrhyw gwestiynau ynglŷn â thaliadau, ac mae ar gael i roi cymorth a chyngor.