Arolwg Staff 2022 Cwestiynau Cyffredin
Pwy yw DJS Research?
Cwmni ymchwil yw DJS Research. Mae’n aelod llawn o Gymdeithas Ymchwil y Farchnad (MRS) ac yn rhwym i God Ymddygiad y Gymdeithas Ymchwil i’r Farchnad, sydd i’w weld yma: https://www.mrs.org.uk/standards/code_of_conduct
A yw'r arolwg yn gyfrinachol?
- Bydd yr holl ymatebion i'r arolwg yn gyfrinachol ac ni chaiff ymatebion unigol eu priodoli i neb yn benodol mewn unrhyw ddata nac adroddiadau a roddir i'r Brifysgol.
- Bwriad yr arolwg yw bwrw golwg dros dueddiadau yn y safbwyntiau, a pheidio â thynnu sylw at farn unigolion na grwpiau bach o weithwyr.
- Er mwyn sicrhau cyfrinachedd, ni fydd adroddiadau neilltuol am unrhyw grwpiau o weithwyr lle mae llai na 10 wedi ymateb.
Beth fydd yn digwydd i'r arolwg y byddaf yn ei gwblhau?
Caiff pob arolwg ei anfon yn uniongyrchol at DJS Research. Cynhelir yr arolwg electronig gan DJS Research gan ddefnyddio pecyn meddalwedd gyda chyswllt gwe cwbl ddiogel sy'n cyfeirio'r holl ymatebion drwodd at rwydwaith DJS Research. Felly, nid yw'n bosibl i'r ymatebion a wnewch gael eu galw'n ôl mewn unrhyw fodd ar eich cyfrifiadur na’ch gyriant.
A fydd Prifysgol Bangor yn gwybod pwy ymatebodd i'r arolwg?
Ni fydd neb ar unrhyw adeg yn gwybod pwy wnaeth gwblhau a phwy wnaeth ddim cwblhau’r arolwg. Bydd rhai o gwestiynau’r arolwg yn gofyn am wybodaeth ddemograffig, megis oedran a rhyw, ond ni fydd yn bosib cysylltu’r data hwnnw â’r unigolyn a dim ond er mwyn deall tueddiadau yn y data y caiff ei defnyddio gan DJS Research.
Mae DJS Research yn aelod o'r Gymdeithas Ymchwil i'r Farchnad ac yn rhwym i'w Chod Ymddygiad i beidio â rhoi manylion personol i neb heb ganiatâd gwybodus gan yr unigolyn hwnnw.
Beth wnawn ni gyda’r canlyniadau?
O rannu eich adborth ar sut beth yw gweithio yn y Brifysgol, gallwch helpu’r sefydliad ddeall yr hyn y mae'n ei wneud yn dda a pha feysydd i ganolbwyntio arnynt er mwyn eu gwella.
Pryd caf i wybod am ganlyniadau'r arolwg?
Disgwyliwn allu rhannu canlyniadau’r arolwg yng ngwanwyn 2022, gydag adroddiadau mwy lleol eu naws yn fuan wedyn.
 phwy y dylwn gysylltu os oes angen cymorth neu os oes gennyf gwestiynau?
Ffion Williams, tîm Adnoddau Dynol Prifysgol Bangor: f.williams@bangor.ac.uk