Dywedasoch wrthym, gwnaethom wrando: Canlyniadau Arolwg Staff 2020
Yn dilyn yr adborth a gawsom o’r arolwg diwethaf, amlygwyd fod staff, ar y cyfan, yn teimlo:
- Bod y Brifysgol yn lle da i weithio (87%)
- Yn falch o weithio i'r Brifysgol (84%)
Siaradodd staff yn gadarnhaol am agweddau megis cydraddoldeb, dwyieithrwydd, yr awyrgylch gwaith a chefnogaeth gan rheolwyr uniongyrchol.
Fodd bynnag, nododd yr adborth hefyd feysydd lle'r oedd angen gwneud gwelliannau.
Roedd rhain yn cynnwys:
- Yr angen i Bwyllgor Gweithredu’r Brifysgol fod yn fwy gweladwy
- Yr angen i gyfathrebu’n fwy effeithiol
- Diffyg ymgynghori â staff ar faterion allweddol
- Diffyg rhannu gweledigaeth hirdymor y Brifysgol gyda staff
- Yr angen i rhoi mwy o sylw i reoli llwyth gwaith
Mewn ymateb i’ch sylwadau, ers 2020 rydym wedi cyflwyno ystod o fesurau i wella’r meysydd hyn, megis:
- Bwletin Staff rheolaidd
- Gwell strategaeth a phroses cyfathrebu mewnol
- Ymgynghori â staff ar strategaethau’r Brifysgol (Cynllun Strategol newydd y Brifysgol; Ymchwil; Addysgu a Dysgu; y Gymraeg a Dwyieithrwydd; Ystadau, ayyb)
- Blogiau gan y Pwyllgor Gweithredu
- Adolygu'r broses ddyrchafu
- Cynllun peilot Model Dyrannu Llwyth Gwaith (WAM)
- Cyfleoedd hyfforddi newydd
- Datblygiadau Iechyd a Lles
- Strategaeth Iechyd a Lles
- Strategaeth Pobl a Thalent
- Rhaglenni Rheolwyr Effeithiol ac Arweinyddiaeth Ymchwil
- Gwelliannau i’r pecyn Buddion Bangor
Trwy rannu eich barn gyda ni, rydych yn ein helpu i siapio ein dyfodol gyda'n gilydd ym Mhrifysgol Bangor.