Pam Astudio Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer?
Dy ddyfodol ar waith.
Ym Mhrifysgol Bangor, byddi di’n astudio mewn lle sy’n cyfuno arbenigedd academaidd ag amgylchedd cefnogol a chymunedol. Rydyn ni’n falch o’n hanes, ein lleoliad, a’n hunaniaeth Gymreig – ac mae hynny’n siapio dy brofiad o’r radd gyntaf.
Byddi di’n dysgu drwy brofiadau ymarferol – yn y labordy, yn yr amgylchedd hyfforddi, ac yn y byd go iawn. Mae ein cwricwlwm dan arweiniad ymchwil yn ymdrin â phynciau craidd fel ffisioleg, seicoleg, iechyd, biomecaneg ac addysg gorfforol. Mae ein staff yn arbenigwyr yn eu meysydd, ac yn gweithio gyda pherfformwyr chwaraeon ac arbenigwyr meddygol ar y lefelau uchaf.
Beth allai’r radd hon gynnig i ti?
- Cwricwlwm ymarferol ac arloesol – wedi’i lywio gan ymchwil sy’n gwneud gwahaniaeth.
- Cyfleoedd i astudio dramor – gan gynnwys UDA, Awstralia a Chanada.
- Blwyddyn ar leoliad gwaith – i weithio gyda arbenigwyr yn y sector.
- Cyfleusterau o’r radd flaenaf – gan gynnwys siambr uchder, labordai 3D, DXA, ac ystafelloedd seicoleg.
- Cymuned glòs a chefnogol – lle mae pob llais yn cael ei werthfawrogi.
- Cyfleoedd ymchwil unigryw – fel astudio perfformiad dynol yn yr Himalayas.
- Cysylltiadau cryf â’r diwydiant – UK Sport, Manchester City FC, British Gymnastics, y GIG, ac eraill.
- Strategaeth gyflogadwyedd glir – sy’n cynnwys:
- Cydweithio â chyflogwyr i nodi sgiliau allweddol.
- Ymgorffori’r sgiliau hyn yn y cwricwlwm.
- Darparu profiad gwaith a gwirfoddoli.
- Cefnogaeth barhaus gan staff, Gyrfaoedd Bangor a’r tîm cyn-fyfyrwyr.
Byddi di’n datblygu sgiliau i feddwl yn feirniadol, cynllunio ymchwil, ac arwain ar ddatblygiadau yn y maes. Mae gradd o Fangor yn golygu gradd sy’n cael ei chydnabod yn y sector – ac yn dy baratoi ar gyfer gyrfa gyffrous mewn chwaraeon, iechyd neu antur.