Gwneud Cais am gwrs Ôl-radd

Pryd i wneud Cais

Bydd y Brifysgol yn derbyn ceisiadau drwy gydol y flwyddyn ond byddwn yn gyffredinol yn eich annog i anfon eich cais cyn diwedd mis Mehefin (os yn cychwyn ym mis Medi) neu diwedd mis Hydref (os yn cychwyn mis Ionawr).

Mae hyn yn rhoi cyfle i chi wneud trefniadau ariannol a/neu lety ac i chi fedru cael gafael ar drawsgrifiadau a geirda os bydd angen. Bydd hyn hefyd yn rhoi mwy o amser i chi gwrdd ag unrhyw amodau y byddem yn ei osod ar eich cynnig i gael eich derbyn i astudio’r cwrs.

Mae gan rhai cyrsiau ddyddiadau cau penodol – edrychwch ar y disgrifiad cwrs ar y wefan i weld os ydi hyn yn berthnasol i’ch cwrs.

Cyrsiau Trwy Ddysgu efo Proses Ymgeisio wahanol

Mae gofyn dilyn proses wahanol i wneud cais am y cyrsiau hyn.

Cyrsiau Trwy Ddysgu efo Proses Ymgeisio wahanol

Mae gofyn dilyn proses wahanol i wneud cais am y cyrsiau hyn.

GWYBODAETH BELLACH A CHYNGOR AR WNEUD CAIS AM GWRS YMCHWIL ÔL-RADD

Er eich bod yn defnyddio’r un ffurflen i wneud cais am gwrs ôl-radd trwy ddysgu a chwrs ymchwil, mae’r ffordd y dylech fynd ati i wneud cais yn gwneud gwahaniaeth.

Fel gydag ein holl gyrsiau, gallwch ariannu cwrs PhD/Mphil ym Mangor eich hun, neu efallai fod gennych gymorth ariannol allanol (er enghraifft gan eich cyflogwr neu gan y cynulliad), ac rydym yn croesawu pob cais am wneud hynny. Er hynny, yn hytrach na chwblhau ffurflen gais yn unig, gallwch gymryd camau syml er mwyn gwneud yn siŵr fod eich cais yn sefyll allan ac yn fwy tebygol o fod yn llwyddiannus.

Mae pob myfyriwr PhD/Mphil angen goruchwyliaeth gan o leiaf un aelod o staff y Brifysgol, ac os ydych yn ystyried PhD/Mphil mae gennych eisoes syniad o’r pwnc neu’r maes yr ydym am astudio ynddo. I wneud yn siŵr fod gan y Brifysgol arbenigedd yn y maes er mwyn darparu goruchwyliaeth, edrychwch yn gyntaf ar ein tudalennau staff.

Unwaith yr ydych wedi dod o hyd i aelod o staff sydd yn gwneud gwaith ymchwil yn y maes, gallwch gysylltu â hwy yn uniongyrchol gyda chrynodeb o’ch ymchwil sy’n amlinellu eich cais a gofynnwch a ydynt yn fodlon i oruchwylio eich project. Os yw’r aelod o staff academaidd yn dangos diddordeb, gallwch drafod ymhellach i ddatblygu cynnig ymchwil PhD/Mphil llawn.

Ar yr adeg yma, dylech wneud cais am y rhaglen PhD/Mphil gan ddefnyddio'r ffurflen sydd ar gael yma. Dylech gwblhau’r ffurflen yn llawn gan gynnwys cyfeirnodau academaidd, eich cais ymchwil ac enw’r aelod o staff academaidd sydd am eich goruchwylio.

Ymgeisio am ysgoloriaethau PhD a hysbysebir gan Brifysgol Bangor

Eich cynnig ymchwil

Mae cynnig ymchwil da yn hanfodol os ydych yn ymgeisio am PhD neu MPhil. Dylai’r cynnig gynnwys:

  •  Trosolwg - rhowch fraslun o'r maes pwnc yr ydych am ymchwilio iddo, a rhoddwch wybodaeth am y dadleuon damcaniaethol, polisi ac empirig y byddwch yn ymdrin â hwy.
  • Cynllunio – rhaid i chi ddangos eich bod yn ymwybodol o amserlenni ymchwil, a bod gennych gynllun i reoli'ch gwaith. Rhaid i chi ddangos ei bod yn bosib cyflawni'r ymchwil yn yr amser sydd ar gael.
  • Cyfeiriadau llenyddol – rhaid i chi ddangos nad yw'ch maes ymchwil arfaethedig wedi'i astudio o'r blaen. Rhowch gyfeiriadau at erthyglau a thestunau llenyddol sy'n berthnasol i'ch maes astudio chi.
  •  Methodoleg – rhaid i chi ddangos eich bod yn ymwybodol o'r offer methodolegol sydd ar gael, a nodi pa rai fyddai'n addas i'ch ymchwil chi.

Mwy o gyngor am baratoi eich cynnig ymchwil

Mae cyfleoedd i ennill ysgoloriaethau PhD wedi eu hariannu yn codi yn aml drwy gydol y flwyddyn, ac yn cael ei hysbysebu fel cyfleoedd penodol sydd yn gofyn i chi wneud cais ffurfiol. Mae’r broses gwneud cais ar gyfer ysgoloriaethau PhD wedi eu hariannu yn amrywio o ysgol i ysgol felly mae gofyn i chi edrych ar wefan yr ysgol academaidd briodol a dilyn y cyfarwyddiadau sydd ar gael yno. Os ydych yn ansicr o unrhyw ran o’r broses gneud cais, gallwch gysylltu â’r ysgol academaidd briodol yn uniongyrchol am gyngor neu gallwch e-bostio postgraduatestudy@bangor.ac.uk

Statws eich cais

Gallwch gadw golwg ar statws eich cais drwy fewngofnodi i'n System Ymgeisio Uniongyrchol

Os ydych yn cael unrhyw anhawsterau gyda'n system ar-lein neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich cais, cysylltwch â ni: 

Swyddfa Derbyniadau: 

  +44 (0)1248 383717 

postgraduate@bangor.ac.uk 

Swyddfa Derbyniadau Rhyngwladol 

  Cysylltwch â'ch rheolwr gwlad 

Wedi gwneud cais yn barod?

Ydych chi eisiau gwybod beth fydd yn digwydd nesaf? Dewch i ddarganfod mwy am ffioedd a chyllid, llety, ein lleoliad a'r holl wybodaeth bwysig yr ydych angen ei wybod. 

Myfyrwyr yn cymdeithasu ar fain yn Gwad Mewnol, Prif Adeilad

HWB YMGEISWYR

It looks like you’re visiting from outside the UK, would you like to be redirected to the international page?