Modiwl CXC-1001:
Beirniadaeth Lenyddol Ymarfer
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Arts, Culture and Language
10.000 Credyd neu 5.000 Credyd ECTS
Semester 2
Trefnydd: Prof Jason Davies
Amcanion cyffredinol
Bydd y modiwl hwn yn cynnig cyflwyniad i ddetholiad o ddamcaniaethau beirniadol ac i egwyddorion beirniadaeth lenyddol. Rhoddir y prif bwyslais ar agweddau ymarferol beirniadaeth lenyddol. Gwneir hyn drwy gyfres o astudiaethau manwl ar gerddi a darnau rhyddiaith unigol. Gweithiau o’r ugeinfed ganrif yw’r mwyafrif o’r darnau a drafodir, ond byddir hefyd yn ymdrin yn feirniadol ag ambell awdl a chywydd o’r Oesoedd Canol, a cherddi o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ystyrir swyddogaeth beirniadaeth lenyddol mewn gwahanol gyd-destunau – cystadlaethau eisteddfodol a chyfieithu llenyddol, er enghraifft. Er goleuo’r pwnc ymhellach, ymdrinnir â nifer o’r cerddi a’r darnau rhyddiaith Cymraeg ochr yn ochr â gweithiau Saesneg ac enghreifftiau o lenyddiaethau eraill (mewn cyfieithiad).
Cynnwys cwrs
Bydd y modiwl hwn yn cynnig cyflwyniad i ddetholiad o ddamcaniaethau beirniadol ac i egwyddorion beirniadaeth lenyddol. Rhoddir y prif bwyslais ar agweddau ymarferol beirniadaeth lenyddol. Gwneir hyn drwy gyfres o astudiaethau manwl ar gerddi a darnau rhyddiaith unigol. Gweithiau o’r ugeinfed ganrif yw’r mwyafrif o’r darnau a drafodir, ond byddir hefyd yn ymdrin yn feirniadol ag ambell awdl a chywydd o’r Oesoedd Canol, a cherddi o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ystyrir swyddogaeth beirniadaeth lenyddol mewn gwahanol gyd-destunau – cystadlaethau eisteddfodol a chyfieithu llenyddol, er enghraifft. Er goleuo’r pwnc ymhellach, ymdrinnir â nifer o’r cerddi a’r darnau rhyddiaith Cymraeg ochr yn ochr â gweithiau Saesneg ac enghreifftiau o lenyddiaethau eraill (mewn cyfieithiad).
Meini Prawf
trothwy
D- i D+: Dylai'r gwaith ddangos cynefindra â'r syniadau beirniadol a'r testunau a drafodir yn y darlithoedd a'r seminarau, a gallu i'w cymhwyso at gyd-destunau newydd. Dylai hefyd ddangos gwybodaeth am ddetholiad o destunau, awduron a genres llenyddiaeth Gymraeg mewn gwahanol gyfnodau, ynghyd â dealltwriaeth ohonynt. Dylai'r gwaith a gyflwynir, ar lafar ac yn ysgrifenedig, hefyd ddangos gallu i nodi rhai cyfeiriadau cymharol o ddiddordeb, gafael ar gystrawen a theithi'r Gymraeg ac ar dermau technegol a geirfa'r maes penodol hwn, a gallu i fynegi barn bersonol ar amryw ddadleuon a damcaniaethau.
da
B- i B+: Dylai'r gwaith ddangos dealltwriaeth dda o'r syniadau beirniadol a'r testunau a drafodir yn y darlithoedd a'r seminarau, a gallu da i'w cymhwyso at sawl cyd-destun newydd. Dylai hefyd ddangos gwybodaeth helaeth am rychwant o destunau, awduron a genres llenyddiaeth Gymraeg mewn gwahanol gyfnodau, ynghyd â dealltwriaeth dda ohonynt. Dylai'r gwaith a gyflwynir, ar lafar ac yn ysgrifenedig, hefyd ddangos gallu i nodi nifer o gyfeiriadau cymharol diddorol sy'n goleuo'r pwnc, gafael dda ar gystrawen a theithi'r Gymraeg ac ar dermau technegol a geirfa'r maes penodol hwn, a pharodrwydd i fynegi barn bersonol yn hyderus ar nifer o ddadleuon a damcaniaethau.
ardderchog
A- i A*: Dylai'r gwaith ddangos gwybodaeth drylwyr o'r syniadau beirniadol a'r testunau a drafodir yn y darlithoedd a'r seminarau, a gallu datblygedig i'w cymhwyso at nifer helaeth o gyd-destunau newydd. Dylai hefyd ddangos gwybodaeth fanwl am rychwant eang o destunau, awduron a genres llenyddiaeth Gymraeg mewn gwahanol gyfnodau, ynghyd â dealltwriaeth drylwyr ohonynt. Dylai'r gwaith a gyflwynir, ar lafar ac yn ysgrifenedig, hefyd ddangos gallu aeddfed i ddefnyddio cyfeiridau llenyddol cymharol, gafael gadarn ar gystrawen a theithi'r Gymraeg ac ar dermau technegol a geirfa'r maes penodol hwn, a pharodrwydd i fynegi'n hyderus farn bersonol addysgedig ar nifer helaeth o ddadleuon a damcaniaethau, gan eu cyferbynnu'n ddadlennol â'i gilydd.
Canlyniad dysgu
-
Asesu'r traddodiad beirniadol Cymraeg yng nghyd-destun ehangach damcaniaethu beirniadol y dwthwn hwn.
-
Trafod defnyddioldeb gwahanol syniadau beirniadol fel ffyrdd o ddehongli testunau Cymraeg penodol.
-
Dadansoddi testunau Cymraeg o wahanol gyfnodau gan ddangos gwybodaeth am eu cefndir hanesyddol a'u nodweddion mydryddol, ieithyddol a delweddol.
-
Cyfoethogi eu dealltwriaeth o'r testunau Cymraeg drwy gymharu'r gweithiau hyn yn ddadlennol ag enghreifftiau perthnasol o lenyddiaeth eraill.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Arholiad awr a hanner | 75.00 | ||
Ymarferiad Beirniadol | 25.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau |
---|
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Rhifedd - Medrusrwydd wrth ddefnyddio rhifau ar lefelau priodol o gywirdeb
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Ymwybyddiaeth o ddiogelwch - Bod yn ymwybodol o'ch amgylchedd a hyder o ran cadw at reoliadau iechyd a diogelwch
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Gwaith Tîm - Gallu cydweithio'n adeiladol ag eraill ar dasg gyffredin, ac/neu fod yn rhan o dîm gweithio o ddydd i ddydd
- Mentora - Gallu cefnogi, helpu, arwain, ysbrydoli ac/neu hyfforddi eraill
- Rheloaeth - Gallu defnyddio, cydlynu a rheoli adnoddau (dynol, ffisegol ac/neu ariannol)
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Adnoddau
Rhestrau Darllen Bangor (Talis)
http://readinglists.bangor.ac.uk/modules/cxc-1001.htmlCyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Gorfodol mewn cyrsiau:
- Q5P5: BA Cymraeg gyda Newyddiaduraeth year 1 (BA/CN)
- Q562: BA Cymraeg year 1 (BA/CYM)
- Q565: BA Cymraeg (4 year) year 1 (BA/CYM4)
- Q5WK: BA Cymraeg gydag Ysgrifennu Cread year 1 (BA/WCW)
Opsiynol mewn cyrsiau:
- NQ26: BA Astudiaethau Busnes a Chymraeg year 1 (BA/ABCH)
- 3Q5Q: BA Cymraeg and English Literature year 1 (BA/CEL)
- QWM5: BA Cymraeg, Theatr a'r Cyfryngau year 1 (BA/CTC)
- Q562: BA Cymraeg year 1 (BA/CYM)
- Q565: BA Cymraeg (4 year) year 1 (BA/CYM4)
- R805: BA Modern Languages & Cymraeg year 1 (BA/MLCYM)
- X321: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymraeg year 1 (BA/PIC)
- QV51: BA Cymraeg/History year 1 (BA/WH)
- QQ15: BA Cymraeg and Linguistics year 1 (BA/WL)
- QW53: BA Cymraeg/Music year 1 (BA/WMU)
- LQ35: BA Cymraeg and Sociology year 1 (BA/WS)
- M110: LLB Law with Welsh (International Experience) year 1 (LLB/LIH)
- M1Q5: LLB Law with Welsh year 1 (LLB/LW)