Modiwl CXC-2026:
Llên a Chymdeithas 1500-1740
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Arts, Culture and Language
20.000 Credyd neu 10.000 Credyd ECTS
Semester 2
Trefnydd: Prof Jerry Hunter
Amcanion cyffredinol
Bydd y modiwl hwn yn cynnig cyflwyniad manwl i hanes llenyddiaeth Gymraeg rhwng 1500 a 1740. Rhoddir sylw i gyd-destun cymdeithasol llenyddiaeth Gymraeg y cyfnod, gan drafod effaih datblygiadau ym myd crefydd, addysg a thechnoleg ar draddodiad llenyddol Cymru. Edrychir ar y berthynas rhwng trosglwyddiad llafar, llawysgrif a llyfr gan drafod effaith y gwahanol gyfryngau hyn ar hanes llên. Ystyrir y modd y mae llenyddiaeth yn adlewyrchu hunaniaeth Gymreig y cyfnod gan roi sylw arbennig i'r dadleuon ynghylch (ffug) hanes y Cymru. Trwy drafod Dyneiddiaeth, Protestaniaeth, Methodistiaeth a Chlasuriaeth ceir archwilio'r berthynas rhwng diwylliant Cymru a datblygiadau mewn gwledydd eraill. Canolbwyntir ar nifer o feirdd a llenorion unigol.
Cynnwys cwrs

Meini Prawf
trothwy
D- i D+
Dangos gallu i adnabod a gwerthfawrogi grym mynegiannol Cymraeg Modern Cynnar Dangos gwybodaeth am rychwant o feirdd a llenorion a'u testunau a phrofi dealltwriaeth ohonynt Dangos gallu i ddadansoddi testunau Dangos gallu i ymateb i farn ac i fynegi barn bersonol Dangos gallu i grynhoi sylwadau a dadleuon pobl eraill Dangos gafael ar gystrawen a theithi'r Gymraeg.
da
B- i B+
Dangos gallu da i adnabod a gwerthfawrogi grym mynegiannol Cymraeg Modern Cynnar Dangos gwybodaeth dda am rychwant o feirdd a llenorion a'u testunau a phrofi dealltwriaeth ohonynt Dangos gallu da i ddadansoddi testunau Dangos gallu da i ymateb i farn ac i fynegi barn bersonol Dangos gallu da i grynhoi sylwadau a dadleuon pobl eraill Dangos gafael dda ar gystrawen a theithi'r Gymraeg.
ardderchog
A- i A*
Dangos gallu sicr i adnabod a gwerthfawrogi grym mynegiannol Cymraeg Modern Cynnar Dangos gwybodaeth sicr am rychwant o feirdd a llenorion a'u testunau a phrofi dealltwriaeth ohonynt Dangos gallu sicr i ddadansoddi testunau Dangos gallu sicr i ymateb i farn ac i fynegi barn bersonol Dangos gallu sicr i grynhoi sylwadau a dadleuon pobl eraill Dangos gafael sicr ar gystrawen a theithi'r Gymraeg.
Canlyniad dysgu
-
Mynegi eu hatebion mewn iaith ac arddull dderbyniol.
-
Adnabod rhai o'r gwahanol ffurfiau, arddulliau a thechnegau sy'n nodweddu llên y cyfnod.
-
Gwybod sut i ymateb yn feirniadol i wahanol destunau o'r cyfnod hwn.
-
Amgyffred rhai o brif dueddiadau a datblygiadau llenyddiaeth Gymraeg yn ystod y cyfnod 1500-1740
Dulliau asesu
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau |
---|
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.