Modiwl CXC-3018:
Gweithdy Barddoniaeth
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Welsh and Celtic Studies
20 Credyd neu 10 Credyd ECTS
Semester 2
Trefnydd: Prof Gerwyn Wiliams
Amcanion cyffredinol
Sicrhau'r deilliannau dysgu.
Cynnwys cwrs
Fel Gweithdy Rhyddiaith (Blwyddyn 2 a 3) a Gweithdy Creadigol (Blwyddyn 1), dyma un o brif fodiwlau’r cynllun gradd Cymraeg gydag Ysgrifennu Creadigol. Bydd y pwyslais canolog ar feithrin, hybu a datblygu creadigrwydd, yn benodol ar ffurf barddoniaeth. I’r perwyl hwnnw, trafodir mewn seminarau ystod eang o gerddi, boed Ganu Cynnar arwrol Aneirin ar gychwyn cyntaf ein traddodiad barddol, cywyddau dyfalu llachar Dafydd ap Gwilym o’r Oesoedd Canol neu gerddi dychan comig Gwyn Thomas o’r cyfnod diweddar. Ond ni chyfyngir yr enghreifftiau niferus o arfer da i farddoniaeth Gymraeg yn unig - cyfeirir yn gyson at y gwersi y gellir eu dysgu o draddodiadau barddol eraill yn ogystal. Bydd awgrymiadau cyson yn deillio o’r hyn a drafodir mewn seminarau ar gyfer gwaith creadigol y sawl a ddilyno’r modiwl. Mewn tiwtorialau rhoddir sylw i’r gwaith creadigol hwnnw a thrafodir cynnydd y gwaith ffolio. Bydd tair prif thema i’r modiwl hwn: deunyddiau: delweddau a throsiadau; troadau ymadrodd; arddulliau, cyweiriau a chyfeiriadaeth; mesurau: yr haicw a phenillion telyn; vers libre; y delyneg a’r filanel; y soned; canu naratif, dilyniannau a chyfresi; cynnwys: cerddi am leoedd a cherddi portread; cerddi dychan a phrotest; parodi a pastiche. Anelir at gynnig digon o gyngor ymarferol ac awgrymiadau dychmygus i gynorthwyo’r broses greadigol o gyfansoddi cerddi.
Bydd y modiwl hwn ar gael i fyfyrwyr Blwyddyn 2 a 3; bydd y cynnwys yr un fath i’r ddwy lefel ond bydd y deilliannau dysgu'n amrywio a natur y cwestiwn traethawd yn wahanol.
Meini Prawf
da
D- i D+
Dangos gallu da i adnabod a gwerthfawrogi grym mynegiannol iaith Dangos gallu da i adnabod amryw fathau o gerddi a nodweddion barddol Dangos gallu da i ddefnyddio gwahanol dechnegau a chonfensiynau barddol Dangos gallu da i ysgrifennu'n greadigol Dangos gallu da i ysgrifennu'n feirniadol Dangos gafael dda ar gystrawen a theithi'r Gymraeg
trothwy
B- i B+
Dangos gallu i adnabod a gwerthfawrogi grym mynegiannol iaith Dangos gallu i adnabod amryw fathau o gerddi a nodweddion barddol Dangos gallu i ddefnyddio gwahanol dechnegau a chonfensiynau barddol Dangos gallu i ysgrifennu'n greadigol Dangos gallu i ysgrifennu'n feirniadol Dangos gafael ar gystrawen a theithi'r Gymraeg
ardderchog
A- i A*
Dangos gallu sicr i adnabod a gwerthfawrogi grym mynegiannol iaith Dangos gallu sicr i adnabod amryw fathau o gerddi a nodweddion barddol Dangos gallu sicr i ddefnyddio gwahanol dechnegau a chonfensiynau barddol Dangos gallu sicr i ysgrifennu'n greadigol Dangos gallu sicr i ysgrifennu'n feirniadol Dangos gafael sicr ar gystrawen a theithi'r Gymraeg
Canlyniad dysgu
-
Sylweddoli gwerth mynegiant gwreiddiol, bywiog a diddorol.
-
Ymwela'n greadigol ar y cerddi a ystyriwyd.
-
Bwrw trawsolwg eang ar yr hyn a drafodir gan ddwyn i mewn ystyriaethau cymharol lle y bo hynny'n briodol.
-
Cyflwyno eu traethawd ac adolygiad mewn iaith raenus a chywir.
-
Cymhwyso'r hyn a enghreifftiwyd mewn seminarau - e.e. technegau a themâu - at eu hysgrifennu creadigol eu hunain.
-
Ymateb yn effro i amrywiaeth o gerddi gan ystod o feirdd.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Traethawd | 20 | ||
Adolygiad byr | 10 | ||
Portffolio o gerddi | 70 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Practical classes and workshops | 22 | |
Tutorial | 11 | |
Private study | 167 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Rheloaeth - Gallu defnyddio, cydlynu a rheoli adnoddau (dynol, ffisegol ac/neu ariannol)
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Adnoddau
Goblygiadau o ran adnoddau ar gyfer myfyrwyr
Cyfeirir yn rheolaidd yn ystod y modiwl at ystod o ddeunyddiau a fydd ar gael un ai yn llyfrgell PB neu ar wahanol wefannau. Gwneir defnydd cyson o safle dysgu Blackboard.
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Gorfodol mewn cyrsiau:
- QW5H: Cymraeg Creadigol gyda Cherddoriaeth Boblogaidd year 3 (BA/CCYCB)
- Q5WK: BA Cymraeg gydag Ysgrifennu Cread year 3 (BA/WCW)
Opsiynol mewn cyrsiau:
- NQ26: BA Astudiaethau Busnes a Chymraeg year 3 (BA/ABCH)
- T102: BA Chinese and Cymraeg year 4 (BA/CHCY)
- Q5P5: BA Cymraeg gyda Newyddiaduraeth year 3 (BA/CN)
- QWM5: BA Cymraeg, Theatr a'r Cyfryngau year 3 (BA/CTC)
- Q562: BA Cymraeg year 3 (BA/CYM)
- QQ3M: BA English Language & Cymraeg year 3 (BA/ELC)
- QR53: BA Italian/Cymraeg year 4 (BA/ITCY)
- X321: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymraeg year 3 (BA/PIC)
- VVQ5: BA Philosophy and Religion and Welsh year 3 (BA/PRW)
- QR54: BA Spanish/Cymraeg year 4 (BA/SPCY)
- CQ65: BA Cymraeg/Sports Science year 3 (BA/SPSW)
- LQK5: BA Polisi Cymdeithasol a Chymraeg year 3 (BA/SPWW)
- LQH5: BA Cymdeithaseg a Chymraeg year 3 (BA/SWW)
- QR51: BA Cymraeg/French year 4 (BA/WFR)
- QR52: BA Cymraeg/German year 4 (BA/WG)
- QV51: BA Cymraeg/History year 3 (BA/WH)
- QVM2: BA Welsh History/Cymraeg year 3 (BA/WHW)
- QQ15: BA Cymraeg and Linguistics year 3 (BA/WL)
- QW53: BA Cymraeg/Music year 3 (BA/WMU)
- LQ35: BA Cymraeg and Sociology year 3 (BA/WS)
- M1Q5: LLB Law with Welsh year 3 (LLB/LW)