Modiwl LCF-2020:
Sgiliau Iaith Ffrangeg-3 Iaith
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Arts, Culture and Language
20.000 Credyd neu 10.000 Credyd ECTS
Semester 1
Trefnydd: Dr Jonathan Ervine
Amcanion cyffredinol
- Atgyfnerthu ac ehangu gwybodaeth y myfyrwyr o ramadeg a geirfa Ffrangeg.
- Datblygu sgiliau cyfieithu i'r iaith darged ac ohoni, a sgiliau trin Ffrangeg ysgrifenedig.
- Datblygu sgiliau llafar a gwrando.
- Dod yn gyfarwydd â geirfa sy'n ymwneud â'r flwyddyn dramor sydd i ddod, a chyd-destunau cymdeithasol-ddiwylliannol eraill.
Bydd myfyrwyr sy'n dilyn y modiwl hwn yn gweithio tuag at gyrraedd lefel B2/C1 y Fframwaith Cyfeirio Ewropeaidd Cyffredin ar gyfer Ieithoedd (CEFR).
Cynnwys cwrs
Gan adeiladu ar sylfaeni cwrs iaith y flwyddyn gyntaf, bydd dosbarthiadau ar sgiliau ysgrifenedig, gwrando a deal, cyfieithu i'r Gymraeg/Saesneg, a sgiliau llafar yn datblygu hyfedredd a rhuglder yn Ffrangeg. Bydd gwersi sgiliau iaith ysgrifenedig yn cynnwys adolygu pwyntiau gramadegol, aralleirio, cyfieithu i'r Ffrangeg ac ysgrifennu traethodau, ac yn canolbwyntio ar iaith newyddiadurol, lenyddol a phroffesiynol. Bydd y dosbarthiadau gwrando a deall yn defnyddio ffynonellau dilys oddi ar y teledu ac ati, ac yn cynnwys tasgau trawgrifio ac aralleirio. Mae'r deunyddiau iaith a ddefnyddir yn ymwneud â'r cyfryngau a chyflogadwyedd. Bydd sgiliau llafar yn datblygu rhuglder mewn gwahanol gyweiriau. Bydd pob dosbarth yn datblygu'r sgiliau y bydd ar y myfyrwyr eu hangen yn eu trydedd flwyddyn pan fyddant mewn gwlad lle siaredir Ffrangeg.
Meini Prawf
trothwy
40-49%: Gwybodaeth gyfyngedig o eirfa a gramadeg, a gallu cyfyngedig i gyfieithu ac aralleirio ystod o destunau penodedig.
da
50-69%: Gwybodaeth dda o eirfa a gramadeg, a gallu da i gyfieithu a thrin amrywiaeth o ddeunyddiau testunol. Gallu da ar lafar ac wrth wrando.
ardderchog
70+%: Gwybodaeth ragorol o eirfa a gramadeg, a gallu ardderchog i gyfieithu a thrin testunau, gyda dealltwriaeth gadarn o gywair. Gallu rhagorol ar lafar ac wrth wrando.
Canlyniad dysgu
-
Bydd myfyrwyr yn dangos y gallu i gyfieithu testunau yn fedrus gan sicrhau bod yr arddull a'r cywair yn cyd-fynd â'r gwreiddiol.
-
Bydd myfyrwyr wedi ymestyn eu gwybodaeth a'u hymwybyddiaeth o bynciau sy'n ymwneud â diwylliannau a chymdeithasau Ffrangeg a Ffrengig.
-
Bydd myfyrwyr yn gallu cyfathrebu'n effeithiol mewn Ffrangeg llafar mewn amrywiaeth o gyweiriau.
-
Bydd myfyrwyr yn gallu cyfathrebu'n effeithiol mewn Ffrangeg ysgrifenedig mewn amrywiaeth o gyweiriau.
-
Bydd myfyrwyr yn dangos hyfedredd cynyddol mewn gwrando a deall.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Summary and rewriting test | 25.00 | ||
Written exam (1 hour) | 30.00 | ||
Oral exam | 25.00 | ||
Aural listening comprehension test | 20.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Tutorial | Extra tutorial for beginners |
11 |
Seminar | 3 awr gyswllt yr wythnos + 1 awr cyfrwng Cymraeg. |
33 |
Private study | 156 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.