Modiwl XAC-2039:
Mentora a Chyfeillio
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Educational Sciences
20.000 Credydau neu 10.000 Credyd ECTS
Semester2
Trefnydd: Mrs Rhian Tomos
Amcanion cyffredinol
Mae'r modiwl hwn yn darparu sylfaen mewn theorïau mentora a chynorthwyo plant a phobl ifanc yn effeithiol. Mae'n trafod yn feirniadol hanes mentora a chynorthwyo, gan ddefnyddio tystiolaeth ymchwil gyfoes i ddisgrifio arfer gorau cyfredol. Mae'n edrych ar arwyddocâd cymhelliant, gosod amcanion a dealltwriaeth o'ch hunan, ynghyd â sgiliau gwrando ac iaith y corff wrth ddatblygu hunanymwybyddiaeth, dealltwriaeth a sgiliau'r mentor i helpu'r plentyn neu berson ifanc gyflawni ei amcanion. Ar ôl gwneud hyfforddiant i fentoriaid, bydd myfyrwyr yn cynorthwyo cyd-fyfyriwr er mwyn datblygu eu sgiliau mentora unigol a dangos dealltwriaeth o ystyriaethau damcaniaethol a rhyngbersonol o fewn cyd-destun moesegol. Bydd y myfyrwyr yn gweithio gyda'u mentai gan gynllunio chwe sesiwn cefnogi priodol gyda'r bwriad o ddatblygu hyder y mentai mewn meysydd academaidd.
Cynnwys cwrs
Bydd y modiwl yn canolbwyntio ar ddatblygu dealltwriaeth o fentora, yn cynnwys hyfforddiant i fentoriaid, a fydd yn galluogi i fyfyrwyr gymryd rhan mewn cyfres o sesiynau mentora cyd-fyfyrwyr dan oruchwyliaeth gan arweinydd y modiwl. Bydd yn ymdrin â’r testunau canlynol:
• Hanes mentora a chynorthwyo; • Sgiliau allweddol ar gyfer mentora a chynorthwyo plant a phobl ifanc; • Dealltwriaeth o'ch Hunan; • Ysgogiad; • Nodi amcanion; • Dod â'r berthynas fentora i ben; • Ystyriaethau moesegol y broses fentora; • Profiad ymarferol o fentora cyd-fyfyriwr; • Ymarfer adfyfyriol
Meini Prawf
trothwy
D- i D+: Dealltwriaeth feirniadol, foddhaol o theorïau cyfredol mentora a chynorthwyo, yn cynnwys y gallu i wneud penderfyniadau cadarn wedi'u seilio ar dystiolaeth ar strategaethau mentora i helpu cyd-fyfyriwr gyflawni'r amcanion cytunedig; ymwybyddiaeth sylfaenol o elfennau moesegol a rhyngbersonol mentora effeithiol, yn cynnwys symbyliad a dod â'r fentoriaeth i ben.
dda
C- i B+: Dealltwriaeth feirniadol, dda o theorïau cyfredol mentora a chynorthwyo, yn cynnwys y gallu i wneud penderfyniadau cadarn wedi'u seilio ar dystiolaeth ar strategaethau mentora i helpu cyd-fyfyriwr gyflawni'r amcanion cytunedig; ymwybyddiaeth gadarn o elfennau moesegol a rhyngbersonol mentora effeithiol, yn cynnwys symbyliad a dod â'r fentoriaeth i ben.
rhagorol
A- i A*: Dealltwriaeth feirniadol, gynhwysfawr o theorïau cyfredol mentora a chynorthwyo, yn cynnwys y gallu i wneud penderfyniadau cadarn wedi'u seilio ar dystiolaeth ar strategaethau mentora i helpu cyd-fyfyriwr gyflawni'r amcanion cytunedig; ymwybyddiaeth drwyadl o elfennau moesegol a rhyngbersonol mentora effeithiol, yn cynnwys symbyliad a dod â'r fentoriaeth i ben.
Canlyniad dysgu
-
Deall effaith mentora effeithiol ar ddyheadau a chyflawniadau plant a phobl ifanc mewn amrywiaeth o gyd-destunau.
-
Dangos dealltwriaeth o theorïau a modelau cyfredol ynglŷn â mentora a chynorthwyo, gan ganolbwyntio'n benodol ar weithio gyda phlant a phobl ifanc.
-
Nodi'r plant a’r bobl ifanc sy'n fwyaf tebygol o gael budd o fentora a chynllunio rhaglenni priodol wedi'u seilio ar dystiolaeth iddynt.
-
Dangos y gallu i ddatblygu perthynas fentora briodol eglur gyda chyd-fyfyriwr gan roi ystyriaeth drwyadl i ffactorau moesegol.
-
Adfyfyrio ar eu profiadau dysgu eu hunain a’u perthynas gyda'r sawl maent yn ei fentora er mwyn gwella'u hymarfer.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Astudiaeth Achos | 25.00 | ||
Traethawd | 75.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Private study | Astudiaeth Personol ( 146 awr) |
62 |
Lecture | Darlithoedd a seminarau rhyngweithiol: 22 awr (11 @ 2 awr/wythnos). |
22 |
Fieldwork | Lleoliad: 12 awr (12 @ 1 awr/wythnos). |
12 |
Tutorial | Tiwtorial: 4 awr (4 @ 1 awr/wythnos). |
4 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Literacy - Proficiency in reading and writing through a variety of media
- Computer Literacy - Proficiency in using a varied range of computer software
- Self-Management - Able to work unsupervised in an efficient, punctual and structured manner. To examine the outcomes of tasks and events, and judge levels of quality and importance
- Exploring - Able to investigate, research and consider alternatives
- Information retrieval - Able to access different and multiple sources of information
- Inter-personal - Able to question, actively listen, examine given answers and interact sentistevely with others
- Critical analysis & Problem Solving - Able to deconstruct and analyse problems or complex situations. To find solutions to problems through analyses and exploration of all possibilities using appropriate methods, rescources and creativity.
- Safety-Consciousness - Having an awareness of your immediate environment, and confidence in adhering to health and safety regulations
- Presentation - Able to clearly present information and explanations to an audience. Through the written or oral mode of communication accurately and concisely.
- Mentoring - Able to support, help, guide, inspire and/or coach others
- Caring - Showing concern for others; caring for children, people with disabilities and/or the elderly
- Argument - Able to put forward, debate and justify an opinion or a course of action, with an individual or in a wider group setting
- Self-awareness & Reflectivity - Having an awareness of your own strengths, weaknesses, aims and objectives. Able to regularly review, evaluate and reflect upon the performance of yourself and others
- Leadership - Able to lead and manage, develop action plans and objectives, offer guidance and direction to others, and cope with the related pressures such authority can result in
Adnoddau
Rhestr ddarllen Talis
http://readinglists.bangor.ac.uk/modules/xac-2039.htmlCyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Opsiynol mewn cyrsiau:
- X316: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymdeithaseg year 2 (BA/APIC)
- X318: BA Astudiaeth Plentyndod ac Ieuenctid a Pholisi Cymdeithasol year 2 (BA/APIPC)
- X320: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Seicoleg year 2 (BA/APIS)
- X319: BA Childhood and Youth Studies and Psychology year 2 (BA/CYP)
- X317: BA Childhood and Youth Studies and Social Policy year 2 (BA/CYSP)
- X315: BA Childhood and Youth Studies and Sociology year 2 (BA/CYSS)
- X321: BA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymraeg year 2 (BA/PIC)