Modiwl XCC-1212:
Astudiaethau Craidd 1
Core Studies 2025-26
XCC-1212
2025-26
School of Education
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Kate Jones
Overview
Bydd y modiwl hwn yn archwilio datblygiad plant a damcaniaethau sy'n gysylltiedig â dysgu ac addysgeg. Trafodir cyfrifoldebau cyfreithiol athrawon hefyd i sicrhau bod Athrawon Cyswllt yn deall eu cyfrifoldebau fel gweithwyr proffesiynol. Cyflwynir Athrawon Cyswllt i bwysigrwydd y Gymraeg a dwyieithrwydd.
Bydd pedwar diben meysydd y cwricwlwm yn cael eu hymgorffori trwy gydol y modiwl.
Bydd y modiwl yn canolbwyntio ar blant sy'n datblygu fel:
-Dysgwyr uchelgeisiol, galluog sy'n barod i ddysgu trwy gydol eu bywydau.
-Cyfranwyr mentrus, creadigol, yn barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith.
-Dinasyddion moesegol, gwybodus o Gymru a'r byd.
-Unigolion iach, hyderus, yn barod i fyw bywydau boddhaus fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
Bydd Athrawon cyswllt yn adnabod eu sgiliau iaith personol Cymraeg ar lefel trothwy ac yn dechrau annerch y sgiliau gwrando, siarad, darllen ac ysgrifennu yn unol â gofynion y Fframwaith iaith [Cymraeg} ar gyfer ymarferwyr addysgol, Llywodraeth Cymru.
Astudir agweddau ar ymwybyddiaeth iaith, strategaethau addysgeg a chaffael a datblygu llythrennedd dysgwyr yn yr ysgol gynradd.
Cynnwys y Modiwl: - Cyflwyniad i ddamcaniaethau dysgu ac addysgeg. - Cyflwyniad i addysgu a dysgu mewn ystafelloedd dosbarth amrywiol. - Adeiladu ystafelloedd dosbarth cynhwysol. -Cyflwyniad i Anghenion Dysgu Ychwanegol. - Addysgu plant sydd â Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod. - Dulliau Cadarnhaol ar gyfer rheoli ymddygiad yn yr ystafell ddosbarth.
Dulliau Ymchwil a Methodoleg:
Mae ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn sail i gynnwys y modiwl hwn a bydd yn cael ei gyflwyno mewn ffordd sy'n cyfleu sut mae theori ac ymarfer yn plethu. Yn y modiwl hwn byddwn yn cyflwyno a disgrifio'n glir gryfderau a gwendidau tystiolaeth yn y theori a'r arfer diweddaraf sy'n sail i'r addysgeg a'r arferion ystafell ddosbarth a gwmpesir. Bydd cynnwys a chyflwyniad y modiwl yn cyflwyno myfyrwyr i'r pwysigrwydd o ddatblygu eu gallu i fod yn ddefnyddwyr ac yn gynhyrchwyr ymchwil a datblygu eu gwybodaeth am y sbectrwm ymchwil sy'n llywio ymarfer addysgu.
Mae hyn yn cynnwys cyflwyniad i strategaethau a sgiliau arsylwi:
• Ymarfer myfyriol.
• Strategaethau arsylwi fel dulliau ymchwil.
• Arsylwi ar wahaniaethau dysgu ac ymddygiad.
• Ystyriaethau moesegol ar gyfer ymchwiliad proffesiynol.
Assessment Strategy
-trothwy-(D) Bydd yr holl ganlyniadau dysgu wedi'u cyflawni i lefel foddhaol. Bydd gwybodaeth a dealltwriaeth o gynnwys y modiwl yn cael ei ategu gan ystod foddhaol o theori theori, ymarfer ac ymchwil. Bydd ymgeiswyr wedi dangos tystiolaeth foddhaol o ddadansoddiad beirniadol wrth fyfyrio ar addysgu a dysgu. Bydd myfyrwyr wedi datblygu eu sgiliau astudio i safon foddhaol a byddant yn gallu cyfathrebu i safon foddhaol mewn cyd-destun proffesiynol ac academaidd.
-da -(B) Bydd mwyafrif y canlyniadau dysgu wedi'u cyflawni i lefel dda. Gall rhagoriaeth mewn rhai canlyniadau dysgu gydbwyso cyrhaeddiad boddhaol mewn eraill. Bydd gwybodaeth a dealltwriaeth dda o gynnwys y modiwl yn cael ei ategu gan ystod dda o lenyddiaeth theori, ymarfer ac ymchwil. Bydd ymgeiswyr yn darparu dadansoddiad beirniadol da wrth fyfyrio ar ystod sylweddol o arddulliau addysgu a dysgu. Bydd myfyrwyr wedi datblygu eu sgiliau astudio i safon dda a byddant yn gallu cyfathrebu i safon dda mewn cyd-destun proffesiynol ac academaidd.
-rhagorol-(A) Bydd mwyafrif y canlyniadau dysgu wedi'u cyflawni i lefel ragorol a bydd yr holl ganlyniadau dysgu yn dda o leiaf. Bydd gwybodaeth a dealltwriaeth ddofn o gynnwys y modiwl yn cael ei ategu gan ystod eang o theori theori, ymarfer ac ymchwil. Bydd ymgeiswyr yn darparu dadansoddiad beirniadol rhagorol wrth fyfyrio ar ystod eang o arddulliau addysgu a dysgu. Bydd myfyrwyr wedi datblygu eu sgiliau astudio i safon ragorol a byddant yn gallu cyfathrebu i safon ragorol mewn cyd-destun proffesiynol ac academaidd.
Learning Outcomes
- U1: Datblygu gwybodaeth sylfaenol am addysgu dysgwyr ag ADY, y rhai o gefndiroedd amrywiol ac arferion cynhwysol.
- U2: Dangos dealltwriaeth glir o rôl y Cwricwlwm i Gymru a sut mae'n cael ei gymhwyso yn ymarferol mewn lleoliad addysgol penodol.
- U3: Dangos tystiolaeth briodol o allu mewn strategaethau arsylwi ymarferol ac ymchwiliad proffesiynol.
- U4: Nodi cyfrifoldebau cytundebol, bugeiliol a chyfreithiol athrawon.
Assessment method
Essay
Assessment type
Crynodol
Description
Theoriau Dylanwadol Addysgu a Dysgu
Weighting
60%
Due date
21/01/2026
Assessment method
Logbook Or Portfolio
Assessment type
Crynodol
Description
XCC-1212: Portffolio Cymraeg Rhan B: tystiolaeth o sgiliau iaith personol myfyriwr (gwrando, llafar, darllen ac ysgrifennu) a’r gallu i ddatblygu llythrennedd dysgwyr ar gyfer Fframwaith cymhwysedd iaith ar gyfer ymarferwyr addysgol.
Weighting
40%
Due date
18/03/2026
Assessment method
Logbook Or Portfolio
Assessment type
Ffurfiannol
Weighting
0%
Due date
12/11/2025