Modiwl LCF-3030:
Sgiliau Iaith Ffrangeg

Ffeithiau’r Modiwl

Rhedir gan School of Languages, Literatures and Linguistics

30 Credyd neu 15 Credyd ECTS

Semester 1 a 2

Trefnydd: Dr Jonathan Ervine

Amcanion cyffredinol

  1. Cyfnerthu elfennau gramadegol penodol.
  2. Meithrin sgiliau cyfieithu i ac o'r Ffrangeg ar lefel uwch.
  3. Meithrin sgiliau llafar a gwrando o safon uchel trwy wylio a gwrando ar amrywiaeth eang o ddeunyddiau.
  4. Hyrwyddo defnydd priodol o arddulliau a chyweiriau mewn gwaith ysgrifenedig a llafar.
  5. Datblygu a mireinio sgiliau ysgrifennu ar gyfer traethodau a thasgau aralleirio.

Bydd myfyrwyr sy'n dilyn y modiwl hwn yn gweithio tuag at gyrraedd lefel C1/C2 y Fframwaith Cyfeirio Ewropeaidd Cyffredin ar gyfer Ieithoedd (CEFR).

Cynnwys cwrs

Nod y modiwl 30 credyd hwn sy'n para trwy'r flwyddyn yw hyrwyddo defnydd priodol o arddull a chywair ym mhob darn o waith ysgrifenedig a sicrhau bod myfyrwyr yn gallu ymdrin ag amrywiadau cywair a mynegiant idiomatig mewn modd hyderus a chywir. Trwy ddarllen testunau amrywiol a gweld strwythurau gramadegol cymhleth, disgwylir i fyfyrwyr feithrin sgiliau darllen ac ysgrifennu sy'n cyfateb i safon myfyrwyr yn eu blwyddyn olaf.

Meini Prawf

trothwy

40-49%: I ennill credyd, rhaid i'r myfyrwyr ddangos gallu cyffredinol ym mhob un o'r sgiliau a brofir.

da

50-69%: Bydd y myfyrwyr yn dangos ystod dda o eirfa, gallu gramadegol eang a'r gallu i'w mynegi eu hunain yn effeithiol ymhob un o'r sgiliau angenrheidiol.

ardderchog

70+%: Bydd yr ymgeiswyr gorau yn dangos galluoedd sy'n ymylu ar fod yn rhai siaradwr brodorol ym mhob un o'r sgiliau a brofir, gyda lefel uchel o hyder a dawn wrth eu mynegi eu hunain, ac yn defnyddio'r agweddau technegol ar yr iaith mewn modd sydd, i raddau helaeth, yn naturiol.

Canlyniad dysgu

  1. Bydd myfyrwyr wedi cael cysylltiad â'r prosesau, yr arferion a'r syniadau sydd ynghlwm â chyfieithu.

  2. Bydd myfyrwyr yn dangos meistrolaeth soffistigedig o'r Ffrangeg wrth ysgrifennu traethodau, a hynny gan ddefnyddio cywair uwch a geirfa addas.

  3. Bydd gan y myfyrwyr ymwybyddiaeth ehangach o wahanol gyweiriau'r iaith a'r mathau o fynegiant.

  4. Bydd gan y myfyrwyr eirfa ehangach mewn perthynas â'r themâu a astudir.

  5. Bydd y myfyrwyr yn gallu cynnig cyfieithiadau sy'n fanwl-gywir ac yn dangos empathi, sef nid yn unig yn cyfleu ystyr y testun ond hefyd yn cyfleu ei naws.

  6. Bydd y myfyrwyr yn gallu cyflwyno ac amddiffyn cyflwyniadau llafar sy'n soffistigedig o ran cynnwys ac arddull, gan ddangos meistrolaeth gadarn o'r iaith briodol fel y byddai'n cael ei siarad gan siaradwyr brodorol.

  7. Bydd y myfyrwyr yn dangos lefelau uwch o ddealltwriaeth wrth wrando, gan ddangos y gallu i ddeall y berthynas rhwng yr iaith lafar a'r iaith ysgrifenedig.

Dulliau asesu

Math Enw Disgrifiad Pwysau
Listening comprehension 10
Essay 10
Translation into English/Welsh 10
Translation into French 10
Article Summary/paraphrasing 10
Translation Exam 25
Oral Exam 25

Strategaeth addysgu a dysgu

Oriau
Private study

Ymarfer sgiliau iaith, adolygu, cwblhau aseiniadau.

234
Seminar

3 x dosbarth 1 awr pob wythnos am 11 wythnos ymhob tymor:

1 x dosbarth cyfieithu

1 x dosbarth sgiliau iaith

1 x dosbarth llafar

66

Sgiliau Trosglwyddadwy

  • Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
  • Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
  • Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
  • Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
  • Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
  • Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
  • Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
  • Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
  • Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.

Sgiliau pwnc penodol

  • The ability to use the target language creatively and precisely in short written assignments in the target language. (Benchmark statement 5.14)
  • The ability to translate short passages into and out of the target language. (Benchmark statement 5.3, 5.4)
  • Effective oral communication and presentation skills (including delivery and argument development, discussion and defence) in the target language through individual and/or group discussions. (Benchmark statement 5.3, 5.4)
  • The ability to use the target language creatively and precisely in oral assignments, showing familiarity with a range of topics and registers in formal and informal situations. (Benchmark statement 5.3, 5.4)
  • Develop aural comprehension skills in the target language, supported by a wide range of appropriate materials in different media. (Benchmark statement 5.3, 5.4)
  • The ability to read, understand and summarise written texts in the target language. (Benchmark statement 5.3, 5.4)
  • The ability to use the target language creatively and precisely in sophisticated written assignments in the target language. (Benchmark statement 5.14)
  • The ability to translate sophisticated passages into and out of the target language. (Benchmark statement 5.3, 5.4)
  • Fully proficient to skilful oral communication and presentation skills (including delivery and argument development, discussion and defence) in the target language through individual and/or group discussions. (Benchmark statement 5.3, 5.4)
  • The ability to use the target language creatively and precisely in oral assignments, showing adroitness with a very wide range of topics and registers in formal and informal situations. (Benchmark statement 5.3, 5.4)
  • Further develop aural comprehension skills in the target language, supported by a wide range of appropriate materials in different media. (Benchmark statement 5.3, 5.4)
  • The ability to read, understand and summarise more sophisticated written texts in the target language. (Benchmark statement 5.3, 5.4)

Adnoddau

Rhagofynion a Chydofynion

Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn

Gorfodol mewn cyrsiau: