Modiwl CXC-3008:
Ymarfer Ysgrifennu Pellach
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Arts, Culture and Language
20.000 Credyd neu 10.000 Credyd ECTS
Semester 1 a 2
Trefnydd: Prof Angharad Price
Amcanion cyffredinol
Modiwl ar gyfer myfyrwyr ail iaith yn unig a bydd ar gael os bernir bod angen blwyddyn ychwanegol o sylw manwl i iaith a mynegiant ysgrifenedig.
Prif amcan y modiwl hwn yw datblygu gallu myfyrwyr i ysgrifennu Cymraeg rhugl a graenus. Drwy gyfres o ymarferion wythnosol, rhoddir prawf ar eu defnydd o Gymraeg ysgrifenedig mewn gwahanol gyweiriau ieithyddol. Law yn llaw â hynny, datblygir eu dealltwriaeth o'r rhesymau gramadegol dros y cywiriadau a wneir. Bydd myfyrwyr yn cyfrannu at drafodaeth ar faterion ieithyddol yn y dosbarth ac yn ymgynefino â chyflwyno'n rheolaidd dasgau cryno ac amrywiol.
Cynnwys cwrs
Modiwl ar gyfer myfyrwyr ail iaith yn unig a bydd ar gael os bernir bod angen blwyddyn ychwanegol o sylw manwl i iaith a mynegiant ysgrifenedig.
Mae pwyslais cwbl ymarferol i'r modiwl hwn sef ymarfer Cymraeg ysgrifenedig. Bob wythnos gosodir tasg fer (300 gair, ar gyfartaledd) o wahanol natur, e.e. ysgrif, stori, trafodaeth neu gyfieithiad, a chanolbwyntir yn y dosbarth ar y camgymeriadau a'r gwendidau sy'n nodweddu'r gwaith a ddaw i law. Bydd hyn yn arwain at drafodaethau ymarferol ar sut i ddefnyddio'r Gymraeg. Gwneir hynny drwy gyfres o ymarferion wythnosol a gwblheir gan y myfyrwyr yn unigol a fydd yn esgor ar drafodaeth ddosbarth ar y camgymeriadau. Y bwriad yw sicrhau hyfforddiant trwyadl mewn iaith a mynegiant.
Meini Prawf
trothwy
D- i D+
Dangos gallu i ysgrifennu Cymraeg gweddol glir a chywir.
Dangos gallu i amrywio ar gywair ac arddull yn ôl gofynion y dasg.
Dangos dealltwriaeth weddol o reolau a phrosesau gramadeg.
da
B- i B+
Dangos gallu i ysgrifennu Cymraeg clir a chywir iawn at ei gilydd.
Dangos gallu da i amrywio cywair ac arddull yn ôl gofynion y dasg.
Dangos dealltwriaeth dda o reolau a phrosesau gramadeg.
C- i C+
C- i C+
Dangos gallu i ysgrifennu Cymraeg rhesymol glir a chywir.
Dangos gallu i amrywio peth ar gywair ac arddull yn ôl gofynion y dasg.
Dangos dealltwriaeth resymol o reolau a phrosesau gramadeg.
ardderchog
A- i A*
Dangos gallu o radd uchel i ysgrifennu Cymraeg clir a chywir.
Dangos gallu o radd uchel i amrywio cywair ac arddull yn ôl gofynion y dasg.
Dangos dealltwriaeth drwyadl o reolau a phrosesau gramadeg.
Canlyniad dysgu
-
Drwy ymarfer ysgrifennu Cymraeg yn rheolaidd, ennill hyder wrth ei defnyddio'n ymarferol.
-
Drwy ymarfer ysgrifennu Cymraeg yn rheolaidd, dysgu sgiliau hunanfeirniadol, e.e. golygu a phrawfddarllen gwaith.
-
Deall y rhesymau gramadegol dros y cywiriadau a wneir a'u hesbonio.
-
Ymarfer mewn gwahanol gyweiriau ieithyddol i safon uchel.
-
Ymgynefino â chyflwyno tasgau cryno ac amrywiol a heriol yn rheolaidd.
-
Cyfrannu at drafodaeth ieithyddol yn y dosbarth ac arwain trafodaeth pan fo angen.
-
Ysgrifennu Cymraeg rhugl a graenus i safon uchel.
Dulliau asesu
Math | Enw | Disgrifiad | Pwysau |
---|---|---|---|
Tasgau wythnosol S1 | 50.00 | ||
Tasgau wythnosol S2 | 50.00 |
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Practical classes and workshops | Trwy gyfres o seminarau a gweithdai wythnosol, yn seiliedig ar ymarferion ysgrifenedig a gywirir a thrwy hunan-adlewyrchu, sicrheir y deilliannau dysgu. |
20 |
Private study | 180 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Gwaith Tîm - Gallu cydweithio'n adeiladol ag eraill ar dasg gyffredin, ac/neu fod yn rhan o dîm gweithio o ddydd i ddydd
- Mentora - Gallu cefnogi, helpu, arwain, ysbrydoli ac/neu hyfforddi eraill
- Gofalu - Dangos consyrn am eraill; gofalu am blant, pobl ag anableddau ac/neu'r henoed
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
- Arweinyddiaeth - Gallu arwain a rheoli, datblygu cynlluniau gweithredu ac amcanion, cynnig arweiniad a chyfarwyddyd i eraill, ac ymdopi â'r pwysau sy'n gysylltiedig ag awdurdod o'r fath
Cyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Gorfodol mewn cyrsiau:
- Q562: BA Cymraeg year 3 (BA/CYM)
- Q565: BA Cymraeg (4 year) year 4 (BA/CYM4)