Modiwl CXC-4005:
Y Celt: Sefydliadau Celtaidd
Ffeithiau’r Modiwl
Rhedir gan School of Arts, Culture and Language
40.000 Credyd neu 20.000 Credyd ECTS
Trefnydd: Dr Aled Llion Jones
Amcanion cyffredinol
Astudir y prif agweddau ar lythrennedd ‘Geltaidd’ yr oesau canol, yn farddoniaeth a rhyddiaith, dros rychwant o genres o’r chwedlau a’r canu llys i’r cyfreithiau a’r bucheddau. Canolbwyntir ar Gymru ac Iwerddon, ond caiff yr ieithoedd Celteg eraill sylw hefyd. Edrychir hefyd ar barhad y traddodiadau cynnar hyn i’r byd modern a’r ugeinfed ganrif, ac ystyrir yr hyn sydd gan y dystiolaeth lenyddol i’w dystio am agweddau siaradwyr yr ieithoedd Celteg at gysyniad y ‘Celtaidd’ ei hun. Bydd y myfyriwr yn meithrin ymwybyddiaeth feirniadol o’r ffynonellau cynradd a gynrychiolir ac a gam-liwir mewn nifer o drafodaethau o’r ‘Celtaidd’. Bydd yr elfen gymharol yn cynorthwyo’r myfyriwr i fwrw golwg beirniadol ar y traddodiad ‘Celtaidd’ unedig. Bydd y myfyrwyr yn datblygu eu sgiliau mewn un o'r ieithoedd Celtaidd canoloesol (fel arfer y Gymraeg).
Cynnwys cwrs
Edrychir ar ddeunydd o bum prif faes y bydd myfyrwyr yn medru dewis ysgrifennu traethawd yn ymwneud â nhw (mae'r meysydd hyn yn aml yn gorgyffwrdd, ac ni chânt eu dysgu yn llwyr ar wahân):
i) ‘Mytholeg(au)’: archwilio’r dystiolaeth a geir am dduwiau a chrefydd
ii) Llawysgrifau a llythrennedd: ystyried prif lawysgrifau’r traddodiadau Cymreig a Gwyddelig
iii) Eglwys a Seintiau: ‘sefydliad’ yr Eglwys Geltaidd a Christnogaeth Geltaidd
iv) Rhyddiaith: y 'Mabinogion' a’r Cylchoedd Gwyddeleg
v) Barddoniaeth: y Bardd a’r traddodiad barddol yng Nghymru ac Iwerddon; y traddodiadau mawl a dychan; barddoniaeth Gymraeg gyfoes a’r Eisteddfod.
Hefyd mae'r elfen ieithyddol.
Meini Prawf
trothwy
Bydd myfyrwyr trothwyol (graddau C/50%) yn arddangos rhychwant o wybodaeth briodol – neu ddyfnder priodol – mewn o leiaf rannau o’r maes perthnasol, a byddant yn llwyddo’n rhannol o leiaf i greu dadl sy’n mynd i’r afael â’r pynciau a drafodir yn y traethawd. Byddant yn dangos ymwybyddiaeth o’r mathau o dystiolaeth graidd sydd ar gael, ac o’r ffordd y gellir defnyddio a dehongli’r dystiolaeth.
da
Da Bydd myfyrwyr da (graddau B/60%) yn arddangos galluoedd sicr yn yr holl agweddau a nodwyd yn y paragraff uchod, ac yn dangos o leiaf ychydig o wreiddioldeb yn eu darlleniadau o’r testunau.
ardderchog
Rhagorol Bydd myfyrwyr ardderchog (graddau A/70%) yn arddangos y galluoedd sicr hyn ar draws y meini prawf, yn ogystal â dyfnder arbennig yn eu gwybodaeth a/neu gywreinrwydd eu dadansoddi. Dangosant hefyd wreiddioldeb yn eu gwaith darllen a dehongli, a hynny’n gyson.
Canlyniad dysgu
-
Bydd y myfyrwyr yn deall yn fanwl y gwahanol ffynonellau ar gyfer, ac agweddau ar, y traddodiadau llenyddol ‘Celtaidd’, a’r sefydliadau cymdeithasol a’u cynhaliodd.
-
Byddant yn medru cymhwyso medrau ymchwil at y maes penodol hwn, gan ddatblygu dealltwriaeth o wahanol agweddau ar y ffyrdd y meddyliodd siaradwyr yr ieithoedd Celteg am eu hunaniaeth eu hun.
-
Byddant yn cynllunio, strwythuro a chwblhau traethawd academaidd fydd yn archwilio i agweddau penodol o’r maes.
-
Byddant yn gallu cyflwyno dadleuon clir a dealladwy sy’n seiliedig ar dystiolaeth, am werth a phwrpas llythrennedd a diwylliannau’r gair ysgrifenedig yn y cymdeithasau Celtaidd canoloesol.
-
Byddant hefyd yn gallu cyflwyno a thrafod ar lafar faes yr astudiaeth unigol.
-
Byddant yn deall prif nodweddion Cymraeg Canol ac yn medru darllen ystod o destunau yn yr iaith honno.
Dulliau asesu
Strategaeth addysgu a dysgu
Oriau | ||
---|---|---|
Private study | Cyflwyniadau llafar |
378 |
Seminar | Seminarau, 2 awr yr wythnos x 11 |
22 |
Sgiliau Trosglwyddadwy
- Llythrennedd - Medrusrwydd mewn darllen ac ysgrifennu drwy amrywiaeth o gyfryngau
- Rhifedd - Medrusrwydd wrth ddefnyddio rhifau ar lefelau priodol o gywirdeb
- Defnyddio cyfrifiaduron - Medrusrwydd wrth ddefnyddio ystod o feddalwedd cyfrifiadurol
- Hunanreolaeth - Gallu gweithio mewn ffordd effeithlon, prydlon a threfnus. Gallu edrych ar ganlyniadau tasgau a digwyddiadau, a barnu lefelau o ansawdd a phwysigrwydd
- Archwilio - Gallu ymchwilio ac ystyried dewisiadau eraill
- Adalw gwybodaeth - Gallu mynd at wahanol ac amrywiol ffynonellau gwybodaeth
- Sgiliau Rhyngbersonol - Gallu gofyn cwestiynau, gwrando'n astud ar atebion a'u harchwilio
- Dadansoddi Beirniadol & Datrys Problem - Gallu dadelfennu a dadansoddi problemau neu sefyllfaoedd cymhleth. Gallu canfod atebion i broblemau drwy ddadansoddiadau ac archwilio posibiliadau
- Cyflwyniad - Gallu cyflwyno gwybodaeth ac esboniadau yn glir i gynulleidfa. Trwy gyfryngau ysgrifenedig neu ar lafar yn glir a hyderus.
- Gwaith Tîm - Gallu cydweithio'n adeiladol ag eraill ar dasg gyffredin, ac/neu fod yn rhan o dîm gweithio o ddydd i ddydd
- Mentora - Gallu cefnogi, helpu, arwain, ysbrydoli ac/neu hyfforddi eraill
- Rheloaeth - Gallu defnyddio, cydlynu a rheoli adnoddau (dynol, ffisegol ac/neu ariannol)
- Dadl - Gallu cyflwyno, trafod a chyfiawnhau barn neu lwybr gweithredu, naill ai gydag unigolyn neu mewn grwˆp ehangach
- Hunanymwybyddiaeth & Ystyried - Bod yn ymwybodol o'ch cryfderau, gwendidau, nodau ac amcanion eich hun. Gallu adolygu ,cloriannu a myfyrio'n rheolaidd ar eich perfformiad eich hun ac eraill.
Adnoddau
Goblygiadau o ran adnoddau ar gyfer myfyrwyr
Dim
Rhestrau Darllen Bangor (Talis)
http://readinglists.bangor.ac.uk/modules/cxc-4005.htmlCyrsiau sy’n cynnwys y modiwl hwn
Opsiynol mewn cyrsiau:
- Q3AB: MA Arthurian Literature year 1 (MA/ALI)
- Q5AQ: MA The Celts year 1 (MA/CEL)