Modiwl CXD-3019:
Sgriptio
Sgriptio 2023-24
CXD-3019
2023-24
School Of Arts, Culture And Language
20 credits
Module Organiser:
Manon Williams
Overview
Yn y modiwl hwn dysgir myfyrwyr sut i lunio sgript tua 40 munud o hyd ar gyfer y llwyfan. Bydd pedwar cam i’r gweithgaredd: yn gyntaf, trafodir gofynion dramatig y cyfrwng; yn ail, gofynnir iddynt lunio braslun o blot y ddrama; yn drydydd gofynnir iddynt greu cymeriadau a dadansoddiad manwl o’u natur; yn bedwerydd, eir ymlaen i rannu’r plot yn olygfeydd. Y cam olaf yw llunio’r ddeialog a cheir cyfarwyddyd manwl ar sut i wneud hynny. Dysgir hefyd sut i gyflwyno sgript orffenedig sy’n dilyn confensiynau arferedig.
Bydd y modiwl hwn ar gael i fyfyrwyr lefel 2 a 3, ond bydd disgwyl i fyfyrwyr lefel 3 gyflwyno gwaith aeddfetach ei thema a mwy dychmygus o safbwynt ei ffurf a bydd amrywiad o ran y canlyniadau dysgu.
Assessment Strategy
-threshold -Dylai'r sgript orffenedig ddangos gallu i ddewis thema sy'n gweddu i'r cyfrwng a ddewiswyd ynghyd â gallu i lunio plot. Dylai'r cymeriadau ddangos peth dyfnder seicolegol. Dylai'r ddeialog redeg yn llyfn a naturiol. Dylai diwyg y sgript ddilyn y confensiynau arferedig. -good -Dylai'r sgript orffenedig ddangos gallu i ddewis thema gyffrous sy'n gweddu i'r cyfrwng a ddewiswyd ynghyd â gallu i lunio plot cadarn. Dylai'r cymeriadau ddangos dyfnder seicolegol. Dylai'r ddeialog redeg yn llyfn a naturiol ond dylai hefyd ddangos peth ymwybyddiaeth o bwysigrwydd is-destun mewn rhai sefyllfaoedd dramatig. Dylai diwyg y sgript ddilyn y confensiynau arferedig. -excellent -Dylai'r sgript orffenedig ddangos gallu i ddewis thema wreiddiol a chyffrous a honno'n gweddu i'r cyfrwng a ddewiswyd ynghyd â gallu anghyffredin i lunio plot cadarn a gafaelgar. Dylai'r cymeriadau ddangos gwir ddyfnder a chymhlethdod seicolegol. Dylai'r ddeialog redeg yn llyfn a naturiol a hefyd ddangos ymwybyddiaeth o bwysigrwydd is- destun mewn sefyllfaoedd dramatig. Dylai'r gwaith yn ei gyfanrwydd ddangos elfen o arbrofi o safbwynt adeiladedd y plot a natur y ddeialog. Dylai diwyg y sgript ddilyn y confensiynau arferedig.