Modiwl CXD-3118:
Y Sgrin Fach Gymraeg
Y Sgrin Fach Gymraeg 2023-24
CXD-3118
2023-24
School Of Arts, Culture And Language
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Manon Williams
Overview
Yn y modiwl hwn astudir nodweddion y gyfres ddrama a’r ddrama gyfres fel cyfryngau dramatig ac olrheinir datblygiad y cyfryngau yng Nghymru rhwng diwedd y 1970au a’r cyfnod presennol. Canolbwyntir ar ddadansoddi themâu a chynnwys gan archwilio’r berthynas rhwng cymeriadau a’r modd y caiff Cymru (a’r gwahanol ardaloedd o fewn y wlad) a’i phobl eu portreadu ar y sgrin deledu Gymraeg. Astudir y technegau a ddefnyddir mewn cyfresi drama a dramâu cyfres i ddenu gwylwyr a chyfleu tensiwn. Canolbwyntir ar drawstoriad eang o weithiau (9 cyfres) o wahanol gyfnodau ac o wahanol ardaloedd gan gynnwys gweithiau gan ddramodwyr megis Meic Povey a Siwan Jones.
Yn gyfochrog ag astudio'r 9 cyfres uchod, bydd y modiwl hefyd yn canolbwyntio ar astudio un gyfres gyflawn, sef Pen Talar.
Bydd y modiwl hwn ar gael i fyfyrwyr lefel 2 a 3. Bydd y cynnwys yr un fath ond bydd natur y tasgau’n wahanol.
Assessment Strategy
-threshold -D- i D+Dylai'r traethawd a'r drafodaeth ddadansoddol ddangos cynefindra â'r prif ffynonellau gwybodaeth eraill ynghyd â'r gallu i gywain, dadansoddi a mynegi barn bersonol ar ddadleuon eraill yn y maes. Dylai'r mynegiant ddangos gafael ar gystrawen a theithi'r iaith Gymraeg. -good -B- i B+Dylai'r traethawd a'r drafodaeth ddadansoddol ddangos gwybodaeth dda o'r ffynonellau cynradd ac eilradd safonol ynghyd â'r gallu i gywain a chrynhoi'n ddeallus wybodaeth berthnasol a dibynadwy o nifer sylweddol o ffynonellau eraill, boed y rheini'n rhai ysgrifenedig, electronig neu'n rhai llafar. Dylid hefyd ddangos parodrwydd i fynegi barn bersonol a gallu i ddadansoddi a beirniadu, mewn modd cytbwys a chlir, ddadleuon eraill yn y maes. Dylai'r mynegiant ddangos gafael dda ar gystrawen a theithi'r Gymraeg. -excellent -A- i A*Dylai'r traethawd a'r drafodaeth ddadansoddol ddangos gwybodaeth dda o'r ffynonellau cynradd ac eilradd safonol ynghyd â'r gallu i gywain a chrynhoi'n ddeallus wybodaeth berthnasol a dibynadwy o nifer sylweddol o ffynonellau eraill, boed y rheini'n rhai ysgrifenedig, electronig neu'n rhai llafar. Dylid hefyd ddangos parodrwydd i fynegi barn bersonol a gallu i ddadansoddi a beirniadu, mewn modd cytbwys a chlir, ddadleuon eraill yn y maes. Dylai'r mynegiant ddangos gafael sicr ar gystrawen a theithi'r Gymraeg.
Assessment type
Summative
Weighting
60%
Assessment type
Summative
Weighting
40%